Gall rhieni gofrestru fel arsyllwyr yn Canvas. Gall arsyllwyr gysylltu eu cyfrif Canvas â chyfrif eu myfyriwr fel eu bod yn gallu gweld dyddiadau erbyn aseiniadau, cyhoeddiadau a chynnwys arall yn y cwrs. Gall arsyllwyr weld cynnwys y cwrs ond ni allant gymryd rhan yn y cwrs.
Mae’r wers hon i rieni sydd heb gyfrif Canvas ac sydd am arsyllu myfyrwyr yn eu cyrsiau. Er mwyn creu cyfrif Canvas, byddwch chi angen yr URL Canvas sy’n gysylltiedig â’r ysgol lle mae eich myfyriwr wedi ymrestru. Os nad ydych chi’n gwybod URL Canvas eich ysgol, cysylltwch ag ysgol eich myfyriwr.
Os oes gennych chi gyfrif drwy ysgol eich myfyriwr, mewngofnodwch i Canvas gan ddefnyddio’r manylion adnabod sydd wedi’u rhoi i chi.
Nodiadau:
Mewn ffenestr porwr, rhowch URL Canvas eich ysgol (e.e. schoolname.instructure.com).
Nodyn: Os nad ydych chi’n gwybod URL Canvas eich ysgol, cysylltwch ag ysgol eich myfyriwr.
Cliciwch y ddolen Angen Cyfrif Canvas? (Need a Canvas Account?).
Cliciwch y ddolen Rhieni’n cofrestru yma (Parents sign up here).
Rhowch yr wybodaeth ganlynol:
Nodyn: Gall myfyrwyr greu codau paru o’u Gosodiadau Defnyddiwr. Yn dibynnu ar hawliau ysgol, maen bosib y bydd gweinyddwyr ac addysgwyr yn gallu creu codau paru hefyd.
Gallwch ddechrau arsyllu eich myfyriwr yn Canvas yn syth.
Rhagor o wybodaeth am arsyllu rhagor o fyfyrwyr yn eich cyfrif.
Dysgu sut i addasu eich gosodiadau ar gyfer hysbysiadau Canvas.