Sut ydw i’n gweld mewnwelediadau cyfryngau ar gyfer fy nghyfryngau Canvas Studio?
Yn Canvas Studio, gallwch chi weld manylion am sut mae gwylwyr yn gwylio ac yn rhyngweithio â’ch cyfryngau o dab cyfryngau Insights. Dysgu mwy am Canvas Studio Insights.
Canfod Cyfryngau
Yn Studio, mae’r dudalen Fy Llyfrgell (My Library) yn agor yn ddiofyn. Mae'r llyfrgell yn dangos teils rhagolwg cyfryngau, gyda'r cyfryngau a ychwanegwyd fwyaf diweddar yn cael eu dangos yn gyntaf.
I chwilio am ffeil cyfryngau, cliciwch yr eicon Chwilio (Search) [1]. I roi’r cyfryngau mewn trefn yn ôl teitl, cliciwch y gwymplen Trefnu yn ôl (Sort By) [2]. I hidlo’r cyfryngau yn ôl casgliad, neu statws capsiynau, cliciwch y gwymplen Hidlo yn ôl (Filter by) [3].
Agor Cyfryngau
Hofrwch eich cyrchwr dros fân-lun y cyfryngau, a chlicio’r botwm Gweld (View) [2].
Dewis Cwrs
Os yw eich cyfryngau wedi’u hychwanegu at fwy nag un cwrs Canvas, gallwch chi ddewis gweld mewnwelediadau ar gyfer cwrs penodol. Cliciwch y gwymplen Hidlydd Cwrs (Course Filter) [1]. Yna dewiswch y cwrs rydych chi am ei weld [2].
Agor Insights
Cliciwch y tab Insights.
Gweld Insights
Yn ddiofyn, mae Insights yn dangos data cyfryngau pob myfyriwr sydd wedi gweld y cyfryngau [1]. Ond, gallwch chi hefyd weld mewnwelediadau ar gyfer athrawon ac ar gyfer pob rôl defnyddiwr.
Mae Insights yn dangos ystadegau trosolwg [2], graffiau’n dangos gwylwyr unigryw cyfryngau [3] a nifer y chwaraeadau [4], a rhestr gwylwyr [5]. Dysgu mwy am Canvas Studio Insights.