Sut ydw i’n cyflwyno cyfryngau Canvas Studio fel aseiniad Cofnod Testun yn Canvas fel myfyriwr?

Gallwch chi gyflwyno ffeil sain neu fideo Canvas Studio fel aseiniad Cofnod Testun yn Canvas. Pan fydd tabiau cyfryngau wedi’u hanalluogi, mae modd newid maint cyfryngau Canvas Studio sydd wedi’u plannu yn y rhyngwyneb defnyddiwr.

Ar ôl i chi gyflwyno ffeil sain neu fideo Studio fel aseiniad, mae’r ffeil sain neu fideo yn cael ei chreu fel copi newydd sy’n eiddo i’ch addysgwr. Ni fyddwch chi’n gallu golygu unrhyw fanylion, felly cadarnhewch enw eich ffeil sain neu fideo cyn iddi gael ei llwytho i fyny fel cyfryngau Studio.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Nodyn: Os nad yw’r ddolen Aseiniadau ar gael yn eich cwrs, efallai y byddwch chi’n gallu cael gafael ar yr aseiniad trwy ardaloedd eraill Canvas fel modiwlau, maes llafur, neu yn eich dangosfwrdd defnyddiwr.  

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Dechrau Aseiniad

Dechrau Aseiniad

Cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).

Agor Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch yr eicon Studio [1].

Os nad yw’r eicon Studio yn ymddangos yn y bar offer, cliciwch yr eicon Opsiynau [2].

Nodyn: Gallwch chi gael mynediad at yr adnodd Stiwdio o’r eicon Ap [3].

Canfod Cyfryngau

Canfod Cyfryngau

Yn eich cyfrif Studio, canfyddwch y ffeil sain neu fideo rydych chi eisiau ei chyflwyno. Yn ddiofyn, mae’r dudalen Fy Llyfrgell yn ymddangos. I weld cyfryngau eraill, cliciwch yr eicon Ehangu (Expand) [1].

Os ydych chi wedi ychwanegu ffeil sain neu fideo at gwrs, gallwch chi hefyd weld cyrsiau lle rydych chi wedi ychwanegu cyfryngau.

I chwilio am ffeil sain neu fideo, cliciwch yr eicon Chwilio [2].

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

Gallwch chi hefyd llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny o gipio sgrin, eich gwe-gamera, ffeil ar eich cyfrifiadur, neu ddolen allanol i ffeil ar Vimeo neu Youtube. I lwytho cyfryngau newydd i fyny, cliciwch yr eicon Mwy [1]. Yna, dewiswch un o’r opsiynau llwytho i fyny [2].

Gallwch chi hefyd lusgo a gollwng cyfryngau i’r ffenestr. Gallwch chi lwytho swp o ffeiliau cyfryngau i fyny ar yr un pryd. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB

Dewis Cyfryngau

Dewis Cyfryngau

Hofrwch dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu dewis [1]. Yna cliciwch y botwm Dewis (Select) [2].

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlanu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I ddangos neu guddio’r Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display media tabs).

Nodyn: Yn ddiofyn, bydd yr opsiwn hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae gweinyddwyr yn rheoli p’un ai yw ymlaen neu wedi’i ddiffodd drwy Osodiadau Studio.

Plannu ar Stamp Amser

Plannu ar Stamp Amser

Os ydych chi’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol fel YouTube neu Vimeo, gallwch chi osod y cyfryngau i ddechrau chwarae ar stamp amser penodol.

I blannu cyfryngau ar stamp amser, cliciwch neu chwarae’r fideo i’r amser rych chi ei eisiau [1]. Yna cliciwch y botwm Gosod presennol (Set current) [2]. Mae’r amser sydd i’w weld ar y botwm Gosod presennol i’w weld yn y maes Stamp Amser (Timestamp) [3]. Neu, rhowch amser yn uniongyrchol yn y maes Stamp Amser.

Nodyn: Dim ond os yw’r cyfryngau o YouTube neu Vimeo y mae'r opsiwn i ddechrau plannu cyfryngau ar stamp amser yn ymddangos.

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

I newid maint cyfryngau wedi’u plannu, cliciwch i analluogi’r togl Analluogi tabiau cyfryngau (Display media tabs) [1]. Yna cliciwch y botwm Plannu (Embed) [2].

Agor Opsiynau Cyfryngau Studio

Cliciwch yn ffenestr y fideo i ddangos neidlen Opsiynau Cyfryngau Studio Yna cliciwch y ddolen Opsiynau Cyfryngau Studio (Studio Media Options).

Ardal Opsiynau Cyfryngau Studio

Mae’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio yn dangos gwybodaeth am y cyfryngau, gan gynnwys teitl y cyfryngau, ac opsiynau maint a dangosydd.

Gallwch chi bersonoli sut mae’r cyfyngau sydd wedi’u plannu yn ymddangos. Gallwch chi blannu’r fideo yn syth yn y golygydd cynnwys cyfoethog, cliciwch y botwm Plannu Fideo (Embed Video) [1]. I ddangos dolen testun i agor y cyfryngau mewn tab newydd, cliciwch y botwm radio Dangos Dolen Testun (Yn agor mewn tab newydd) [Display Text Link (Opens in a new tab)] [2].

I ddewis maint wedi’i osod yn barod o restr, cliciwch y gwymplen Maint (Size) [3]. Rhagosod opsiynau maint gan gynnwys canolig, mawr, a mawr iawn.

I roi maint personol, dewiswch yr opsiwn Personol (Custom) [4]. Rhowch led neu uchder personol mewn picseli yn y meysydd maint [5]. Wrth i chi roi maint, bydd y maes arall yn diweddaru’n awtomatig i gadw’r gymhareb agwedd.

I gadw opsiynau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [6].

Nodyn: Does dim modd golygu teitl y cyfryngau o’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio I olygu teitl y cyfryngau, ewch i fanylion y cyfryngau.

Galluogi neu Analluogi ‘r Opsiwn Llwytho i Lawr

Dewis Opsiynau Plannu

Os ydych chi’n plannu eich cyfryngau eich hun, gallwch chi adael i’r cyfryngau gael eu llwytho i lawr. I ddangos yr opsiwn llwytho i lawr yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr (Display Download Option). Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.

Nodyn: Dydy’r botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr ddim ond yn ymddangos os mai chi yw’r perchenog a wnaeth greu a llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny yn Studio.

Plannu Cyfryngau

Dewiswch Gyfryngau

Cliciwch y botwm Plannu (Embed).

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Mae eich cyfryngau wedi’u plannu yn ymddangos yn y maes Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1].

I ychwanegu unrhyw sylwadau fel rhan o’ch cyflwyniad, rhowch nhw yn y maes Sylwaday (Comments) [2].

I gyflwyno’r aseiniad cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment) [3].

Gweld Cyflwyniad

Gweld Cyflwyniad

Gweld eich dilysiad cyflwyno.

I weld eich cyflwyniad cyfryngau, cliciwch y ddolen Manylion Cyflwyniad (Submission Details) [1].

I ail-gyflwyno eich cyfryngau, cliciwch y botwm Cais Newydd (New Attempt) [2].