Sut ydw i’n gwneud cwis fideo Canvas Studio mewn cwrs Canvas fel myfyriwr?
Gallwch chi wneud cwis fideo o Canvas Studio drwy agor fideo wedi’i phlannu mewn cwrs Canvas.
Nodyn: Fel defnyddwyr gyda rôl cwrs gweithredol, mae gweinyddwyr, addysgwyr, cynorthwywyr dysgu, a myfyrwyr yn gallu gweld cwisiau fideo Canvas Studio mewn cwrs Canvas. Nid yw defnyddwyr sydd wedi ymrestru mewn arsyllwyr mewn cwrs yn gallu gweld cwisiau fideo Canvas Studio.
Agor Cyfryngau

Agor yr ardal nodwedd Canvas sy’n dangos y cwis fideo rydych chi eisiau ei wneud.
Rhoi Cynnig ar Gwis

I ddechrau gwneud y cwis, cliciwch y botwm Dechrau Arni (Get Started).
Gweld Cwis

Atebwch y cwestiynau sy’n ymddangos wrth i’r amserlen gyfryngau fynd yn ei blaen drwy glicio eich dewis ateb. I chwarae’r rhan berthnasol o’r cyfyngau unwaith eto, cliciwch y botwm Ail-wylio (Re-watch) [1]. I barhau i chwarae’r cyfryngau, cliciwch y botwm Parhau (Continue) [2].
Nodyn: Yn dibynnu ar osodiadau’r cwis, efallai na fydd gennych chi farcwyr cwis ar yr amserlen gyfryngau.
Gweld Manylion Cwis

I weld manylion y cwis fideo, cliciwch yr eicon Gwybodaeth [1]. Mae manylion cwis fideo yn gallu cynnwys y teitl a chyfarwyddiadau ar gyfer y cwis fideo.
I ddychwelyd i'r cwis fideo, cliciwch yr eicon Cau [2].
Cyflwyno Cwis

Rhaid gorffen chwarae’r fideo cyn cyflwyno’r cwis. I gyflwyno’r cwis, cliciwch y botwm Cyflwyno Cwis (Submit Quiz) [1].
I chwarae’r cyfryngau ac adolygu eich atebion i’r cwestiynau, cliciwch y ddolen Ateb (Replay) [2].
Gweld Canlyniadau

I weld atebion cwis, cliciwch y botwm Gweld Atebion (View Results) [1].
I chwarae’r cyfryngau a gwneud y cwis unwaith eto, cliciwch y ddolen Ail-wneud Cwis (Retake Quiz) [2].
Gweld Canlyniadau Cwis

Yn y tab Atebion Cwis (Quiz Results) [1], edrychwch ar eich atebion cwis. Gallwch chi weld y ganran o’r cwestiynau y gwnaethoch chi eu hateb yn gywir, nifer y pwyntiau a gawsoch, a’r amser a gymerwyd ar gyfer y cais [2]. Os oes gennych chi fwy nag un ymgais, gallwch chi weld eich hanes ymgeisio [3]. Gallwch chi hefyd weld yr atebion rydych chi wedi’u dewis [4].