Sut ydw i’n defnyddio’r Dangosfwrdd Myfyriwr yn Catalog?

Pan rydych chi’n mewngofnodi i Canvas Catalog gallwch chi weld y cyrsiau a’r rhaglenni rydych chi wedi ymrestru arnynt neu rydych chi ar y rhestr aros ar eu cyfer yn y Dangosfwrdd Myfyriwr.

Mae’r Dangosfwrdd Myfyriwr yn dangos y cyrsiau rydych chi wedi ymrestru arnynt yn ôl statws, ac yn gadael i chi gael gafael ar y rhestriadau Catalog i ymrestru ar gyrsiau neu raglenni ychwanegol.

Nodyn: Mae gweinyddwyr Canvas Catalog yn gallu atal myfyrwyr rhag gweld cwrs cyn ac ar ôl y dyddiadau cwrs sydd wedi’u gosod. Os nad ydych chi’n gweld cwrs yn eich Dangosfwrdd Myfyriwr cyn neu ar ôl y dyddiadau cwrs sydd wedi’u gosod, efallai ei fod wedi cael ei guddio gan y gweinyddwr Catalog.

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [1]. Yna cliciwch y ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].

Gweld Dangosfwrdd

Yn y Dangosfwrdd Myfyriwr, mae’r tab Ar Waith i’w weld yn ddiofyn [1].

I weld eich rhestriadau wedi’u cwblhau, cliciwch y tab Wedi Cwblhau (Completed) [2].

I weld rhestriadau sydd wedi dod i ben, wedi’u harchifo, wedi’u gollwng, a heb gychwyn eto, cliciwch y tab Heb Gwblhau (Not Completed) [3].

I weld eich rhestriadau ar restr aros, cliciwch y tab Rhestr Aros (Wait List) [4].

I weld, llwytho i lawr, neu argraffu PDF o’ch Trawsgrifiad Dysgwr (Learner Transcript), cliciwch y botwm Trawsgrifiad PDF (PDF Transcript) [5].

Gweld Rhestriadau sydd ar waith

Gweld Rhestriadau sydd ar waith

Mae’r tab Ar Waith yn dangos y rhaglenni rydych chi wedi ymrestru arnynt yn yr adran Rhaglenni (Programs) [1], a’r cyrsiau rydych chi wedi ymrestru arnynt yn yr adran Cyrsiau (Courses) [2].

Mae rhestriadau sydd ar waith yn cael eu trefnu o’r rhai mwyaf gorffenedig i’r rhai lleiaf gorffenedig. Os nad oes rhestriadau ar y gweill, mae’r rhestriadau’n cael trefnu yn ôl teitl yn nhrefn yr wyddor.

Gweld Manylion Rhaglen

Yn yr adran Rhaglenni, mae pob rhestriad yn dangos yr eicon Rhaglen [1].

Mae’r rhestriad yn dangos enw’r rhaglen, y dyddiad cychwyn, a hyd y rhaglen (os yw wedi’i osod) [2], wedi’u dilyn gan ddisgrifiad o'r rhaglen [3].

Os yw rhaglen yn cynnwys credyd, mae cyfanswm y credydau ar gyfer pob cwrs yn y rhaglen yn cael ei ddangos [4].

Os oes tystysgrif ar gael, mae enw’r dystysgrif i’w weld [5].  

Gweld Manylion Cwrs

Gweld Manylion Cwrs

Yn yr adran Cyrsiau, mae pob rhestriad yn dangos yr eicon Cwrs [1].

Mae’r rhestriad yn dangos enw’r cwrs, y dyddiad cychwyn, a hyd y cwrs (os yw wedi’i osod) [2], wedi’u dilyn gan ddisgrifiad o'r cwrs [3].

Os yw cwrs yn cynnwys credyd, mae nifer y credydau a roddir am gwblhau i’w weld [4].

Os oes tystysgrif ar gael, mae enw’r dystysgrif i’w weld [5].

Yn dibynnu ar gynllun y cwrs, efallai y bydd y rhestriad yn dangos bar cynnydd [6].

I agor cwrs sydd ar gael, cliciwch y botwm Mynd i'r Cwrs (Go To Course) [7].

