Sut mae Canvas yn diffinio’r termau a ddefnyddir i ddisgrifio ei nodweddion a’i swyddogaethau?

Gall defnyddwyr Canvas newydd ddod ar draws terminoleg newydd yn Canvas. Mae’r wers hon yn rhestr sy'n nodi’r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir yn Canvas.

Cyfrif

Mae Cyfrif yn cynrychioli uned sefydliad gweinyddol yn Canvas. Mae gan bob enghraifft o Canvas botensial i gynnwys hierarchaeth o gyfrifon ond maent yn dechrau gydag un cyfrif yn unig (y cyfeirir ato fel y cyfrif gwraidd). Gall cyfrif gynnwys isgyfrif hefyd. Gall gweinyddwyr Canvas reoli pob cyfrif ac isgyfrif ar gyfer eu sefydliadau.

Mae Cyfrif hefyd yn cyfeirio at gyfrif defnyddiwr, sy’n cadw proffil, hysbysiadau, ffeiliau, gosodiadau ac e-Bortffolios defnyddiwr.

Gweithredu fel Defnyddiwr

Mae Gweithredu fel Defnyddiwr yn cyfeirio at weld Canvas fel defnyddiwr arall. Oni bai eich bod wedi cael caniatâd penodol, dim ond gweinyddwyr sy'n gallu gweithredu fel defnyddwyr eraill yn Canvas.

Ffrwd Gweithgarwch

Mae Ffrwd Gweithgarwch yn dangos yr holl weithgareddau diweddar yn Canvas. Mae dau fath o Ffrydiau Gweithgarwch yn Canvas: Gweithgarwch Cyffredinol a Gweithgarwch Cwrs. Mae’r Ffrwd Gweithgarwch Cyffredinol yn rhan o’r Dangosfwrdd ac yn dangos y gweithgarwch diweddar ar gyfer yr holl gyrsiau. Mae’r Ffrwd Gweithgarwch Cwrs yn rhan o Dudalen Hafan y Cwrs ac mae’n dangos gweithgarwch diweddar ar gyfer cwrs penodol.

Dadansoddi

Mae Dadansoddiadau’n adnodd y gellir ei ddefnyddio i werthuso darnau unigol o gwrs ynghyd â pherfformiad myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae Canvas yn cynnig dau opsiwn ar gyfer Dadansoddi: Dadansoddiadau Clasurol a Dadansoddiadau newydd.

Rhagor o wybodaeth am Ddadansoddiadau Newydd a Dadansoddiadau Clasurol.

Cyhoeddiadau

Mae Cyhoeddiadau yn nodwedd cyfathrebu sy'n caniatáu i addysgwyr bostio cyhoeddiadau ar gyfer yr holl ddefnyddwyr mewn cwrs. Gellir creu cyhoeddiadau mewn cyrsiau ac mewn grwpiau. Hefyd, gall gweinyddwyr Canvas wneud cyhoeddiadau ar gyfer cyfrif Canvas cyfan. Gall addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr ateb i gyhoeddiadau.

Dysgu mwy am Gyhoeddiadau.

Aseiniadau

Mae unrhyw weithgarwch asesu sy’n cael ei greu gan yr addysgwr yn cyfrif fel aseiniad. Gall Aseiniadau gynnwys Aseiniadau, Trafodaethau a Chwisiau. Caiff rhai aseiniadau eu cyflwyno ond ni fyddant yn cael gradd. Bydd aseiniadau eraill yn cael eu cyflwyno all-lein ond yn cael eu tracio yn Llyfr Graddau Canvas neu’n cael eu cyflwyno ar-lein.

Mae Aseiniadau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Mae’r dudalen Aseiniadau yn rhestru’r holl fathau o aseiniadau mewn cwrs.

Yma gallwch ddysgu mwy am Aseiniadau.

Beta

Mae beta yn cyfeirio at fersiwn o gynnyrch sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer profi. Mae gan bob cyfrif Canvas amgylchedd beta i’w ddefnyddio ar gyfer edrych ar nodweddion newydd cyn iddynt gael eu cyhoeddi yn yr amgylchedd cynhyrchu. Nid yw Canvas yn gofyn i gwsmeriaid brofi cynnyrch ond croesawir adborth bob amser.

