Sut ydw i'n derbyn gwahoddiad i ymuno â chwrs fel arsyllwr?
Mae addysgwyr yn gwahodd arsyllwyr i ymuno â’u cyrsiau. Yn ddiofyn, pan gewch chi eich ychwanegu at gwrs, byddwch yn gallu gweld y cwrs heb orfod derbyn gwahoddiad i’r cwrs.
Nodyn: Os nad ydych chi wedi cael gwahoddiad i ymuno â'r cwrs, cysylltwch â’r addysgwr.
Cael Gwahoddiad E-bost
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r cwrs drwy e-bost. Bydd y gwahoddiad yn cynnwys enw’r cwrs [1] a’ch rôl defnyddiwr yn y cwrs [2]. I gwblhau’r broses gofrestru, cliciwch y botwm Dechrau Arni (Get Started) [3].
Nodyn: Bydd rhaid i chi fewngofnodi i Canvas er mwyn derbyn y gwahoddiad i’r cwrs. Os nad oes gennych chi gyfrif Canvas byddwch yn gallu creu un fel rhan o’r gwahoddiad i’r cwrs.
Cwblhau'r Broses Gofrestru
Os oes angen i chi greu cyfrif, bydd angen i chi greu cyfrinair [1], rhoi eich cylchfa amser [2], ac edrych ar y polisi preifatrwydd [3]. Yna cliciwch y botwm Cofrestru (Register) [4].