Sut ydw i’n defnyddio’r Calendr fel arsyllwr?

Mae'r Calendr yn ffordd wych o weld popeth mae’n rhaid i fyfyriwr cysylltiedig ei wneud ym mhob un o’i gyrsiau mewn un lle. Gallwch weld digwyddiadau calendr yn ôl diwrnod, wythnos, mis, neu restr agenda. Mae'r calendr hefyd yn cynnwys mynediad i'r Trefnydd, sy'n adnodd trefnu dewisol yn Canvas. Fodd bynnag, dydy arsyllwyr ddim yn gallu trefnu apwyntiadau ar ran myfyrwyr.

Dydy arsyllwyr ddim yn gallu gweld digwyddiadau yng nghalendr personol myfyrwyr nac apwyntiadau sydd wedi’u trefnu drwy ddefnyddio’r Trefnydd. Cofiwch bod arsyllwyr yn gallu gweld apwyntiad(au) y mae myfyriwr wedi’u trefnu yn ap Canvas Parent.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Gweld Calendr

Mae'r Calendr yn dangos popeth rydych chi wedi ymrestru ar ei gyfer gan fod y Calendr yn ymestyn ar draws pob cwrs. Yn y bar crwydro, gallwch ddewis gweld y calendr yn y wedd Wythnos (Week), Mis (Month) neu Agenda [1]. Mae'r wedd rydych chi'n ei dewis yn pennu arddull ffenestr y calendr [2]. Bydd y calendr yn ymddangos yn y wedd Mis (Month) yn ddiofyn.

Mae'r bar ochr [3] yn dangos calendr mae modd ei weld yn gyflym, eich rhestr o gyrsiau a grwpiau, ac eitemau heb ddyddiad ar gyfer eich cyrsiau a grwpiau.

Ychwanegu Eitemau Calendr

Ychwanegu Eitemau Calendr

Mae pob gwedd galendr yn dangos unrhyw aseiniadau neu ddigwyddiadau sydd wedi'u hychwanegu at y calendr. Mae modd ychwanegu digwyddiadau personol, gan gynnwys digwyddiadau calendr rheolaidd, unrhyw bryd yn y bar crwydro drwy glicio’r botwm Ychwanegu (Add).

Gweld Rhestr Calendr

Mae modd adnabod pob calendr grŵp, calendr cwrs a chalendr personol yn ôl lliw unigol sy’n llenwi’r wedd galendr. Bydd aseiniadau cysylltiedig ar gyfer pob cwrs neu grŵp yn ymddangos yn y wedd calendr ar gyfer pob calendr [1]. Yn yr enghraifft uchod, bydd aseiniadau a digwyddiadau’r cwrs Hanes UDA yn ymddangos mewn lliw porffor yn y wedd calendr.

Bydd y 10 calendr grŵp a chwrs cyntaf yn cael eu dewis ac yn ymddangos yn y wedd galendr yn ddiofyn. I guddio calendr, cliciwch y blwch sydd wrth ymyl enw’r calendr [2]. Mae calendrau nad ydynt ar waith yn y wedd galendr yn ymddangos fel testun sydd wedi pylu [3].

Nodyn: Bydd Canvas yn neilltuo lliw ar gyfer pob calendr oni bai fod lliw personol yn cael ei ddewis. Mae pob calendr yn cynnwys 15 o liwiau diofyn, ond gallwch fewnosod cod Hex i greu unrhyw liw o'ch dewis. Mae lliwiau sydd wedi’u gosod mewn cardiau cwrs Dangosfwrdd yn cael eu diweddaru yn y calendr hefyd.

Gweld Rhestr Digwyddiadau heb Ddyddiad

Gweld Rhestr Digwyddiadau heb Ddyddiad

Wrth ehangu’r ddolen Eitemau heb ddyddiad (Undated items), bydd hyn yn dangos rhestr o ddigwyddiadau ac aseiniadau heb ddyddiad i chi Bydd modd gwahaniaethu rhwng yr aseiniadau a’r digwyddiadau yn ôl eiconau ac yn ôl lliw'r calendr grŵp, calendr cwrs neu’r calendr personol.

Gweld Calendr yn ôl Mis

Gweld Calendr yn ôl Mis

Yn y wedd Mis (Month), cliciwch y botymau saeth [1] i symud o fis i fis. I weld digwyddiadau ar gyfer y dyddiad presennol, cliciwch y botwm Heddiw (Today) [2].

I weld dyddiad penodol, cliciwch y ddolen mis [3] a rhowch ddyddiad yn y maes dyddiad [4] neu dewiswch ddyddiad o’r calendr [5].

Gweld Aseiniadau a Digwyddiadau

Bydd aseiniadau’n cael eu dangos gydag eicon wrth ymyl teitl yr aseiniad. Mae’r eicon yn adlewyrchu'r math o aseiniad: Trafodaeth (Discussion) [1], Aseiniad (Assignment) [2], Cwis (Quiz) [3], neu Ddigwyddiadau (Events) [4].

Mae cod lliw i bob eitem ar y calendr sy’n cyfateb i'r cyrsiau neu’r calendrau ar y bar ochr.

I weld manylion llawn ar gyfer aseiniad neu ddigwyddiad, ewch ati i hofran dros yr eitem [5].

 

Gweld Digwyddiadau Diwrnod Cyfan

Mae digwyddiadau diwrnod cyfan yn dangos yr eicon Digwyddiadau, a dydyn nhw ddim yn cynnwys amser digwyddiad penodol.

Os ydych chi am ymestyn digwyddiad diwrnod cyfan ar draws sawl diwrnod, ewch ati i hofran dros ymyl y digwyddiad nes i chi weld saeth ddu. Llusgwch eich digwyddiad ar draws yr holl ddyddiadau gofynnol yn y mis presennol.

Gweld Calendr yn ôl Wythnos

I weld y calendr yn ôl wythnos, cliciwch y botwm Wythnos (Week). Mae'r wedd Wythnos (Week) yn dangos pob eitem ar y calendr yn ôl dyddiad ac amser. Efallai y bydd rhai aseiniadau i fod wedi’u cwblhau erbyn 11:59 pm, sy'n ymddangos ar waelod y wedd calendr.

Gweld Digwyddiadau Diwrnod Cyfan

Bydd digwyddiadau diwrnod cyfan yn ymddangos ar frig wythnos y calendr. Dydy’r digwyddiadau hyn ddim yn cynnwys amser penodol ar gyfer digwyddiad.

Yn yr un modd â’r wedd Mis (Month), os ydych chi am ymestyn digwyddiad diwrnod cyfan ar draws sawl diwrnod, ewch ati i hofran dros ymyl y digwyddiad nes i chi weld saeth ddu. Llusgwch eich digwyddiad ar draws yr holl ddyddiadau gofynnol. Yn y wedd Wythnos (Week), dim ond at ddiwedd yr wythnos rydych chi’n edrych arni y gallwch chi lusgo’ch digwyddiad.

Gweld Agenda Calendr

I weld pob eitem ar eich calendr ar ffurf agenda, cliciwch y botwm Agenda.