Cwrs Glasbrint

Mae Cwrs Glasbrint yn gwrs sy’n gwasanaethu fel templed ar gyfer cyrsiau eraill. Caiff cwrs ei osod fel Cwrs Glasbrint yng Ngosodiadau’r Cwrs. Caiff cyrsiau sydd wedi eu cysylltu â Chwrs Glasbrint eu galw yn gyrsiau cysylltiedig. Wrth gysoni Cwrs Glasbrint, bydd cynnwys y Cwrs Glasbrint yn cael ei gopïo i gyrsiau gysylltiedig i gyd-fynd â chynnwys y Cwrs Glasbrint. Gall Cwrs Glasbrint gynnwys ymrestriadau gweinyddwyr ac addysgwyr ond nid ymrestriadau myfyrwyr. Ni all cwrs fod yn gysylltiedig â mwy nag un Cwrs Glasbrint ar y tro.

Calendr

Mae’r Calendr yn adnodd cyfathrebu sy'n dangos yr holl ddigwyddiadau ac aseiniadau i fyfyrwyr yn eu cyrsiau a’u grwpiau.

Mae’r Calendr yn ddolen yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan. Gallwch ddysgu mwy am y Calendr.

Cymuned Canvas

Mae'r adnodd Cymuned Canvas yn adnodd allanol a ddarperir gan Canvas ar gyfer holl gwsmeriaid Canvas. Mae'r adnodd Cymuned Canvas yn cynnwys Canllawiau Canvas, sy'n darparu holl fideos a dogfennau Canvas, sgyrsiau syniadau, grwpiau cymunedol a mwy.

Dathliadau

Mae Dathliadau yn animeiddiadau sy’n ymddangos yn rhyngwyneb Canvas i longyfarch defnyddiwr am orffen tasg. Ar ôl iddyn nhw gael eu galluogi ar lefel y cyfrif, bydd defnyddwyr unigol yn gallu rheoli animeiddiadau dathlu o’r dudalen Gosodiadau Defnyddiwr.

Bydd myfyrwyr yn gallu gweld animeiddiadau dathlu ar y dudalen cyflwyno aseiniad ar gyfer cyflwyniadau sydd ar amser. Bydd addysgwyr yn gallu gweld animeiddiadau dathlu pan fyddan nhw’n rhedeg y dilysydd dolenni os nad oes dalenni annilys yn cael eu darganfod.

Sgwrs

Mae’r adnodd Sgwrsio (Chat) yn darparu ffordd i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs allu cyfathrebu drwy gyfrwng fideo, sain a thestun ar yr un pryd.

Ar ôl i’r nodwedd gael ei hychwanegu at gwrs, mae Sgwrsio yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Cydweithrediadau

Mae Cydweithrediadau yn adnodd sy'n galluogi myfyriwr ac addysgwyr i greu a golygu dogfennau y mae modd eu golygu gan y cwrs cyfan neu unrhyw is-set ar gofrestr y cwrs.

Mae Cydweithrediadau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Cynadleddau

Mae Cynadleddau yn caniatáu i addysgwyr greu rhith ystafelloedd dosbarth a rhyngweithio â’u myfyrwyr mewn amser real gan ddefnyddio adnoddau sain, fideo, rhannu bwrdd gwaith a chyflwyno. Gall myfyrwyr greu cynadleddau mewn grwpiau hefyd.

Mae Cynadleddau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Dysgu mwy am Gynadleddau.

Cod y Cwrs

Mae cod y cwrs yn enw byr ar gwrs. Mae cod y cwrs yn ymddangos ar frig y Ddewislen Crwydro'r Cwrs ac fel rhan o gardiau'r cwrs yn y dangosfwrdd.

Mae cod y cwrs hefyd yn cael ei adnabod fel y cod cyfeirnod neu'r enw byr.

Cyrsiau

Mae cyrsiau yn unedau o gyfarwyddiadau mewn un pwnc sydd fel arfer yn para un tymor. Mae modd i weinyddwyr neu addysgwyr Canvas greu cyrsiau.

