Sut ydw i’n ymrestru ar restriad cwrs neu raglen Catalog?
Yn Canvas Catalog, gallwch chi ymrestru ar raglenni a chyrsiau o dudalen hafan eich sefydliad. Mae rhestriadau sydd wedi’u dewis yn ymddangos yn eich basged siopa, ac maent yn aros yn eich basged nes eich bod chi’n talu.
Wrth ddechrau talu, mae Catalog yn cadw eich mannau ymrestru am ddeg munud tra eich bod chi’n cwblhau’r broses ymrestru. Mae cyrsiau a rhaglenni y telir amdanynt yn gofyn am daliad fel rhan o’r broses ymrestru. Gallwch chi hefyd ychwanegu codau hyrwyddo wrth dalu.
Y tro cyntaf i chi ymrestru ar restriad catalog gyda’ch sefydliad, rhaid i chi gwblhau eich cofrestriad cyn y gallwch chi gychwyn eich cyrsiau neu raglenni.
Nodiadau:
- Cyn y gallwch chi weld rhestriadau Catalog eich sefydliad, efallai y bydd angen i chi fewngofnodi i Canvas.
- Gallwch chi brynu mwy nag un ymrestriad mewn un weithred.
- Yn dibynnu ar sut mae eich sefydliad wedi ffurfweddu’r broses ymrestru cwrs Catalog, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau meysydd ymrestru sydd ddim i'w gweld yma.
Oherwydd bod opsiynau talu’n amrywio o sefydliad i sefydliad, nid yw’r broses dalu’n cael ei disgrifio yma. I gael help gyda thalu am restriadau drwy borth talu eich sefydliad, cysylltwch â desg gymorth eich sefydliad.
Agor Catalog
Mewn ffenestr porwr, rhowch URL Catalog eich sefydliad yn y maes cyfeiriad.
Dod o hyd i Restriad Cwrs
Dewch o hyd i gwrs rydych chi eisiau ymrestru arno drwy sgrolio drwy’r rhestr.
I chwilio am gwrs neu raglen benodol, rhowch destun yn y maes Chwilio (Search) [1]. I fireinio’r canlyniadau chwilio, cliciwch y botwm Hidlo (Filter) [2].
I weld tudalen fanylion ac opsiynau ymrestru rhestriad, cliciwch yr eicon Rhagor (More) [3].
Gweld Opsiynau Ymrestru
I ymrestru ar y rhestriad a mynd yn syth i dalu, cliciwch y botwm Ymrestru Nawr (Enroll Now) [1].
I ychwanegu’r rhestriad at eich basged a pharhau i edrych ac ychwanegu rhestriadau at eich basged, cliciwch y botwm Ychwanegu at eich Basged (Add to Cart) [2].
I hawlio neu brynu broc o seddi, cliciwch y botwm Ymrestru Swp (Bulk Enrollment) [3].
Ychwanegu at y Rhestr Aros
Os ydych chi eisiau ymrestru ar gwrs gydag ymrestriad caeedig, efallai y byddwch chi’n gallu ychwanegu eich enw at restr aros. Pan fydd lle yn dod ar gael, bydd eich cyfrif Catalog yn eich ymrestru ar y cwrs yn awtomatig. Mae lleoedd yn dod ar gael os bydd myfyriwr yn gadael y cwrs neu os bydd gweinyddwr yn cynyddu’r terfyn ymrestru. Rhagor o wybodaeth am ychwanegu eich hun at restr aros.
Mewngofnodi neu Gofrestru ar gyfer Cyfrif
Os na chawsoch chi eich ysgogi i fewngofnodi pan wnaethoch chi gyrraedd y dudalen hafan, a bod gennych chi gyfrif Canvas yn eich sefydliad yn barod, cliciwch y ddolen Oes gennych chi gyfrif yn barod? (Already have an account?) Botwm Mewngofnodi yma (Sign in here) [1].
Os nad oes gennych chi gyfrif Canvas yn eich sefydliad, cofrestrwch ar gyfer cyfrif newydd drwy gwblhau’r wybodaeth cofrestru cyfrif newydd [2]. Cliciwch y blychau ticio Defnydd Derbyniol a Pholisi Preifatrwydd (Acceptable Use and Privacy Policy) a chadarnhad reCAPTCHA [3]. Yna cliciwch y botwm Cofrestru Cyfrif Newydd (Register New Account) [4].