I ollwng cwrs, cliciwch yr eicon Gosodiadau [8].

Nodiadau:

  • Dim ond cyrsiau wedi’u dylunio â gofynion modiwl sy’n dangos bar cynnydd.
  • Mae cyrsiau gyda gofynion modiwl yn dangos botwm Mynd i’r Cwrs; mae cyrsiau eraill yn dangos botwm Cychwyn Cwrs.
  • Mae cyrsiau rydych chi wedi’u cychwyn yn dangos botwm Ailgychwyn Cwrs (Resume Course).

Gweld Gofynion Rhaglen

Yn ddiofyn, mae pob cwrs sydd wedi’i gynnwys mewn rhaglen i’w weld ar ffurf estynedig yn y rhestr Gofynion. I grebachu’r rhestr, cliciwch y gwymplen Gofynion (Requirements) [1].

Os nad yw cwrs ar gael eto, mae delwedd y cwrs yn dangos eicon clo [2].

Nodyn: Os yw pob cwrs gofynol yn y rhaglen yn dangos y botwm Cychwyn Cwrs, gallwch chi gwblhau’r cyrsiau mewn unrhyw drefn.

Gweld Rhestriadau wedi’u Cwblhau

I weld eich cyrsiau a’ch rhaglenni wedi’u cwblhau, cliciwch y tab Wedi Cwblhau (Completed) [1].

Mae rhestriadau wedi’u cwblhau’n ymddangos yn seiliedig ar y dyddiad cwblhau ac yna maen nhw wedi’u trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl.

Gallwch chi weld dyddiad cwblhau’r cwrs neu raglen [2] a’r dystysgrif cwblhau (os oes un) [3].

Gallwch chi hefyd adolygu cwrs wedi’i gwblhau [4].

Gweld Rhestriadau Heb eu Cwblhau

I weld eich rhestriadau sydd wedi dod i ben, wedi’u harchifo, wedi’u gollwng, a heb gychwyn eto, cliciwch y tab Heb Gwblhau (Not Completed) [1].

Mae cyrsiau sydd wedi dod i ben yn dangos dyddiad dod i ben [2]. I adolygu cwrs sydd wedi dod i ben, cliciwch y botwm Adolygu Cwrs (Review Course) [3].

Mae cyrsiau wedi’u harchifo yn dangos eicon Wedi Archifo [4], mae cyrsiau wedi’u gollwng yn dangos eicon Wedi Gollwng [5].

Gweld Rhestriadau ar Restr Aros

I weld rhestriadau lle rydych chi wedi ychwanegu eich enw at restr aros, cliciwch y tab Rhestr Aros (Wait List) [1].

Mae rhestriadau ar rest aros yn dangos enw’r cwrs neu raglen [2] a’ch statws ymrestru [3].

I dynnu eich enw o restr aros, dewch o hyd i’r rhestriad a chlicio’r eicon Tynnu [4].

Nodiadau:

  • Dydy’r tab Rhestr Aros ddim ond yn ymddangos os ydych chi wedi ychwanegu eich enw at restr aros.
  • Pan fo lle ar gael, os yw’r cwrs am ddim, byddwch chi’n cael eich ymrestru ar y rhestriad yn awtomatig a bydd y cwrs neu raglen yn ymddangos yn y tab Ar y Gweill. Ar gyfer cyrsiau y telir amdanynt, byddwch chi’n derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i orffen cofrestru.  Rhagor o wybodaeth am ychwanegu eich enw at y rhestr aros.  

Gweld Trawsgrifiad

Gweld Trawsgrifiad

I weld trawsgrifiad o’ch holl raglenni a chyrsiau cyfredol a’r rhai sydd wedi dod i ben, cliciwch y ddolen Trawsgrifiad PDF (PDF Transcript). Mae’r trawsgrifiad yn dangos yr holl wybodaeth ymrestru sydd i’w weld yn eich tabiau Catalog Ar y Gweill ac Wedi Cwblhau.

Gweld Catalog

Gweld Catalog

I gael gafael ar gatalog cwrs eich sefydliad ar unrhyw adeg, cliciwch logo eich sefydliad [1].

Neu, gallwch chi glicio’n ddolen Catalog Cwrs (Course Catalog) [2].