Tudalen Hafan y Cwrs

Tudalen Hafan y Cwrs yw’r dudalen gyntaf y bydd myfyrwyr yn ei gweld mewn cwrs. Mae modd addasu Tudalen Hafan y Cwrs i arddangos cynnwys sy’n seiliedig ar ddewis yr addysgwr.

Mae’r Dudalen Hafan yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Adnodd Mewngludo Cwrs

Mae'r Adnodd Mewngludo Cwrs yn caniatáu i gynnwys gael ei fewngludo o gyrsiau Canvas presennol a phecynnau cynnwys o LMS a chyhoeddwyr gwerslyfrau eraill. Mae'r Adnodd Mewngludo Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs.

Dysgu mwy am yr Adnodd Mewngludo Cyrsiau.

Dewislen Crwydro’r Cwrs

Mae Crwydro'r Cwrs yn ddewislen sydd ar ochr chwith cwrs Canvas. Mae’r ddewislen Crwydro'r Cwrs yn cynnwys dolenni crwydro sy’n gysylltiedig â'r holl ardaloedd nodwedd mewn cwrs. Gall addysgwyr addasu dewislen Crwydro'r Cwrs ar gyfer pob cwrs.

Rhestr Atgoffa Wrth Greu Cwrs

Mae’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs yn adnodd ar gyfer addysgwyr sydd newydd ymuno â Canvas ac sydd angen help i greu cwrs Canvas. Mae’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs ar Dudalen Hafan y Cwrs.

Bydd rhai cyfrifon wedi eu ffurfweddu i ddefnyddio'r Tiwtorial Defnyddiwr Newydd yn hytrach na’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs.

Ystadegau'r Cwrs

Mae Ystadegau’r Cwrs yn adnodd i addysgwyr sy’n crynhoi cyfranogiad cyffredinol myfyriwr yn y cwrs.

Statws Cwrs

Mae Statws Cwrs yn cyfeirio at gyflwr cwrs Canvas. Mae pob cwrs Canvas yn dechrau mewn cyflwr heb gyhoeddi, lle mae gweinyddwyr yn gallu rheoli ymrestriadau cwrs ac addysgwyr yn gallu paratoi cynnwys ac aseiniadau ar gyfer myfyrwyr. Mae cyflwr cyhoeddi yn golygu bod y cwrs ar gael i fyfyrwyr. Mae cyflwr wedi dod i ben yn golygu bod y cwrs wedi gorffen ac y gall myfyrwyr weld cynnwys mewn fformat darllen yn unig.

Ffeil CSV

Mae ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu gydag atalnodau (CSV) yn fath o ffeil sydd wedi’i dylunio ar gyfer mewngludo ac allgludo cynnwys. Gall addysgwyr greu ffeil CSV o Excel neu Google Docs.

Dangosfwrdd

Mae'r Dangosfwrdd yn banel o gynnwys sy'n gweithredu fel tudalen lanio ddiofyn Canvas ac mae’n rhoi trosolwg o holl weithgareddau Canvas i ddefnyddwyr. Mae’r Dangosfwrdd yn dangos yr holl gyrsiau a grwpiau, gweithgarwch diweddar, eitemau i'w gwneud, aseiniadau sydd ar y gweill ac adborth diweddar.

Rhannu Uniongyrchol

Mae Rhannu Uniongyrchol yn nodwedd Canvas sy’n gadael i addysgwyr gopïo cynnwys i gwrs arall neu rannu cynnwys gyda defnyddiwr arall. Gellir defnyddio Rhannu Uniongyrchol mewn Aseiniadau, Trafodaethau, Modiwlau, Tudalennau, Cwisiau, a Chwisiau Newydd.

Trafodaethau

Mae'r anodd Trafodaethau yn fforwm sydd wedi’i ddylunio i hwyluso cyfathrebu anffurfiol rhwng myfyrwyr mewn cwrs. Gall trafodaethau hefyd gael eu creu fel aseiniadau at ddibenion graddio. Gall myfyrwyr hefyd ymateb i drafodaethau anffurfiol a thrafodaethau wedi’u graddio yng nghyd-destun grŵp. Mae holl gynnwys Trafodaethau yn gyhoeddus, a gall holl fyfyrwyr cwrs weld trafodaeth ac ymateb iddi.