Dilysu Cyfrif Defnyddiwr Newydd
Os gwnaethoch chi gofrestru ar gyfer cyfrif newydd, rhaid i chi ddilysu eich cyfrif i gwblhau eich cofrestriad a chychwyn y cwrs. Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost cofrestru a dilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost cadarnhau i gadarnhau eich cyfrif.
Rheoli Basged
Pan mae cwrs wedi cael ei ychwanegu’n llwyddiannus at eich basged, bydd hysbysiad yn ymddangos [1].
I weld eitemau yn y fasged, cliciwch yr eicon Basged Siopa (Shopping Cart) [2].
I dynnu rhestriad o’r fasged, cliciwch yr eicon Dileu [3].
I gofrestru ar gyfer y rhestriad, cliciwch y botwm Prynu (Checkout) [4].
Talu
Ar y dudalen dalu, mae amserydd deg munud yn cychwyn yn awtomatig [1]. I sicrhau ymrestriad llwyddiannus, rhaid i chi gwblhau’r broses dalu ac ymrestru o fewn y terfyn amser deg munud.
Rhestriadau penodol i’w gweld. I dynnu rhestriad o’ch basged a chanslo ymrestru, cliciwch yr eicon Tynnu [2].
Ar gyfer rhestriadau y telir amdanynt, is-gyfanswm cost yr holl restriadau, cyfanswm y gostyngiadau hyrwydd sydd wedi’u defnyddio, a’r cyfanswm sydd angen ei dalu [3].
Os oes gennych chi god hyrwyddo, rhowch y cod yn y maes Cod Hyrwyddo (Promotion Code) [4], a chlicio’r botwm Defnyddio (Apply) [5]. Os oes gennych chi fwy nag un cod hyrwyddo, ailadroddwch y broses i roi pob cod yn unigol.
I orffen talu, ond gadael y rhestriadau yn y fasged cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [6].
I gwblhau’r broses dalu ac ymrestru ar y rhestriad, cliciwch y botwm Talu ac Ymrestru (Pay and Enroll) [7].
Nodiadau:
- Os ydy’r holl restriadau rydych chi wedi’u dewis am ddim, mae botymau Canslo (Cancel) ac Ymrestru (Enroll) i’w gweld.
- Oherwydd bod opsiynau talu’n amrywio o sefydliad i sefydliad, nid yw’r broses dalu’n cael ei disgrifio yma. I gael help gyda thalu am restriadau drwy borth talu eich sefydliad, cysylltwch â desg gymorth eich sefydliad.
Rheoli Sgrin Dalu sydd wedi dod i ben
Os bydd yr amser sydd wedi’i gadw yn dod i ben cyn i chi gwblhau’r broses ymrestru, bydd Catalog yn dangos hysbysiad Amser talu wedi dod i ben [1]. Nid yw eich seddi yn y rhestriadau sydd wedi’u dewis wedi’u cadw mwyach, ond bydd y rhestriadau yn dal i fod yn eich basged.
I ddychwelyd i dudalen rhestriadau catalog eich sefydliad, cliciwch y botwm Dychwelyd i Catalog (Return to Catalog) [2].
I ddychwelyd i’r dudalen dalu, cliciwch y botwm Basged Siopa (Shopping Cart) [3], yna chlicio’r botwm Talu (Checkout) [4].
Gweld Cadarnhad Ymrestriad
Pan fo ymrestriad wedi’i gwblhau, mae Catalog yn dangos neges Barod i Gychwyn.
I fynd i dudalen cyrsiau Canvas cliciwch y botwm Mynd i’r Cwrs (Go to Course) [1].
I ddychwelyd i dudalen rhestriadau catalog eich sefydliad, cliciwch y botwm Dychwelyd i Catalog (Return to Catalog) [2].
Nodiadau:
- Os yw eich ymrestriad wedi methu, mae’r dudalen cadarnhau’n dangos neges Wedi Methu (rhowch gynnig arall arni).
- Os yw eich ymrestriad yn aros, mae’r dudalen cadarnhau’n dangos neges Yn Aros (Pending).