Sut alla i ddefnyddio Canvas ar fy nyfais symudol fel arsyllwr?

Mae Canvas yn gweithredu yn unol â safonau open web, felly mae’r rhan fwyaf o nodweddion yn gallu cael eu defnyddio ar ddyfeisiau symudol.

Porwyr Symudol

Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais Android/iOS. Fodd bynnag, does dim modd delio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws.

Ar ddyfeisiau symudol, mae Canvas wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio yn apiau symudol Canvas. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.

Apiau Symudol

Rydyn ni wrthi’n gwella ein hapiau symudol cynhenid er mwyn gallu defnyddio cymaint o nodweddion Canvas â phosib. Mae gan Instructure un ap symudol cynhenid ar gyfer arsyllwyr y gellir ei lwytho i lawr yn rhad ac am ddim ar ffonau a dyfeisiau tabled.

  • Canvas Parent: Mae’r ap hwn wedi'i ddylunio er mwyn i chi gael bod yn rhan o addysg eich myfyrwyr a gweld aseiniadau, digwyddiadau a graddau. Caiff mynediad at Canvas Parent ei reoli gan sefydliad eich myfyriwr. Gallwch weld nodweddion symudol Canvas Parent yn ôl fersiwn a dyfais.

Mae rhagor o wybodaeth am apiau symudol ar gael yng Nghanllawiau Canvas ar gyfer dyfeisiau symudol.