Sut ydw i’n ychwanegu tystysgrif gwblhau cwrs Catalog?
Fel gweinyddwr Canvas Catalog, gallwch chi greu a dosbarthu tystysgrifau cwblhau cyrsiau sy’n cynnwys modiwlau yn Canvas.
Mae tystysgrifau’n cael ei rhoi yn awtomatig i fyfyrwyr pan fo nhw wedi cwblhau’r holl ofynion mewn cwrs. Gallwch chi ychwanegu tystysgrifau gan ddefnyddio templedi wedi’u dylunio ymlaen llaw yn Catalog, neu gallwch chi greu templed personol gan ddefnyddio HTML/CSS neu o ffeil allanol.
Nodiadau:
- Dim ond os yw’r cyrsiau’n cynnwys modiwlau yn Canvas y mae modd eu nodi wedi’u cwblhau. Dysgu sut mae Catalog yn gweithio gyda Canvas.
- Os bydd gweinyddwr yn ymrestru defnyddiwr ar gwrs Catalog, ni fydd y defnyddiwr yn cael tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs. I sicrhau bod defnyddwyr yn cael tystysgrifau cwblhau, rhaid iddyn nhw ymrestru eu hunain.
- Ond os yw defnyddiwr wedi ymrestru ar gwrs Catalog drwy Canvas ac os yw cyrsiau ymrestru Canvas yn cael eu dangos ar y dangosfwrdd, gall y defnyddiwr weld tystysgrif gwblhau’r cwrs. Ond, ni fyddan nhw’n cael tystysgrif drwy e-bost.
Agor Gweinyddwr
Cliciwch y gwymplen Enw Defnyddiwr (User Name) [1]. Yna cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [2].
Cynnwys Tystysgrif
Cliciwch y tab Tystysgrif (Certificate) [1]. Yna, cliciwch y togl Cynnwys Tystysgrif (Include Certificate) ymlaen [2].
Nodyn: Yn ddiofyn, mae’r togl Cynnwys Tystysgrif wedi’i ddiffodd.
Ychwanegu Enw’r Dystysgrif
Rhowch enw i’r dystysgrif yn y maes Enw’r Dystysgrif (Certificate Name) [2].
Dewis Templed Tystysgrif
I ddewis tystysgrif wedi’i brandio sy’n cynnwys logo Catalog, enw’r dystysgrif, enw’r myfyriwr, a’r dyddiad cliciwch y botwm radio Diofyn (Default) [1].
I ddewis tystysgrif generig sy’n cynnwys enw'r dystysgrif, enw’r myfyriwr, enw’r cyfrif, a’r dyddiad cliciwch y botwm radio Traddodiadol (Traditional) [2].
I greu templed personol gan ddefnyddio HTML/CSS neu ddolen i ffeil allanol, cliciwch y botwm radio CTML/CSS Personol (Custom HTML/CSS) [3].
Nodyn: Os byddwch chi’n creu templed personol, ond yn dewis rhoi un o'r templedi wedi’u dylunio ymlaen llaw ymlaen yn nes ymlaen, bydd unrhyw godio rydych chi’n ei gynnwys yn y templed hwn yn cael ei gadw.
Cynnwys Dyddiad Dod i Ben
Cliciwch y blwch ticio Cynnwys Dyddiad Dod i Ben (Include Expiration Date).
Gallwch chi ddewis dyddiad penodol pan fydd y dystysgrif yn dod i ben neu osod nifer o ddiwrnodau pan fo’r dystysgrif yn ddilys.
- I ychwanegu dyddiad dod i ben tystysgrif, cliciwch y botwm radio Dyddiad Dod i Ben Tystysgrif (Certificate Expiration Date) [2]. Yna, cliciwch y maes Dewis dyddiad (Select a date) a dewis dyddiad o’r calendr [3].
- I osod nifer y diwrnodau pan fo’r dystysgrif yn ddilys, dewiswch y botwm radio Nifer y Diwrnodau Dilys (Number of Days Valid) [4]. Yna, rhowch nifer y diwrnodau rydych chi eisiau i dystysgrif aros y yn ddilys [5].
Rhagweld Tystysgrif
I weld rhagolwg o dystysgrif, cliciwch yr eicon Rhagolwg [2].