Sut ydw i’n golygu fy mhroffil yn fy nghyfrif defnyddiwr fel arsyllwr?

Efallai y bydd rhai ysgolion yn galluogi nodwedd o'r enw Proffiliau yn Canvas. Mae Proffiliau yn caniatáu i chi ddiweddaru eich enw, y dulliau cysylltu o’ch dewis, ac unrhyw ddolenni personol ar gyfer eich cyfrif. Bydd pob defnyddiwr ar y cyrsiau rydych chi’n eu harsyllu yn gallu gweld gwybodaeth eich proffil.

Nodyn: Os na allwch chi weld y tab Proffiliau yn y ddewislen crwydro – defnyddiwr, nid yw’r nodwedd hon wedi cael ei galluogi ar gyfer eich ysgol.

Agor Proffil Cyfrif

Agor Proffil Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Proffil (Profile) [2].

Golygu Proffil

Golygu Proffil

Cliciwch y botwm Golygu Proffil (Edit Profile).

Nodyn:Os na allwch chi olygu eich proffil neu’r sianeli cyfathrebu, mae eich sefydliad wedi eu hanalluogi.

Golygu Llun Proffil

Golygu Llun Proffil

I lwytho llun proffil i fyny, cliciwch yr eicon llun proffil.

Nodyn: Mae’r hawl ar gyfer lluniau proffil ar wahân i'r hawl ar gyfer proffiliau. Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.

Golygu Enw a Theitl

Golygu Enw a Theitl

Os ydych chi’n cael newid eich enw, teipiwch eich enw yn y maes enw [1]. Teipiwch eich teitl yn y maes teitl [2].

Ychwanegu Dulliau Cysylltu

Ychwanegu Dulliau Cysylltu

Os ydych chi wedi cysylltu ag unrhyw wasanaethau gwe, cliciwch y blwch ticio o dan y gwasanaeth gwe i ddangos sut hoffech chi i’r gwasanaeth hwnnw gysylltu â chi [1]. I ychwanegu gwasanaethau ychwanegol, cliciwch y ddolen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru (Manage Registered Services). Sylwch na fydd unrhyw un o’r gwasanaethau dan sylw yn cael eu rhannu ag aelodau eraill o'r grŵp/cwrs oni bai eich bod wedi dewis y blwch ticio rhannu ar y dudalen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru.

Mae’r eicon Trafodaeth [2] yn ymddangos yn awtomatig fel dull cysylltu ar gyfer Gweinyddwyr, er mwyn i ddefnyddwyr allu cysylltu â chi drwy adran Sgyrsiau Canvas. Ni all defnyddwyr eraill ei ddewis.

Nodyn: Gan eu bod wedi’u creu yn eich proffil defnyddiwr, ni fydd cyfeiriadau e-bost yn ymddangos fel dull cysylltu, a dim ond ar gyfer hysbysiadau Canvas y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Dylai defnyddwyr Canvas gysylltu â’i gilydd drwy’r adran Sgyrsiau.

Golygu Bywgraffiad

Golygu Bywgraffiad

Teipiwch eich bywgraffiad yn y maes bywgraffiad. Gallwch ychwanegu diddordebau a ffeithiau diddorol amdanoch chi eich hun.

Cadw proffil

Cadw proffil

Cliciwch y botwm Cadw Proffil (Save Profile).