Sut ydw i'n mewngofnodi i fy nghyfrif Catalog?

Cyn y gallwch chi fewngofnodi i Canvas Catalog, rhaid i chi ymrestru ar gwrs neu raglen a chwblhau eich cofrestriad. Ar ôl gorffen cofrestru, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif Catalog o’r dudalen restru.

Os ydych chi’n cael trafferth mewngofnodi i'ch cyfrif:

  • Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r URL cywir i fewngofnodi i’ch cyfrif Catalog. Mae’r URL hwn yn rhan o’ch e-bost cofrestru Catalog.
  • Os nad oes gennych chi gyfrinair, rhaid i chi gwblhau eich cofrestriad ar gyfer cwrs neu raglen.
  • Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch chi ei ailosod.

Agor Catalog

Agor Catalog

Mewn ffenestr porwr, teipiwch URL Catalog eich sefydliad yn y bar cyfeiriad.

Mewngofnodi i Catalog

Mewngofnodi i Catalog

Ar dudalen restru Catalog, cliciwch y ddolen Mewngofnodi (Login).

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

I fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y maes E-bost (Email) [1], a’ch cyfrinair Canvas yn y maes Cyfrinair (Password) [2].

Yna cliciwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [3].

Sylwch: Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair Canvas, gallwch chi ei ailosod.

Gweld Tudalen Hafan Catalog

Mae tudalen hafan Catalog yn dangos.

I weld eich Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard), cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [1] a chlicio’r ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].