Sut ydw i’n cael mynediad at Canvas gyda phorwr symudol ar fy nyfais iOS?

Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais iOS. Ond, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael y profiad gorau, dylech edrych ar Canvas drwy'r ap symudol ar gyfer dyfeisiau iOS.

Does dim modd i Canvas ddelio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.

Hefyd, dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael y manylion, darllenwch y canllawiau cymorth cyfyngedig ar gyfer porwyr symudol.

Agor Porwr Symudol

Agor Porwr Symudol

Tarwch yr eicon ar gyfer y porwr symudol o’ch dewis.

Rhoi URL Canvas

Rhoi URL Canvas

Yn y maes URL, rhowch URL Canvas eich sefydliad.

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

Rhowch eich manylion mewngofnodi ar gyfer Canvas yn y meysydd e-bost [1] a chyfrinair [2]. Tarwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [3].

Gweld Porwr Symudol

Gweld Porwr Symudol

Gallwch weld Canvas yn eich porwr symudol.