Sut ydw i’n gweld ffeiliau cwrs fel arsyllwr?

Efallai mai dim ond ffeiliau cwrs penodol y bydd arsyllwyr yn gallu eu gweld.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Ffeiliau Cwrs

Agor Ffeiliau Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Ffeiliau (Files).

Agor Ffolder

I agor cynnwys ffolder yn y cwarel rhagolwg ar yr ochr dde, cliciwch ffolder heb ei datgloi ar yr ochr chwith.

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Cliciwch enw’r ffeil.

Gweld Rhagolwg o Ffeil

Mae’r rhagolwg yn dangos y ffeil a manylion y ffeil, yn ogystal â dolen i lwytho’r ffeil i lawr.

Gallwch chi sgrolio drwy'r ddogfen, nesáu a phellhau, a gweld y ddogfen mewn sgrin lawn.

Botwm Gweld

Gallwch chi weld rhagolwg o ffeil hefyd drwy glicio’r botwm Gweld (View).

Llwytho Ffeiliau i Lawr

Llwytho Ffeiliau i Lawr

Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], a chlicio’r ddolen Llwytho i lawr (Download) [2].