Sut ydw i’n gweld y dudalen Graddau (Grades) ar gyfer myfyriwr fel arsyllwr?

Fel arsyllwr, gallwch weld graddau ar gyfer myfyrwyr rydych chi’n eu harsyllu. Mae'r dudalen Graddau mewn cwrs yn dangos graddau cwrs presennol eich myfyriwr yn ogystal â’r holl raddau presennol ar gyfer aseiniadau cwrs. Gallwch chi hefyd weld manylion sgorio’r aseiniad, y sylwadau a’r cyfarwyddiadau sgorio. Os yw’r addysgwr yn defnyddio mwy nag un cyfnod graddio, gallwch chi hidlo graddau yn ôl cyfnod graddio.

Hefyd, gallwch chi weld graddau ar gyfer cyrsiau eich myfyriwr sydd wedi dirwyn i ben o ddolen Cyrsiau Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan.

Nodiadau: 

  • Gall rhywfaint o fanylion ar y dudalen Graddau (Grades), fel manylion sgorio a'r radd gyflawn, fod wedi’u cyfyngu yng nghyrsiau eich myfyriwr.
  • Hefyd, gallwch chi ddefnyddio’r ddolen Gweld Graddau Dangosfwrdd i weld y dudalen Graddau.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Gweld Gradd Cwrs

Mae’r crynodeb o’r radd yn dangos gradd gyflawn eich myfyriwr (total grade) [1], ac yn caniatáu i chi ddangos neu guddio’r holl fanylion sgorio, y sylwadau a'r cyfarwyddiadau sgorio a ddangosir ar y dudalen Graddau (Grades) [2].

Gan ddibynnu ar ddull cyfrifo'r radd ar gyfer eich cwrs, gall gradd gyflawn eich myfyriwr ymddangos fel gwerth pwynt neu fel canran.

Nodyn: Gall eich addysgwr eich atal chi rhag gweld gradd gyflawn [3] eich myfyriwr.

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Yn ddiofyn, bydd y dudalen Graddau (Grades) yn dangos gradd cwrs presennol eich myfyriwr. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio sgôr yr aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Caiff y radd hon ei chyfrifo â'r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [1].

Caiff y radd gyflawn ei chyfrifo drwy adio pob aseiniad at ei gilydd, y rhai wedi'u graddio a heb eu graddio, yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. I weld y radd gyflawn, tynnwch y tic o’r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [2].

Nodyn: Os yw addysgwr eich myfyriwr wedi eich atal chi rhag gweld y graddau presennol a/neu’r graddau cyflawn, bydd dewis neu ddad-ddewis y blwch ticio yn y bar ochr yn dal i effeithio ar aseiniadau unigol. Byddwch yn gweld newidiadau bach yn lliw yr aseiniadau, a fydd yn nodi bod modd gollwng y radd o’r cwrs.

Gweld Graddau Aseiniadau

Gweld Graddau Aseiniadau

O’r dudalen graddau, gallwch chi ddewis y cwrs rydych chi am weld ei raddau drwy glicio'r gwymplen Cwrs (Course) [1]. Yn ddiofyn, bydd y dudalen Graddau (Grades) yn dangos aseiniadau mewn trefn gronolegol yn ôl dyddiad erbyn yr aseiniad. I roi trefn ar raddau yn ôl modiwl, enw aseiniad, neu grŵp aseiniadau, cliciwch y gwymplen Trefnu yn ôl (Arrange by) [2]. Fodd bynnag, os nad yw modiwlau neu grwpiau aseiniadau yn cael eu defnyddio yn y cwrs, ni fyddant yn cael eu cynnwys fel opsiynau trefnu. I ddefnyddio'r opsiynau trefnu rydych chi wedi'u dewis, cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [3]. Bydd aseiniadau nad ydynt yn rhan o fodiwl yn ymddangos ar ddiwedd y rhestr aseiniadau yn nhrefn yr wyddor.

Mae modd gweld enw’r aseiniad [4], dyddiadau erbyn [5], statws [6], sgorau [7] a chyfanswm gwerth pwyntiau [8]. Byddwch hefyd yn gallu gweld a yw’r aseiniad yn cynnwys sylwadau, manylion sgorio, neu gyfarwyddiadau sgorio [9].

