Sut ydw i’n newid y dewis iaith yn fy nghyfrif defnyddiwr fel arsyllwr?
Saesneg yw iaith ddiofyn Canvas, ond gallwch ddewis gweld rhyngwyneb Canvas mewn iaith arall.
Nodyn: Gall addysgwyr newid y dewis iaith ar gyfer eu cyrsiau. Os ydych chi’n arsyllu myfyriwr ar gwrs lle mae'r addysgwr wedi newid yr iaith (ar gyfer cwrs iaith dramor gan amlaf), bydd iaith y cwrs yn disodli eich dewis Iaith.
Agor Gosodiadau Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Dewis Iaith
I ddewis eich iaith, cliciwch y gwymplen Iaith (Language). Gallwch chi weld rhestr o’r ieithoedd y mae modd delio â nhw yn Canvas.
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).