Mae Trafodaethau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Dysgu mwy am Drafodaethau.

DocViewer

Mae DocViewer Canvas yn adnodd ar gyfer gweld rhagolwg o ddogfennau ac mae’n dangos rhagolwg o ffeiliau ar gyfer mathau o ffeiliau y mae modd delio â nhw. Bydd yn rhaid llwytho rhai mathau o ffeiliau i lawr i’w gweld os nad oes modd gweld rhagolwg ohonynt drwy DocViewer.

Mae DocViewers hefyd yn caniatáu anodiadau mewn aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno ar-lein yn Canvas. Mae modd i fyfyrwyr ac addysgwyr ddefnyddio’r adnodd hwn. Gall myfyrwyr fynd ar DocViewer i gael anodiadau a sylwadau ar y dudalen manylion yr aseiniad, a gall addysgwyr fynd ar DocViewer yn SpeedGrader.

e-Bortffolios

Mae e-Bortffolios yn galluogi myfyrwyr i arddangos eu gwaith gorau i golegau a darpar gyflogwyr. Maent hefyd yn galluogi myfyrwyr i greu cyflwyniadau neu wefannau ysgafn.

Mae e-Bortffolios yn ddolen yn y ddewislen Crwydro Defnyddiwr.

Hafaliadau

Mae hafaliadau yn swyddogaethau mathemategol y gellir eu rhoi a’u gweld mewn sawl rhan o ryngwyneb Canvas. Mae modd ychwanegu hafaliadau gan ddefnyddio’r Golygydd mathemateg yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd neu MathQuil yn New Quizzes. Mae hafaliadau hefyd yn cael eu derbyn ym meysydd testun eraill Canvas, gan gynnwys teitlau aseiniadau a digwyddiadau calendr.

Ffeiliau

Mae Canvas yn darparu storfa ffeiliau ar gyfer pob defnyddiwr, grŵp a chwrs. Gall ffeiliau fod yn rhai cyhoeddus neu’n rhai preifat.

Mae Ffeiliau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro Defnyddiwr neu’r ddewislen Crwydro’r Cwrs. Dysgu mwy am Ffeiliau.

Am Ddim i Athrawon

Mae Am Ddim i Athrawon yn gyfrif Canvas am ddim yn cynnig swyddogaethau hanfodol o’r llwyfan rheoli dysgu.

Dysgu mwy am gyfrifon Am-Ddim-i-Athrawon

Llyfr Graddau

Mae'r Llyfr Graddau yn storio gwybodaeth am gynnydd myfyrwyr yn Canvas. Mae Canvas yn cynnwys dau fath o lyfrau graddau, sef llyfr graddau safonol sy’n rhoi casgliad o asesiadau gradd llythyren neu radd rhif, a Llyfr Graddau Meistroli Dysgu sy'n cydymffurfio asesiadau ar sail deilliannau a safonau dysgu.

Mae’r Llyfr Graddau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs ar gyfer addysgwyr. Dysgu mwy am y Llyfr Graddau.

Graddau

Mae Graddau yn ffordd o fesur perfformiad myfyrwyr. Gall myfyrwyr gyfrifo graddau damcaniaethol ar y dudalen hon. Gall addysgwyr olygu graddau yn gyflym ar gyfer unrhyw gwrs neu adran yn y Llyfr Graddau.

Mae’r Graddau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs ar gyfer myfyrwyr.

Grwpiau

Mae Grwpiau yn adnodd sy'n helpu addysgwyr i rannu myfyrwyr yn unedau llai yn y cwrs. Mae modd creu grwpiau ar gyfer myfyrwyr neu gall myfyrwyr greu grwpiau eu hunain, a hynny er mwyn sicrhau cydweithredu effeithlon.

Mae Grwpiau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan. Dysgu mwy am Grwpiau.

