Sut ydw i’n rheoli fy newisiadau ar gyfer gosodiadau hysbysiadau Canvas fel arsyllwr?
Gallwch chi dderbyn hysbysiadau Canvas ar gyfer y cyrsiau rydych chi’n eu harsylwi. Caiff hysbysiadau eu hanfon i ddulliau cysylltu Canvas yn unol â’r hyn a restrir yn eich Gosodiadau Defnyddiwr ar gyfer y cyfrif. Mae Canvas yn cynnwys cyfres o osodiadau hysbysiadau diofyn. Fodd bynnag, gallwch newid y gosodiadau diofyn drwy bennu eich gosodiadau eich hun ar gyfer hysbysiadau. Dim ond i chi mae eich gosodiadau hysbysiadau yn berthnasol; dydy eich gosodiadau hysbysiadau ddim yn effeithio ar hysbysiadau cyrsiau sy’n cael eu hanfon at y myfyrier rydych chi’n ei arsyllu.
Mae’n bosib na fydd rhai hysbysiadau’n berthnasol i’r rôl arsyllwr. I gael gwybod mwy am yr holl hysbysiadau, gosodiadau diofyn a’r hyn sy’n sbarduno hysbysiadau, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hysbysiadau Canvas.
Gallwch chi ddewis un o bedwar opsiwn amlder danfon ar gyfer pob math o hysbysiad:
- Rhoi gwybod i mi’n syth
- Crynodeb dyddiol
- Crynodeb wythnosol
- Peidio ag anfon.
Os byddwch chi’n newid gosodiad, bydd yn newid ar unwaith yn eich cyfrif.
Os byddwch chi’n ymateb yn uniongyrchol i hysbysiadau e-bost o’r tu allan i Canvas, bydd eich ymateb hefyd yn ymddangos yn eich Blwch Derbyn Canvas. Fodd bynnag, ni fydd atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o ateb allanol yn cael eu cynnwys gyda’r neges Blwch Derbyn Canvas.
Nodiadau:
- Efallai y byddwch chi’n gallu dewis gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol. Dysgwch fwy am reoli hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol.
- Nid yw rhai categorïau hysbysu ar gael er gyfer hysbysiadau marchnata. Mae’r manylion llawn am yr hysbysiadau y mae hysbysiadau marchnata yn gallu delio â nhw ar gael yn y ddogfen adnoddau Hysbysiadau Canvas.
Agor Hysbysiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Hysbysiadau (Notifications) [2].
Gweld Gosodiadau Hysbysiadau Cyfrif
Ar y dudalen Gosodiadau Hysbysiadau, gallwch chi reoli’r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer eich cyfrif Canvas a/neu reoli’r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cyrsiau unigol gan ddefnyddio’r gwymplen Gosodiadau.
Yn ddiofyn, mae’r gwymplen Gosodiadau’n dangos yr opsiwn Cyfrif (Account) [1]. Mae baner yn ymddangos yn dweud bod gosodiadau hysbysiadau lefel y cyfrif yn berthnasol i’ch holl gyrsiau canvas, ond mae unrhyw osodiadau hysbysiadau penodol i gwrs yn disodli gosodiadau hysbysiadau’r cyfrif [2]. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [3].
Mae baner yn ymddangos pan fo negeseuon dyddiol ac wythnosol yn cael eu darparu [4]. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [5].
Gweld y mathau o hysbysiadau lefel y cyfrif [6] a’ch dulliau cysylltu sydd wedi’u rhestru [7].
Mae gan bob hysbysiad osodiad amlder danfon diofyn. I weld yr amlder danfon hysbysiad presennol ar gyfer math o hysbysiad a’r dull cysylltu, hofrwch dros yr eicon hysbysiad [8].
Gweld Manylion Hysbysiad

I weld manylion hysbysiad, ewch ati i hofran dros yr enw’r hysbysiad.
Rheoli Gosodiadau Hysbysiadau
I ganiatáu neu wrthod dangos enw myfyrwyr wedi’u harsylwi mewn hysbysiadau, defnyddiwr y togl Dangos enw myfyrwyr wedi’u harsylwi mewn hysbysiadau (Show name of observed students in notifications) [1]. Ar hyn o bryd dim ond hysbysiadau diweddaru gradd sy’n cynnwys enwau myfyrwyr wedi’u harsyllu.
I newid amlder danfon hysbysiad ar gyfer dull cysylltu, dewch o hyd i’r hysbysiad a’r dull cysylltu. Yna cliciwch yr eicon hysbysiad [2]. Gallwch chi ddewis un o bedwar math o amlder danfon:
- Hysbysu’n syth [3]: derbyn yr hysbysiadau hyn yn syth. Mae’n bosib y bydd oedi o hyd at awr yng nghyswllt yr hysbysiadau hyn, rhag ofn y bydd addysgwr yn gwneud newidiadau ychwanegol. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n cael eich llethu gan lawer o hysbysiadau mewn cyfnod byr.
- Crynodeb dyddiol [4]: derbyn crynodeb dyddiol ar gyfer y math hwn o hysbysiad.
- Crynodeb wythnosol [5]: derbyn crynodeb wythnosol ar gyfer y math hwn o hysbysiad.
- Hysbysiadau wedi diffodd [6]: Dim hysbysiadau wedi’u hanfon ar gyfer y math hwn o hysbysiad.
Nodiadau:
- Mae pob gosodiad lefel cyfrif o ran hysbysiadau yn cael ei roi ar waith ar gyfer pob un o’ch cyrsiau yn awtomatig. Ond, efallai y byddwch chi’n gallu rheoli hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol.
- Does dim modd dewis crynodeb dyddiol na chrynodeb wythnosol ar gyfer hysbysiadau Twitter.
- Mae dulliau cysylltu sydd heb eu cofrestru i’w gweld ar y dudalen Gosodiadau Hysbysiadau Cyfrif ond ni fydd hysbysiadau’n cael eu hanfon nes eich bod chi’n cadarnhau’r cofrestriad.
Gweld Hysbysiad Preifatrwydd

Os ydych chi wedi dewis hysbysiad ar gyfer cyfeiriad e-bost sydd ddim yn gysylltiedig â’ch sefydliad, efallai y byddwch yn gweld Rhybudd Preifatrwydd. I gau’r rhybudd, cliciwch y botwm Iawn (OK). Ar ôl i’r rhybudd gael ei dangos a’i ddiystyru unwaith, ni fydd yn cael ei ddangos eto.