Yn y dudalen Diweddariadau, gallwch weld yr holl adnoddau rydych wedi eu mewngludo’n barod, ac sydd wedi cael eu diweddaru gan y defnyddiwr gwreiddiol. Gallwch weld enw’r adnodd a’r math o adnodd (name and type of resource) [1], dyddiad ac amser y tro diwethaf i’r adnodd gael ei ddiweddaru (date and time the resource was last updated [2], a nodiadau ar yr hyn gafodd ei ddiweddaru yn y fersiwn yma (notes of what was updated in this version) [3].
Gallwch hefyd weld pa gwrs neu gyrsiau roeddech wedi mewngludo’r adnodd iddynt o’r blaen (which course(s) you previously imported the resource into) [4], a pha fersiwn o’r adnodd rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd (which version of the resource you are currently using) [5].
I weld y dudalen manylion adnodd neu i weld hanes llawn y fersiwn, cliciwch enw’r adnodd.
Nodyn: Does dim modd diweddaru adnoddau sydd wedi cael eu tynnu neu eu dileu o Canvas.
Gweld y dudalen Manylion Adnodd
Ar y dudalen manylion adnodd, gallwch hefyd weld hysbysiadau diweddaru. I weld diweddariadau, cliciwch y botwm Dangos Cyrsiau (Show Courses) [1].
I weld hanes y fersiwn, cliciwch y tab Nodiadau fersiwn (Version notes) [2].
I fynd yn ôl i’r dudalen diweddariadau, cliciwch y botwm Yn ôl i’r Diweddariadau (Back to Updates) [3].