Sut ydw i’n mewngofnodi i wefan Canvas Studio sefydliad?

Os byddwch chi’n derbyn e-bost yn eich croesawu i Canvas Studio, bydd angen i chi wirio eich cyfrif drwy greu cyfrinair. Mae’r cyfrinair hwn yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad at wefan benodol Studio ar wahân i Canvas. Pan fyddwch chi’n derbyn y gwahoddiad cyfrif, bydd y dudalen fewngofnodi’n dangos yr URL y dylech chi ei ddefnyddio i reoli a chael mynediad at Studio

Fel arfer, mae gwahoddiadau e-bost yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr sydd wedi’u gwahodd i Studio fel gweinyddwyr. Gallwch chi reoli eich gosodiadau gweinyddwr Studio yn Canvas.

Ar hyn o bryd, nid yw’r cyfrinair rydych chi’n ei greu ar gyfer eich gwefan Studio yn cysoni â’ch manylion mewngofnodi Canvas, felly i gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch yr un cyfrinair yn Studio ag rydych chi’n ei ddefnyddio yn Canvas. Os oeddech chi wedi dewis cyfrinair gwahanol, gallwch chi ailosod eich cyfrinair yn eich gwefan Studio ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r ddolen ailosod cyfrinair.

Os yw eich sefydliad yn galluogi dull dilysu Canvas, gallwch chi fewngofnodi i’ch gwefan Studio gan ddefnyddio eich manylion adnabod Canvas.

Heb law am ddewislen defnyddiwr gwefan Studio, mae gwefannau Studio’n dangos yr un cynnwys ag sydd ei gael mewn cyfrif studio.

Agor E-bost

Yn eich blwch derbyn e-bost, agorwch yr e-bost croeso. Y llinell pwnc yw Croeso i Studio!

Gosod Cyfrinair

Cliciwch y ddolen Gosod cyfrinair (Set your password).

Creu a Chadarnhau Cyfrinair

Creu a Chadarnhau Cyfrinair

Rhowch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif yn y maes Cyfrinair (Password) [1]. Rhowch yr un cyfrinair eto yn y maes Cadarnhau Cyfrinair (Confirm Password) [2]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Mewngofnodi i Studio

Mewngofnodi i Studio

Mae’r dudalen cyfrinair yn adnewyddu ac yn dangos y dudalen fewngofnodi ar gyfer eich gwefan rheoli gweinyddwr Studio. Efallai y byddwch chi eisiau rhoi nod tudalen ar yr URL hwn.

Yn y dudalen fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad e-bost [1] a’ch cyfrinair [2]. Cliciwch y botwm Mewngofnodi (Sign In) [3]. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen Wedi anghofio’r cyfrinair? (Forgot password?) [4].

Nodiadau:

  • Mae gwefannau Studio yn dilyn y strwythur URL [enw eich sefydliad].instructuremedia.com.
  • Os yw eich sefydliad yn galluogi dull dilysu Canvas, gallwch chi fewngofnodi i’ch gwefan Studio gyda’r manylion adnabod Canvas.

Gweld Studio

Gweld eich cyfrif yn eich gwefan Studio