Help

Mae'r nodwedd Help yn rhan o’r ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan ac mae’n helpu defnyddwyr i gael help yn Canvas unrhyw bryd. Gall gweinyddwyr Canvas addasu dolen Help ar gyfer y sefydliad ac mae modd rhoi enw gwahanol ar y nodwedd.

Blwch Derbyn

Mae'r Blwch Derbyn yn adnodd negeseuon a ddefnyddir yn Canvas i gyfathrebu â chwrs, grŵp, myfyriwr unigol neu grŵp o fyfyrwyr. Mae modd anfon negeseuon sy'n cael eu creu yn y Blwch Derbyn at un defnyddiwr neu at fwy nag un defnyddiwr.

Mae’r Blwch Derbyn yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Gallwch ddysgu mwy am y Blwch Derbyn.

Meistroli Dysgu

Mae’r nodwedd Meistroli Dysgu yn sicrhau bod y myfyrwyr yn ennill lefel o feistrolaeth (ee 90% ar brawf gwybodaeth) mewn gwybodaeth ragofynnol cyn symud ymlaen i ddysgu gwybodaeth ddilynol. Caiff meistroli dysgu ei fesur yn aml drwy ddeilliannau.

Mae’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu yn helpu addysgwyr a gweinyddwyr i asesu safonau'r deilliannau a ddefnyddir mewn cyrsiau Canvas. Mae’r llyfr graddau hwn yn helpu sefydliadau i fesur yr hyn mae'r myfyrwyr yn ei ddysgu er mwyn achredu ac asesu anghenion eu myfyrwyr yn well. Mae sgorau myfyrwyr unigol ym mhob deilliant yn seiliedig ar werthoedd deilliant.

MasteryPaths

Mae MasteryPaths yn nodwedd sy'n cael ei galluogi drwy Fodiwlau sy'n gallu delio â meistroli dysgu. Os nad yw myfyrwyr yn ennill meistrolaeth ar gyfer aseiniad, byddant yn cael cymorth ychwanegol i ddysgu ac adolygu'r wybodaeth ac yna’n cael eu profi eto. Bydd y cylch hwn yn parhau nes bydd y dysgwyr yn ennill meistrolaeth ac yn gallu symud ymlaen i’r cam nesaf.

Golygydd Mathemateg

Mae’r Golygydd Mathemateg yn far offer sy’n gydnaws â Latex yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac mae’n ei gwneud hi’n hawdd i addysgwyr ysgrifennu hafaliadau a mynegiadau mathemategol. Gall addysgwyr a myfyrwyr ddefnyddio’r Golygydd Mathemateg wrth greu a gwneud cwisiau.

Graddau wedi'u Safoni

Mae Graddau wedi'u Safoni yn caniatáu i fwy nag un adolygwr raddio cyflwyniadau gan fyfyrwyr a chreu drafft o’r graddau dros dro. Er enghraifft, efallai y bydd addysgwr am i ddau Gynorthwyydd Dysgu raddio pob aseiniad cyn i’r addysgwr bennu ar y radd derfynol.

Modiwlau

Mae Modiwlau yn adnodd a all uno holl gynnwys cwrs mewn cydrannau strwythurol. Gellir grwpio cynnwys modiwl yn ôl wythnos, pwnc neu ddiwrnod. Gellir creu modiwlau er mwyn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau deunyddiau mewn trefn.

Mae Modiwlau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs. Dysgu mwy am Fodiwlau.

Tiwtorial Defnyddiwr Newydd

Mae’r Tiwtorial Defnyddiwr Newydd yn dangos i fyfyrwyr newydd sy'n defnyddio Canvas am y tro cyntaf sut mae dod i ddeall Canvas a defnyddio’r barau ochr sydd ym mhob ardal nodwedd yn Canvas.

Bydd rhai cyfrifon wedi cael eu ffurfweddu i ddefnyddio’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs yn hytrach na’r Tiwtorial Defnyddiwr Newydd.

