Sut ydw i’n gweld tystysgrif gwblhau cwrs neu raglen Catalog?

Os oedd eich cwrs neu raglen yn cynnwys tystysgrif, gallwch chi weld a llwytho’r dystysgrif i lawr ar ôl i chi gwblhau’r cwrs neu raglen.

Mae tystysgrifau’n cael eu rhoi’n awtomatig ar ôl gorffen ac mae modd eu gweld ar unrhyw adeg.

Nodyn: Ar ôl i chi gwblhau cwrs neu raglen sy’n cynnwys tystysgrif, bydd dolen i’r dystysgrif hefyd yn cael ei hanfon i chi drwy e-bost.

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Cliciwch y gwymplen Enw Defnyddiwr (User Name) [1]. Yna cliciwch y ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].

Agor Tab wedi’i Gwblhau

Agor Tab wedi’i Gwblhau

Cliciwch y tab Wedi Cwblhau (Completed).

Gweld Tystysgrif

Os oes tystysgrif yn cael ei darparu ar gyfer y cwrs neu raglen, mae enw’r dystysgrif i’w weld [1].

I weld y dystysgrif yn eich porwr gwe, cliciwch y ddolen Gweld (View) [2]. I lwytho’r dystysgrif i lawr, cliciwch y ddolen Llwytho i Lawr (Download) [3].