Pa fformatau ffeiliau y mae Canvas Studio yn gallu delio â nhw?
Mae Canvas Studio yn gallu delio â chwarae fideo a sain ac mae’n gallu llwytho i fyny ffeiliau cyfryngau penodol o hyd at 10 GB.
Fformatau Fideo Cydnaws
Mae Studio yn gallu delio â chwarae fideo H.264
Bydd Studio yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau fideo i'w chwarae:
- flv – Fideo Flash
- asf – Windows Media
- qt – Apple QuickTime
- mov – Apple QuickTime
- mpg – Fformat Fideo Digidol
- mpeg – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- avi – Fformat Fideo Digidol
- m4v – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- wmv – Windows Media
- mp4 – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- 3gp – Fformat Symudol Amlgyfrwng (Multimedia Mobile Format)
Pan fod fy fideo wedi methu llwytho i fyny?
Mae yna rai pethau cyffredin sy’n achosi i fideos sydd wedi’u llwytho i fyny i fethu prosesu:
- Mae gan eich ffeil Quicktime gyfeiriadau allanol. Mae Quicktime yn gadael i chi olygu fideos, gan gynnwys ychwanegu darnau o ffeiliau fideo eraill. Yn anffodus, dim ond cyfeirio at ddarnau o fideos eraill y mae cadw o Quicktime, sy’n golygu nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys yn y ffeil sy’n cael ei llwytho i fyny.
- Mae eich ffeil fideo yn cynnwys darn o sain neu fideo nad oes modd delio ag ef.
- Mae eich ffeil fideo wedi’i llygru neu nid oes modd adnabod y fformat ac nid yw’n cyfateb i estyniad y ffeil.
Fformatau Sain Cydnaws
Bydd Studio yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau sain i'w chwarae:
- mp3 – Fformat Sain Digidol (Digital Audio Format)
- wma – Windows Media Audio
- wav - Fformat Ffeil Sain Waveform
Fformatau Fideo Allanol Cydnaws
Bydd Studio yn derbyn fideos o’r mathau canlynol o lwyfanau ffrydio i'w chwarae:
- YouTube
- Vimeo
Nodyn: Mae gweinyddwyr yn gallu rhwystro defnyddwyr rhag ychwanegu cyfryngau drwy YouTube neu Vimeo.