Pa fathau o drwyddedau cynnwys sydd ar gael yn Commons?

Mae trwydded Creative Commons yn gadael i chi rannu – ar eich telerau eich hun – unrhyw gynnwys rydych chi’n ei greu ar gyfer cwrs. Chi sy’n penderfynu sut ac i ba raddau mae defnyddwyr eraill yn gallu ailddefnyddio'ch cynnwys gwreiddiol chi ar gyfer y cwrs. Yn yr un modd, gallwch chi ailddefnyddio cynnwys defnyddwyr eraill os oes gan y cynnwys drwydded Creative Commons. Y budd o ddefnyddio trwyddedau Creative Commons yw bod addysgwyr eraill yn gallu defnyddio, datblygu a gwella’ch cynnwys eich hun. Mae'r math yma o gydweithio creadigol yn gallu ychwanegu gwerth at eich cwricwlwm.

Wrth rannu adnodd â commons, bydd angen i chi ddewis opsiwn ar gyfer trwydded cynnwys.

Nodiadau:

  • I alluogi Commons yn eich fersiwn chi o Canvas, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.
  • Mae Commons ar gael ym mhob cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon. Mae defnyddwyr Am-Ddim-i-Athrawon wedi’u cyfyngu i ddod o hyd i adnoddau cyhoeddus, eu mewngludo a’u rhannu.
  • Dydy’r drwydded rydych chi’n ei dewis ar gyfer eich adnodd yn Commons ddim yn gysylltiedig â'r drwydded sydd wedi’i gosod ar gyfer yr adnodd yng ngosodiadau’r cwrs yn Canvas.
  • I gael mwy o wybodaeth am dorri hawlfraint, darllenwch Delerau Defnyddio Canvas ar gyfer Commons.
  • Yma gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch pennu'r drwydded cynnwys.

Dan Hawlfraint

Dan Hawlfraint

Mae cynnwys Dan Hawlfraint yn golygu cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi. Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, gallwch roi gwybodaeth ychwanegol.

Cyhoeddus

Cyhoeddus

Mae trwydded Gyhoeddus yn golygu nad oes hawlfraint ar y gwaith, a bod modd defnyddio’r gwaith heb gyfyngiadau. I gael gwybod mwy, cliciwch y ddelwedd Cyhoeddus.

Trwydded Attribution

Trwydded Attribution

Mae angen trwydded Attribution ar bob trwydded Creative Commons. Mewn geiriau eraill, pan fydd pobl eraill yn rhannu neu’n ailddefnyddio'ch gwaith, rhaid iddyn nhw wastad gydnabod mai chi oedd wedi creu’r gwaith gwreiddiol. Os byddwch chi’n dewis trwydded Attribution fel eich unig drwydded Creative Commons, gall pobl eraill gopïo, rhannu a defnyddio cynnwys eich cwrs, neu ffurfiau wedi’u haddasu o’ch cynnwys ar gyfer y cwrs. I gael gwybod mwy, cliciwch y ddelwedd CC - Attribution.

Attribution ShareAlike

Attribution ShareAlike

Os byddwch chi’n ychwanegu trwydded ShareAlike at gynnwys eich cwrs, rhaid i bobl eraill ddefnyddio’r un drwydded Creative Commons i rannu'ch cynnwys os byddant am gopïo, rhannu a defnyddio’ch cynnwys ar gyfer y cwrs. I gael gwybod mwy, cliciwch y ddelwedd CC - Attribution ShareAlike.

Nodyn: Mae’r drwydded Attribution-ShareAlike yn cael ei defnyddio gan Wikipedia, ac mae’n cael ei hargymell ar gyfer deunyddiau a fyddai’n elwa o gynnwys gwybodaeth o Wikipedia a phrosiectau trwyddedig tebyg. Gyda’r drwydded hon gall pobl eraill gopïo, rhannu a defnyddio cynnwys eich cwrs, neu ffurfiau wedi’u haddasu o gynnwys eich cwrs (hyd yn oed at ddibenion masnachol), ar yr amod eu bod yn eich cydnabod chi, ac yn defnyddio’r un drwydded Creative Commons.

Attribution No Derivatives

Attribution No Derivatives

Mae trwydded No Derivatives yn dangos bod pobl eraill yn gallu defnyddio cynnwys eich cwrs, ond na allant ei newid mewn unrhyw ffordd. I gael gwybod mwy, cliciwch y ddelwedd CC - Attribution NoDerivs.

Attribution NonCommercial

Attribution NonCommercial

Mae trwydded Non-Commercial yn ychwanegu’r cafeat bod pobl eraill yn gallu defnyddio cynnwys eich cwrs, ond nid at ddibenion masnachol. I gael gwybod mwy, cliciwch y ddelwedd CC - Attribution NonCommercial.

Dewis Trwydded Cynnwys

Dewis Trwydded Cynnwys

I rannu’ch adnodd yn y ffordd orau i chi, dewiswch drwydded o’r gwymplen Hawlfraint a Thrwyddedau (Copyright and Licenses). Mae’r rhestr isod yn dangos y cyfuniadau trwydded a hawlfraint sydd ar gael, o'r lleiaf cyfyngol i’r mwyaf cyfyngol:

  • Dan Hawlfraint
  • Cyhoeddus
  • CC - Attribution
  • CC - Attribution ShareAlike
  • CC - Attribution NoDerivs
  • CC - Attribution NonCommercial
  • CC - Attribution NonCommercial ShareAlike
  • CC - Attribution NonCommercial NoDerivs

 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am drwyddedau Creative Commons, a sut maen nhw’n gweithio, yn creativecommons.org/licenses.