Sut ydw i’n gweld fy ffeiliau defnyddiwr fel arsyllwr?
Mae ffeiliau personol yn cynnwys lluniau proffil a ffeiliau eraill sydd wedi'u llwytho i fyny i’ch storfa ffeiliau Canvas personol. Yn ddiofyn, mae gan bob defnyddiwr 50 MB o le storio yn Canvas.
Agor Ffeiliau
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan (Global Navigation), cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], a chlicio'r ddolen Ffeiliau (Files) [2].
Gweld Ffeiliau Defnyddiwr a Llwytho Ffeil i Fyny
Gallwch weld eich ffeiliau. I ychwanegu ffeil, cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload).
Dewis Ffeil o’r Cyfrifiadur
Porwch i chwilio am ffeil o’ch cyfrifiadur a chlicio’r botwm Agor (Open) .
Agor Ffeil
Cliciwch enw’r ffeil.
Gweld Rhagolwg o Ffeil
Mae’r rhagolwg yn dangos y ffeil a manylion y ffeil, yn ogystal â dolen i lwytho’r ffeil i lawr.
Gallwch chi sgrolio drwy'r ddogfen, nesáu a phellhau, a gweld y ddogfen mewn sgrin lawn.
Llwytho Ffeil i Lawr
Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], a chlicio’r ddolen Llwytho i lawr (Download) [2].