Hysbysiadau

Mae Hysbysiadau yn caniatáu i ddefnyddwyr bennu lle a phryd y byddant yn cael eu hysbysu am weithgareddau yn Canvas. Gall holl ddefnyddwyr Canvas addasu’r Gosodiadau Hysbysiadau yn eu Proffil er mwyn cael negeseuon e-bost yn unol ag amserlen sy’n addas ar gyfer eu hanghenion nhw. Ni fydd rhai defnyddwyr am gael hysbysiadau am ddigwyddiadau cwrs a bydd rhai defnyddwyr am gael hysbysiadau yn fwy rheolaidd na defnyddwyr eraill. Caiff hysbysiadau eu gosod ar gyfer cyfrif cyfan defnyddiwr, nid ar sail cyrsiau unigol.

Deilliannau

Mae Deilliannau yn ddatganiadau sy'n disgrifio sgiliau, dealltwriaeth ac agweddau y bydd y dysgwyr yn eu datblygu yn ystod cwrs neu raglen. Gall addysgwyr nodi deilliannau dysgu ar gyfer eu cyrsiau a thracio cynnydd myfyrwyr ar sail safonau a fesurir yn hytrach na defnyddio graddau llythyren.

Mae Deilliannau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Dysgu mwy am Ddeilliannau.

Tudalennau

Mae Tudalennau yn cynnwys yr holl dudalennau sydd wedi eu creu mewn cwrs. Mae tudalen yn caniatáu i addysgwyr greu cynnwys ar gyfer cwrs Canvas. Gall myfyrwyr greu neu olygu tudalennau mewn Grwpiau hefyd.

Mae Tudalennau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Dysgu mwy am Dudalennau.

Tudalen Flaen ar gyfer Tudalennau

Yn Tudalennau, gall hyfforddwyr ddewis tudalen i'w dangos fel y Dudalen Flaen. Tudalen Flaen yw’r dudalen gyntaf sy’n ymddangos pan fydd defnyddwyr yn llywio i Tudalennau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Ar ôl ei gosod, gellir defnyddio Tudalen Flaen hefyd fel Hafan y Cwrs.

Codau Paru

Mae codau paru yn godau chwe digid llythrennau a rhifau sy’n cael eu defnyddio i gysylltu arsyllwr a myfyriwr. Gall myfyrwyr greu codau paru o’u tudalen Gosodiadau Defnyddiwr, neu gall addysgwyr eu creu o dudalen Manylion Defnyddiwr myfyriwr. Ar ôl i’r cod gael ei greu, gall arsyllwyr roi’r cod paru i gysylltu â’r myfyriwr o’u tudalen Gosodiadau Defnyddiwr neu yn ap Canvas Parent.

Pobl

Mae’r nodwedd Pobl yn dangos yr holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs. Gall addysgwyr glicio enw myfyriwr i weld crynodeb o’i weithgarwch mewn cwrs.

Mae Pobl yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Polisïau Postio

Mae polisïau postio yn osodiad yn y Llyfr Graddau sy’n penderfynu p’un ai ydy graddau newydd yn weladwy neu wedi’u cuddio i fyfyrwyr yn ddiofyn. Pan fydd graddau wedi’u cuddio, bydd addysgwyr yn gallu postio graddau eu hunain yn nes ymlaen. Gellir gosod polisïau ar lefel y cwrs neu ar lefel yr aseiniad.

Dysgu mwy am bolisïau postio.

Cynhyrchu

Cynhyrchu yw'r amgylchedd yn Canvas sy’n cynnwys yr holl ddata byw a lle mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'r cyrsiau Canvas. Caiff nodweddion newydd a rhai sydd wedi’u diweddaru yn Canvas cyhoeddi i’r amgylchedd cynhyrchu bob tair wythnos.

Proffil

Mae proffil yn ddisgrifiad sy’n rhoi gwybodaeth am unigolyn. Gall gweinyddwyr ddewis galluogi’r nodwedd Proffil, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr greu bywgraffiadau a chysylltu â rhwydweithiau cymdeithasol fel rhan o'r cyfrif defnyddiwr.

