Beth yw Canvas Catalog?

Mae Canvas Catalog yn ateb dysgu cyfun sy’n cynnwys catalog cwrs wedi’i bersonoli ar gyfer eich sefydliad, system gofrestru cyrsiau, porth talu, a llwyfan dysgu. Mae Canvas Catalog yn gynhenid i Canvas, sy’n gadael i chi gyhoeddi unrhyw gwrs Canvas mewn catalog ar-lein deniadol yn gyflym ac yn effeithlon.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canvas Catalog.

Creu Cynigion Rhaglen

Creu Cynigion Rhaglen

Mae gan Catalog amrywiaeth o ddefnyddiau yn cynnwys:

  • Datblygiad Proffesiynol
  • Cyrsiau eDdysgu
  • Addysg Barhaus
  • Gweithdai Hyfforddi
  • Seminarau
  • Gweminarau

Gweld Rhestriadau

Mae Canvas Catalog yn marchnata cyrsiau a rhaglenni rydych chi’n eu hychwanegu at gyfrif eich sefydliad. Mae modd brandio rhestriadau gydag enw, logo, a pharth eich sefydliad, ac mae cyfrifon yn gallu delio â JavasScript (JS) personol a dalenni arddull rhaeadru (CSS). Gallwch chi hefyd greu rhestriadau is-gatalog sydd wedi’u brandio i adran, sefydliad, neu dîm penodol.

Mae catalog eich sefydliad yn wastad yn wynebu’r cyhoedd, hyd yn oed os nad oes myfyrwyr wedi mewngofnodi. Ond, gallwch chi reoli gweladwyedd pob rhestriad yn eich catalog.

Note: Nid yw’r dudalen Rhestriadau Catalog yn gallu manylu rhestriadau sy’n cael eu dangos yn awtomatig i argymell cyrsiau i fyfyrwyr penodol.

Rheoli Cyfrif

Rheoli Cyfrif

Mewn cyfrif Canvas Catalog, mae gweinyddwyr Catalog eich sefydliad yn gallu rheoli holl restriadau cyrsiau a rhaglenni, rheoli catalogau, creu codau hyrwyddo ar gyfer rhestriadau y telir amdanynt, gweld adroddiadau cyfrifon, a chael gafael ar yr API.

Ychwanegu Tystysgrifau

Ychwanegu Tystysgrifau

Gallwch chi hefyd ychwanegu tystysgrifau, sy’n cael eu rhoi’n awtomatig i fyfyrwyr ar ôl gorffen cwrs neu raglen. Nid oes gwaith papur ychwanegol yn gysylltiedig. Mae modd gosod tystysgrifau i dempled diofyn neu ddylunio rhai personol gyda HTML/CSS.