Sut ydw i’n gweld, llwytho i lawr, neu argraffu trawsgrifiad o fy ymrestriadau yn Catalog?
Yn Canvas Catalog gallwch chi weld, llwytho i lawr, neu argraffu PDF o’ch trawsgrifiad ymrestru. Mae’r trawsgrifiad yn dangos trosolwg a gwybodaeth fanwl o gyrsiau wedi’u gorffen, cyrsiau sydd ar waith, a chyrsiau sydd heb eu gorffen.
Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Cliciwch y gwymplen Enw Defnyddiwr (User Name) [1]. Yna cliciwch y ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].
Agor Trawsgrifiad PDF

Cliciwch y botwm Trawsgrifiad PDF (PDF Transcript).
Gweld Trawsgrifiad

Bydd y trawsgrifiad PDF yn agor mewn tab porwr newydd.
Mae gwybodaeth am gyfanswm y cyrsiau a rhaglenni ar y trawsgrifiad i'w gweld yn yr adran trosolwg [1].
Mae’r adran Wedi Cwblhau yn rhestru’r cyrsiau neu raglenni rydych chi wedi’u cwblhau, y dyddiad ymrestru, y dyddiad cwblhau, a nifer y credydau a ennillwyd (pan ar gael) [2].
Mae’r adran Ar Waith yn rhestru cyrsiau neu raglenni sydd ar waith ar hyn o bryd, y dyddiad ymrestru, a nifer y credydau a gynigir (pan ar gael) [3].
Mae’r adran Heb Gwblhau yn rhestru cyrsiau neu raglenni sydd wedi dod i ben, wedi’u harchifo, wedi’u gollwng, neu nad ydych chi wedi’u cychwyn eto gyda’r dyddiad ymrestru, a nifer y credydau a gynigir (pan ar gael)
Gallwch chi argraffu’r trawsgrifiad neu lwytho’r PDF i lawr i’ch cyfrifiadur.
Nodyn: Yn yr adran trosolwg, mae rhaglenni’n cael eu cyfrif fel un ymrestriad.