Os ydych chi wedi cofrestru i gael cyfrif Canvas fel rhiant, gallwch chi ychwanegu myfyrwyr i’w harsyllu yn yr un ysgol. Ar ben hynny, os oes ysgol wedi creu cyfrif arsyllwr sy’n gysylltiedig â myfyriwr ar eich cyfer, gallwch chi ychwanegu myfyrwyr i’w harsyllu.
I gysylltu chi eich hun â myfyriwr, bydd angen i chi roi cod paru sy’n benodol i’r myfyriwr. Mae codau paru yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach a mawr, ac maen nhw’n ddilys am saith niwrnod. Gall myfyrwyr greu codau paru o’u Gosodiadau Defnyddiwr. Yn dibynnu ar hawliau ysgol, maen bosib y bydd gweinyddwyr ac addysgwyr yn gallu creu codau paru hefyd. Am ragor o wybodaeth am y codau paru, edrychwch ar y PDF Codau Paru – Cwestiynau Cyffredin.
Nodiadau:
- Does dim modd i chi ychwanegu myfyrwyr os nad yw eu cyfrifon yn yr un ysgol â chi (URL Canvas). I arsyllu myfyrwyr mewn ysgol arall, rhaid i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio URL Canvas yr ysgol honno.
- Os nad ydych chi’n gallu cael mynediad at bob cwrs myfyriwr, fydd yr opsiwn i gysylltu â myfyrwyr ychwanegol ddim ar gael i chi.
- Ar ôl i chi gysylltu â myfyriwr o’r dudalen Arsyllu, fydd dim modd i chi dynnu’r myfyriwr. I dynnu myfyriwr, cysylltwch ag addysgwr y myfyriwr.