Sut ydw i’n ychwanegu dulliau cysylltu i gael hysbysiadau Canvas fel arsyllwr?

Yn Canvas, gallwch ychwanegu dulliau cysylltu ar gyfer derbyn hysbysiadau. Mae dulliau cysylltu yn caniatáu i chi ddewis sut hoffech chi gael gwybod pan fydd pethau amrywiol yn digwydd o fewn cwrs. Caiff yr hysbysiadau eu rhoi ar waith ar gyfer pob cwrs yn Canvas. Mae Canvas yn gallu delio â hysbysiadau drwy e-bost, Slack a gwahanol wasanaethau ar y we.

Ar ôl i chi ychwanegu dulliau cysylltu, gallwch osod eich Gosodiadau ar gyfer Hysbysiadau er mwyn dewis pa mor aml yr hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau eich cyrsiau.

Agor Gosodiadau Cyfrif

Agor Gosodiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Ychwanegu Ffyrdd o Gysylltu

Ychwanegu Ffyrdd o Gysylltu

Mae’r bar ochr yn dangos yr e-bost diofyn sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif [1]. Gallwch chi reoli eich cyfeiriad e-bost diofyn.

I ychwanegu cyfeiriad e-bost ychwanegol cliciwch y ddolen Ychwanegu Cyfeiriad E-bost (Add Email Address) [2].

Gweld Rhybuddion Cyfathrebu

Gweld Rhybuddion Cyfathrebu

Nid yw Canvas yn anfon hysbysiadau at sianeli cyfathrebu sydd wedi neidio'n ôl, sy’n golygu nad yw’r sianel yn gallu ceisio creu nac anfon hysbysiad mwyach. Gall cyfeiriadau annilys (oherwydd gwallau teipio, cyfeiriadau wedi newid, ac ati) achosi i ddull cysylltu neidio'n ôl, yn ogystal â gweinyddion wedi’u rhwystro.

Efallai y bydd eich tudalen Gosodiadau Cyfrif yn dangos yr eiconau canlynol ddynodi statws dull cysylltu:

  • Rhybudd (Warning) [1]: dynodi bod dull cysylltu wedi neidio’n ôl. I gywiro’r gwall, gallwch dynnu’r dull cysylltu o’ch proffil a’i ychwanegu eto.
  • Tic [2]: yn nodi cyfeiriad e-bost heb ei gadarnhau.

I ddileu dull cysylltu, cliciwch yr eicon Dileu [3].

Gweld Integreiddiadau Cymeradwy

Gweld Integreiddiadau Cymeradwy

Pan fyddwch yn caniatáu i integreiddiadau trydydd parti gael mynediad at eich cyfrif, bydd yr adran Integreiddiadau Cymeradwy yn dangos yr integreiddiadau sydd wedi'u hawdurdodi. Bydd pob integreiddiad yn dangos enw’r ap, ei ddiben (os oes un wedi'i nodi), y dyddiad y cafodd yr ap ei ddefnyddio ddiwethaf, y dyddiad mae’r ap yn dod i ben, a dolen i weld rhagor o fanylion.