Byddwch yn gallu gweld eiconau gradd amrywiol yn y golofn sgôr, a fydd yn dangos y math o aseiniad [10]. Mae’n bosib nad yw’r addysgwr wedi graddio’r aseiniadau sydd ag eicon gradd. Ar ôl i’r aseiniad gael ei raddio, bydd yr eicon yn cael ei ddisodli gan sgôr eich myfyriwr.

I argraffu graddau eich myfyriwr, cliciwch y botwm Argraffu (Print) [11].

Nodyn: Dim ond os oes gan un neu fwy o aseiniadau statws cysylltiedig y bydd y golofn Statws yn ymddangos.

Gweld Cyfnodau Graddio

Os yw cyfnodau graddio wedi'u galluogi yng nghwrs eich myfyriwr, gallwch chi weld eu graddau yn ôl y cyfnod graddio [1]. Yn ddiofyn, bydd y dudalen Graddau (Grades) yn dangos y cyfnod graddio presennol. Os nad yw aseiniad yn cynnwys dyddiad erbyn, bydd yn ymddangos fel rhan o’r cyfnod graddio diwethaf. I weld graddau ar gyfer cwrs arall, cliciwch y gwymplen Cwrs (Course) [2]. I weld y cyfnod graddio a’r cwrs penodol, cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [3].

Os yw cwrs eich myfyriwr yn cynnwys grwpiau aseiniad wedi'u pwysoli, mae’n bosib y bydd grwpiau aseiniad yn amrywio yn y bar ochr yn dibynnu ar ba gyfnod graddio rydych chi’n edrych arno [4]. Mae grwp aseiniadau’n dangos a oes gan y grŵp o leiaf un aseiniad i’w gyflwyno yn ystod y cyfnod graddio dan sylw.

Pan gaiff cyfnodau graddio eu pwysoli a’ch bod chi'n dewis yr opsiwn Pob Cyfnod Graddio (All Grading Periods), bydd y bar ochr yn dangos y pwysoliad ar gyfer pob cyfnod graddio.

Gweld Gwybodaeth am Radd

Gweld Gwybodaeth am Radd

Mae rhai aseiniadau’n dangos eicon rhybudd du [1], sy'n rhoi gwybod i chi na fydd y pwyntiau rydych chi wedi’u hennill o’r aseiniad hwnnw’n cyfrif tuag at radd derfynol eich myfyriwr [2]. Dylai’ch myfyriwr gyflwyno’r aseiniad hwn beth bynnag, oni bai ei fod wedi’i esgusodi gan ei addysgwr.

Gweld Sylwadau

Os yw addysgwr eich myfyriwr wedi gadael sylw ar yr aseiniad, bydd yr aseiniad yn arddangos eicon sylwadau [1]. I weld y sylwadau, cliciwch yr eicon. Bydd sylwadau'n cael eu dangos mewn trefn gronolegol [2]. I gau sylwadau, cliciwch y ddolen Cau (Close) [3].

Gweld Manylion Sgorio

Os ydych chi’n gallu gweld manylion sgorio, cliciwch yr eicon Tic [1]. Mae modd gweld y dosbarthiad graddau ar gyfer yr aseiniad a gweld y sgorau cymedrig, y sgorau isel a’r sgorau uchel [2].

Mae llinell lorweddol y graff yn ymestyn o 0 i sgôr uchaf bosib yr aseiniad [3]. Mae’r blwch gwyn yn ehangu o’r sgorau myfyrwyr isaf i’r rhai uchaf. Mae sgôr eich myfyriwr yn ymddangos fel sgwâr ar y plot hwn [4].

Dim ond os bydd sgôr ar gyfer cyflwyniad mwy na phum myfyriwr arall y byddwch chi’n gallu gweld y manylion sgorio. Os nad ydych chi’n gweld y manylion sgorio, yna mae llai na phum cyflwyniad gan fyfyrwyr wedi cael sgôr.

I gau'r manylion sgorio, cliciwch y ddolen Cau (Close) [5].

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Os yw aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio, mae’n bosib y bydd yr aseiniad yn arddangos eicon cyfarwyddyd sgorio [1]. I weld canlyniadau eich myfyriwr, cliciwch yr eicon. Gallwch weld sgôr eich myfyriwr yn seiliedig ar y cyfarwyddyd sgorio [2]. I gau’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Cau Cyfarwyddyd Sgorio (Close Rubric) [3].

