Sut ydw i’n cwblhau fy nghofrestriad ar gyfer cwrs neu raglen catalog?

Os nad oes gennych chi gyfrif Canvas ar gyfer gwefan gatalog eich sefydliad, bydd angen i chi gwblhau eich cofrestriad i greu cyfrinair a mewngofnodi i’r Catalog. Fyddwch chi ddim yn gallu cychwyn cwrs neu raglen nes eich bod chi wedi gorffen cofrestru.

Cwblhau'r Broses Gofrestru

Cwblhau'r Broses Gofrestru

Agorwch eich cleient e-bost, ac yna agor yr e-bost cofrestru o Canvas. I orffen cofrestru, cliciwch y ddolen Cliciwch yma nawr i orffen y broses gofrestru (Click here now to finish the registration process).

Creu Cyfrinair

Creu Cyfrinair

Rhowch gyfrinair newydd yn y maes Cyfrinair (Password) [1].

I ddewis eich cylchfa amser, cliciwch Cylchfa Amser (Time Zone) yn y gwymplen [2].

I weld a chytuno i’r polisi preifatrwydd, cliciwch y ddolen Gweld Polisi Preifatrwydd (View Privacy Policy) [3].  

I gwblhau’r broses gofrestru, cliciwch y botwm Cofrestru (Register) [4].

Gweld Dangosfwrdd Catalog