Sut ydw i’n ymuno â chynhadledd mewn cwrs fel arsyllwr?
Gallwch ymuno â chynhadledd sydd eisoes wedi cael ei chychwyn gan y sawl sy’n cynnal y gynhadledd. Er mwyn ymuno a chynhadledd, rhaid i chi gael eich gwahodd i’r gynhadledd gan y lletywr.
I ddefnyddio eich meicroffon, rhaid i chi ganiatáu i Gynadleddau gael mynediad at osodiadau eich microffon. Fel rhan o’r broses o ymuno â'r gynhadledd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod y gosodiadau hyn yn gywir yn eich porwr.
Note: Mae'n syniad da bod defnyddwyr yn defnyddio Chrome neu Firefox i gael mynediad at y rhyngwyneb cynadleddau.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Cynadleddau
Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.
Ymuno â Chynhadledd
Cliciwch y botwm Ymuno (Join) wrth ymyl y gynhadledd rydych chi am ymuno â hi.
Nodiadau:
- Os nad oes gennych chi’r opsiwn i ymuno a chynhadledd, efallai nad ydych chi wedi cael eich gwahodd i’r gynhadledd gan y lletywr.
- Does dim modd i chi ymuno â chynhadledd nes bydd y sawl sy’n cynnal y gynhadledd wedi dechrau’r gynhadledd.
Ymuno â’r Sain
I ddefnyddio eich meicroffon yn ystod y gynhadledd, cliciwch yr eicon Meicroffon [1]. I ymuno â'r gynhadledd heb alluogi meicroffon , cliciwch yr eicon Gwrando yn unig (Listen only) [2]. Byddwch yn gallu newid eich opsiwn sain ar ôl i chi ymuno â'r gynhadledd.
Gweld Hawliau Microffon Chrome
I alluogi meicroffon mewn porwr Chrome, cliciwch y botwm Caniatáu (Allow).
Gweld Hawliau Microffon Firefox
I alluogi meicroffon mewn porwr Firefox, dewiswch eich meicroffon yn y ddewislen Meicroffon i'w rannu (Microphone to share) [1]. Yna cliciwch y botwm Caniatáu (Allow) [2].
Cwblhau Prawf Sain
I sicrhau bod eich sain yn gweithio'n iawn, ewch ati i gynnal y prawf sain preifat. Dywedwch ychydig o eiriau ac os ydych chi'n clywed sain, cliciwch yr eicon Iawn [1]. I ddewis microffon gwahanol a chynnal y prawf sain eto, cliciwch yr eicon Na [2].
Note: Argymhellir eich bod yn defnyddio clustffonau gyda microffon i gael y profiad sain gorau.