Nodyn: Gall addysgwr eich myfyriwr gyfyngu ar gyfanswm sgôr y cyfarwyddyd sgorio.

Gweld Grwpiau Aseiniadau

Gweld Grwpiau Aseiniadau

Bydd y dudalen Graddau (Grades) yn rhestru’r grwpiau aseiniadau sydd wedi’u cynnwys yng nghwrs eich myfyriwr [1]. Mae grwpiau aseiniadau yn caniatáu i addysgwyr drefnu aseiniadau, trafodaethau a chwisiau mewn grwpiau a defnyddio rheolau graddio neu bwysoli penodol ar gyfer y grwpiau hynny. Gallwch weld y sgôr canran ar gyfer pob grŵp [2] a'r pwyntiau mae eich myfyriwr wedi’u hennill yn erbyn cyfanswm y pwyntiau posib [3].

Nodyn: Gall addysgwr eich myfyriwr gyfyngu ar ganrannau grŵp aseiniadau.

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Canran

Mae’r bar ochr yn dangos yr wybodaeth am y ffordd y caiff graddau eich myfyriwr eu cyfrifo.

Os yw grwpiau aseiniadau’n cael eu pwysoli, bydd y bar ochr yn dangos dadansoddiad o’r grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli [1].

Bydd pwysoliad grwpiau aseiniadau bob amser yn ymddangos fel canran. Os yw addysgwr eich myfyriwr yn caniatáu i chi weld eich graddau cyflawn, gallwch weld dadansoddiad o’r pwyntiau mae eich myfyriwr wedi’u hennill yn erbyn cyfanswm y pwyntiau posib [2].

Nodyn: Gall addysgwr eich myfyriwr eich atal chi rhag gweld eich cyfanswm graddau mewn canrannau grŵp aseiniadau [3].

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Pwyntiau

Gweld Cyfrifiadau’r Radd Heb Grwpiau Aseiniadau

Os nad yw cwrs eich myfyriwr yn defnyddio grwpiau aseiniadau, gall eich gradd gyflawn ymddangos fel pwyntiau neu fel canran. Os yw’r radd gyflawn yn ymddangos fel pwyntiau, gallwch weld canran gradd gyffredinol eich myfyriwr.

Nodyn: Gall addysgwr eich myfyriwr eich atal chi rhag gweld cyfanswm graddau.

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Meintiol

Gweld Dull Cyfrifo Gradd Meintiol

Os yw sefydliad eich myfyriwr yn cyfyngu ar y gallu i weld data meintiol, mae gradd gyflawn eich myfyriwr yn cael ei dangos gan ddefnyddio cynllun graddio, graddau llythyren fel arfer. Eto, gall addysgwr eich myfyriwr eich atal chi rhag gweld gradd gyflawn eich myfyriwr [4].  

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Gweld Graddau Presennol a Graddau Cyflawn

Yn ddiofyn, bydd y dudalen Graddau (Grades) yn dangos gradd cwrs presennol eich myfyriwr. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio sgôr yr aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Caiff y radd hon ei chyfrifo â'r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [1].

Caiff y radd gyflawn ei chyfrifo drwy adio pob aseiniad at ei gilydd, y rhai wedi'u graddio a heb eu graddio, yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. I weld y radd gyflawn, tynnwch y tic o’r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [2].

Nodyn: Os yw addysgwr eich myfyriwr wedi eich atal chi rhag gweld y graddau presennol a/neu’r graddau cyflawn, bydd dewis neu ddad-ddewis y blwch ticio yn y bar ochr yn dal i effeithio ar aseiniadau unigol. Byddwch yn gweld newidiadau bach yn lliw yr aseiniadau, a fydd yn nodi bod modd gollwng y radd o’r cwrs.

Gweld Llyfr Graddau ar gyfer Meistroli Dysgu

Mae’n bosib i addysgwr eich myfyriwr ddefnyddio sgorau Meistroli Dysgu i fesur perfformiad ar sail deilliannau, neu safonau dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n bosib y bydd sgorau deilliant ynghlwm wrth aseiniadau ac eitemau eraill yn Canvas.

I weld sgorau eich myfyriwr sy’n seiliedig ar safonau, cliciwch y tab Meistroli Dysgu (Learning Mastery).