Cwisiau

Mae Cwisiau yn dangos yr holl fathau o asesiadau cwis mewn cwrs. Ar hyn o bryd mae Canvas yn cynnig dau beiriant cwis, Cwisiau Clasurol a Chwisiau Newydd. Mae Cwisiau Clasurol yn hen adnodd cwisiau sy’n cynnig diogelwch o adnoddau trydydd pari, SpeedGrader, neu ffeiliau CSV wedi’u hallgludo i ddadansoddi ymatebion myfyrwyr. Mae Cwisiau Newydd yn adnodd cwisiau wedi’i uwchraddio gyda rhyngwyneb gwell, mathau ychwanegol o gwestiynau, a nodweddion uwch ar gyfer safoni a chymhwyso.

Mae Cwisiau yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Rhagor o wybodaeth am Gwisiau Newydd a Chwisiau Clasurol.

Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Mae'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn brosesydd geiriau sy’n helpu i greu a fformatio cynnwys mewn Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Maes Llafur, Cwisiau.

Dysgu mwy am y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Rôl

Mae rôl yn disgrifio'r hawliau a roddir i ddefnyddiwr penodol mewn cyd-destun penodol (cwrs, cyfrif ac isgyfrif). Mae Canvas yn cynnwys rolau lefel cwrs a rolau lefel cyfrif; y mathau o rolau sylfaenol yw Myfyrwyr, Cynorthwywyr Dysgu, Athrawon, Dylunwyr, Arsyllwyr a Gweinyddwyr. (Yn nherminoleg Canvas, cyfeirir at athrawon fel addysgwyr hefyd.) Mae modd i weinyddwyr greu fersiynau personol o unrhyw un o’r rolau hyn.

Crynodeb RSS

Mae Cynghrair Syml Iawn (RSS) yn fformat dogfennau cyfrifiadurol sy’n caniatáu dosbarthu cynnwys electronig. Mae crynodebau RSS sain hefyd yn cael eu galw’n bodlediadau. Mae modd mewngludo Crynodebau RSS i gwrs Canvas drwy'r nodwedd Cyhoeddiadau.

Cyfarwyddiadau Sgorio

Mae Cyfarwyddyd Sgorio yn adnodd asesu ar gyfer cyfleu disgwyliadau o ran ansawdd. Fel arfer, mae cyfarwyddiadau sgorio yn cynnwys rhesi a cholofnau. Caiff y rhesi eu defnyddio i ddiffinio'r meini prawf amrywiol a ddefnyddir i asesu aseiniad. Caiff y colofnau eu defnyddio i ddiffinio lefelau perfformiad pob maen prawf.

Dysgu mwy am Gyfarwyddiadau Sgorio.

Blwch Tywod

Cwrs heb ymrestriadau myfyrwyr yw blwch tywod Canvas lle gall addysgwyr greu, addas a gweld rhagolwg o strwythur a chynnwys cwrs heb fyfyrwyr yn ymyrryd. Yna gallan nhw rannu neu fewngludo cynnwys eich blwch tywod i gyrsiau byw. Efallai y bydd addysgwyr yn gallu dechrau cwrs newydd fel cwrs blwch tywod o’u dangosfwrdd Canvas.

Mae blwch tywod Canvas hegyd yn gallu cyfeirio at amgylchedd beta sefydliad lle mae modd i weinyddwr ac addysgwyr alluogi a defnyddio nodweddion arfaethedig Canvas. Mae gweinyddwyr yn gallu defnyddio amgylchedd beta Canvas i adolygu sut mae opsiynau nodwedd yn effeithio ar ddefnyddwyr a chyrsiau yn eu cyfrifon. Mae addysgwyr yn gallu defnyddio amgylchedd beta Canvas i brofi nodweddion a datblygu cynnwys cyrsiau.

Trefnydd

Mae'r Trefnydd yn adnodd yn y Calendr sy'n creu grwpiau o apwyntiadau mewn cwrs neu grŵp.

Adrannau

Rhaniadau o fyfyrwyr mewn cwrs yw adrannau. Mae holl adrannau cwrs yn gweld yr un cynnwys mewn cwrs.

Gosodiadau

Mae gosodiadau yn caniatáu i weinyddwyr ac addysgwyr addasu'r Cyfrif neu'r ddewislen Crwydro'r Cwrs, ychwanegu defnyddwyr, mewngludo cynnwys a chysylltu ag adnoddau allanol.  

