Beth yw Canvas Studio?

Mae Canvas Studioyn adnodd cyfathrebu sy’n gadael i addysgwyr a myfyrwyr gydweithio’n weithredol drwy gyfryngau fideo a sain. Dysgu mwy am Studio ar wefan Instructure.

Ymgysylltu rhwng Myfyrwyr ac Addysgwyr

Ymgysylltu rhwng Myfyrwyr ac Addysgwyr

Mae rhyngwyneb Studio’n gadael i fyfyrwyr ac addysgwyr ymgysylltu gyda chynnwys cyfryngau drwy roi sylwadau’n uniongyrchol ar yr amserlen cyfryngau. Mae myfyrwyr yn gallu dysgu o syniadau ei gilydd yn ogystal ag o arweiniad ac adborth yr addysgwr.

Mae sylwadau’n cael eu nodi gyda’r amser a’r dyddiad postio, yn ogystal â’r amser sydd wedi’i alinio yn y cyfryngau. Mae sylwadau hefyd yn gallu cael eu dangos fel sylwadau mewn-llinell yn yr amserlen wrth edrych ar y cyfryngau. Mae defnyddwyr yn gallu postio ymatebion i sylwadau hefyd, sy’n gallu atodi'r sylwadau ac sydd ddim yn rhan o ymddangosiad yr amserlen.

Rheoli Asedau

Mewn cyfrif Studio, mae rheoli asedau Studio yn trefnu cyfryngau’n awtomatig i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnwys yn hawdd.

I addysgwyr, mae unrhyw gyfryngau sy’n cael eu hychwanegu at gwrs yn cael eu creu fel casgliad ar wahân fel bod modd tagio cyfryngau er mwyn gallu trefnu a chwilio’n well.

Dadansoddi

Dadansoddi

Mae perchnogion cyfryngau hefyd yn gallu gweld ymgysylltiad â chyfryngau drwy ddadansoddi defnyddwyr. Yn wahanol i wefanau cyfryngau eraill, mae Studio yn dadansoddi ymweliadau ar sail defnyddiwr.

Mae dadansoddiadau Studio yn gadael i addysgwyr a gweinyddwyr ddadansoddi’r cyfryngau mae myfyrwyr yn eu gwylio, pa mor hir maen nhw’n gwylio, a phryd maen nhw’n stopio gwylio a hynny mewn modd cyflym a hawdd. Mae’r wybodaeth hon yn gadael i addysgwyr optimeiddio cyfryngau i drosglwyddo gwybodaeth bwysig yn fwy effeithiol a monitro ymddygiad myfyrwyr.

Integreiddiadau Canvas

Mae Studio yn integreiddio â Canvas er mwyn cynnig profiad dysgu di-dôr. Mae addysgwyr yn gallu plannu cyfryngau Studio mewn cwrs Canvas trwy'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, sydd ar gael mewn sawl ardal nodwedd gan gynnwys Aseiniadau, Trafodaethau, a Thudalennau.