Sut ydw i’n golygu tudalen cwrs fel arsyllwr?
Os bydd addysgwr yn caniatáu i arsyllwyr olygu tudalennau cwrs, gallwch chi olygu tudalen mewn cwrs.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Tudalennau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau
Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Golygu Tudalen
Cliciwch y botwm Golygu (Edit).
Nodyn: Dim ond os oes gennych chi hawl i olygu'r dudalen y gallwch weld y botwm Golygu (Edit).
Golygu Cynnwys
Defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) [1] i olygu’r cynnwys neu newid i’r golygydd HTML [2].
Cadw Newidiadau
Gallwch roi gwybod i ddefnyddwyr bod cynnwys wedi newid drwy ddewis y blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed) [1]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].