Mae Gosodiadau yn ddolen yn y Cyfrif ac yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs.

ID SIS

Mae ID SIS yn ddynodydd unigryw ar gyfer gwrthrych yn Canvas. Mae modd neilltuo ID SIS i gyfrifon, cyrsiau, tymhorau, adrannau, defnyddwyr a grwpiau ar gyfer system gwybodaeth myfyrwyr.

Mewngludo SIS

Mae'r adnodd Mewngludo SIS yn caniatáu i weinyddwyr uwchlwytho ac integreiddio data o Systemau Gwybodaeth Myfyrwyr (SIS) amrywiol, o gronfeydd data cymhleth ac o daenlenni syml hyd yn oed. Mae modd mewngludo eich hun drwy'r ddolen Mewngludo SID yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’n awtomatig drwy'r API.

Mae’r integreiddiadau hyn hefyd yn caniatáu i sefydliadau bostio graddau o Lyfr Graddau Canvas i SIS y sefydliad.

SpeedGrader

Mae SpeedGrader yn adnodd graddio sy'n helpu addysgwyr i werthuso gwaith myfyrwyr. Gall addysgwyr ddefnyddio cyfarwyddiadau sgorio i asesu’n gyflym ac i adael sylwadau ar ffurf testun, fideo a sain ar gyfer eu myfyrwyr. Mae SpeedGrader hefyd ar gael fel ap symudol Canvas ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Dysgu mwy am SpeedGrader.

Gwedd Myfyriwr

Mae Gwedd Myfyriwr yn adnodd y mae addysgwyr yn ei ddefnyddio i weld sut mae eu cwrs yn ymddangos i fyfyrwyr. Drwy roi’r adnodd Gwedd Myfyriwr ar waith, byddwch yn creu Myfyriwr Prawf sy'n ymddangos mewn cwrs Canvas a bydd modd ei ddefnyddio i gyflwyno aseiniadau, i ateb mewn trafodaethau ac i lwytho ffeiliau i fyny fel dull profi yn y cwrs.

Cwmwl Gwasanaeth

Cwmwl Gwasanaeth yw system Cymorth Canvas. Achos cymorth yw cais ffurfiol gan weinyddwr Canvas i gael help neu arweiniad gan dîm Cymorth Canvas. Mae modd i sefydliadau gael mynediad at Achosion cymorth drwy ddefnyddio’r Cwmwl Gwasanaeth.

Maes Llafur

Mae’r Maes Llafur yn ddarn o gynnwys sy'n amlinellu gweithgareddau mewn cwrs.

Mae’r Maes Llafur yn ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Tymor

Tymor yw’r enw a ddefnyddir ar gyfer cyfnod sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cyfarwyddyd academaidd. Yn Canvas, mae dyddiadau cyrsiau fel arfer yn cyd-fynd â dyddiadau tymhorau, er y gall dyddiadau cyrsiau ymestyn y tu hwnt i hynny neu fod yn gyfnodau byrrach na dyddiadau'r tymhorau diofyn.

Profi

Yr amgylchedd profi yw’r amgylchedd a ddefnyddir ar gyfer profi data go iawn yn Canvas heb effeithio ar yr amgylchedd cynhyrchu. Caiff yr amgylchedd prawf ei ddiystyru gan ddata o’r amgylchedd cynhyrchu bob trydydd dydd Sadwrn o’r mis.

Gwasanaethau Gwe

Mae’r Gwasanaethau Gwe yn gasgliad o wasanaethau trydydd parti y gall defnyddwyr eu defnyddio i gael hysbysiadau. Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaethau Gwe yn gallu integreiddio â Google Drive, Skype, Twitter, Delicious, a Diigo.

Taith Groeso

Mae’r Daith Groeso yn gyfres o diwtorialau sydd i’w gweld yn rhyngwyneb Canvas ar gyfer defnyddwyr newydd ac sy’n darparu trosolwg o swyddogaethau Canvas i fyfyrwyr, addysgwyr a gweinyddwyr.