Sut ydw i’n crwydro cwrs Canvas fel arsyllwr?

Fel arsyllwr, rydych chi’n gallu gweld cyrsiau eich myfyriwr. Yn dibynnu ar drefniant cwrs athro eich myfyriwr, efallai na fydd gennych chi fynediad at rai rhannau o’r cwrs.

Dysgwch fwy am Amlygrwydd a Chyfranogiad Arsyllwyr.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Gweld Rhyngwyneb Cwrs Canvas

Gall arsyllwyr weld y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, y ddewislen Crwydro'r Cwrs, y ddewislen Crwydro Briwsion Bara, y Bar Ochr a’r ddolen Help.

  • Mae’r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych chi am ei gyrraedd yn eich holl gyrsiau Canvas [1].
  • Mae’r ddewislen Crwydro'r Cwrs yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych chi am ei gyrraedd yng ngwrs eich myfyrwyr [2].
  • Mae’r ddewislen Crwydro Briwsion Bara yn dangos i le rydych chi wedi crwydro mewn cwrs ac yn cynnig ffordd gyflym a hawdd o symud yn ôl [3].
  • Gan mwyaf, bydd y bar ochr yn wag i Arsyllwyr. Yn dibynnu ar y dudalen rydych chi’n ymweld â hi, efallai y bydd digwyddiadau ac aseiniadau sydd gan eich myfyriwr ar y gweill i’w gweld.
  • Mae’r ddolen Help yn bwysig iawn. I ofyn am help gan athro eich myfyriwr neu gan Dîm Cymorth Canvas, cliciwch y ddolen Help [5].

Note: Yn dibynnu ar athro eich myfyriwr, efallai na fydd gennych chi fynediad at rai rhannau o’r cwrs.