Sut ydw i’n defnyddio Canvas Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn Canvas?

Gellir defnyddio Canvas Studio fel cynnyrch ar ei ben ei hun, ond mae ei gryfder yn ei bŵer i integreiddio. Mae Studio yn integreiddio â Canvas ac yn gadael i addysgwyr integreiddio rhyngweithio cyfryngau â’r dosbarth yn ddi-ffwdan.

Pan fo Studio wedi’i integreiddio â Canvas, gall pob defnyddiwr Studio ddefnyddio Studio fel adnodd allanol trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn rhan o’r nodweddion amrywiol yn Canvas gan gynnwys Aseiniadau, Trafodaethau a Thudalennau. I fyfyrwyr, mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd ar gael mewn grwpiau cyrsiau ac mewn cyflwyniadau aseiniad Cofnod Testun.

Yn ddiofyn, mae ffeiliau cyfryngau wedi’u plannu yn gadael i sylwadau gael eu hychwanegu, ond gellir tynnu sylwadau yn ôl dewis y defnyddiwr. Pan fydd tabiau cyfryngau wedi’u hanalluogi, mae modd newid maint cyfryngau Canvas Studio sydd wedi’u plannu yn y rhyngwyneb defnyddiwr.

Nodyn: Yn dibynu ar eich rôl defnyddiwr, efallai na fydd holl swyddogaethau Studio ar gael trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Os yw eich Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn cynnwys dolen i Studio, gallwch chi reoli fideos ar unrhyw adeg trwy gyfrif Studio. Gall addysgwyr hefyd gael mynediad at Studio drwy’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs.

Gweld Eicon Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Fel adnodd allanol, gellir cael mynediad at Studio trwy’r eicon Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Mae’r eicon yn cael ei ddefnyddio wrth blannu cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Gall addysgwyr hefyd ychwanegu aseiniadau cyfryngau Studio gydag integreiddio Studio. Gall addysgwyr raddio cyflwyniadau yn SpeedGrader fel unrhyw aseinaid Canvas arall.

Nodiadau: 

  • I weld yr eicon Studio, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [2].
  • Gallwch chi gael mynediad at yr adnodd Stiwdio o’r eicon Ap [3].

Gweld y Llyfrgell Gyfryngau

Gweld y Llyfrgell Gyfryngau

Wrth blannu ffeil sain neu fideo, gall unrhyw ddefnyddiwr chwilio am a gweld cyfryngau sy’n bodoli’n barod yn ogystal â llwytho cyfryngau newydd i fyny.

Gall defnyddwyr â rolau addysgwyr hefyd weld ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny ar gyfer cyrsiau unigol.

Wrth gyflwyno ffeil sain neu fideo ar gyfer aseiniad, gall myfyrwyr gyflwyno cyfryngau Studio trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel cyflwyniad Cofnod Testun, neu gallan nhw gael mynediad at eu cyfryngau Studio’n uniongyrchol fel cyflwyniad Ffeil wedi’i llwytho i fyny.

Dewis Cyfryngau

Dewis Cyfryngau

Hofrwch dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu dewis [1]. Yna cliciwch y botwm Dewis (Select) [2].

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlanu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I guddio’r Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display media tabs).

Nodyn: Yn ddiofyn, bydd yr opsiwn hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae gweinyddwyr yn rheoli p’un ai yw ymlaen neu wedi’i ddiffodd drwy Osodiadau Studio.

Plannu ar Stamp Amser

Plannu ar Stamp Amser

Os ydych chi’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol fel YouTube neu Vimeo, gallwch chi osod y cyfryngau i ddechrau chwarae ar stamp amser penodol.

I blannu cyfryngau ar stamp amser, cliciwch neu chwarae’r fideo i’r amser rych chi ei eisiau [2]. Yna cliciwch y botwm Gosod presennol (Set current) [3]. Mae’r amser sydd i’w weld ar y botwm Gosod presennol i’w weld yn y maes Stamp Amser (Timestamp) [3]. Neu, rhowch amser yn uniongyrchol yn y maes Stamp Amser.

Nodyn: Dim ond os yw’r cyfryngau o YouTube neu Vimeo y mae'r opsiwn i ddechrau plannu cyfryngau ar stamp amser yn ymddangos.

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

I newid maint cyfryngau wedi’u plannu, cliciwch i analluogi’r togl Analluogi tabiau cyfryngau (Display media tabs) [1]. Yna cliciwch y botwm Plannu (Embed) [2].

Agor Opsiynau Cyfryngau Studio

Cliciwch yn ffenestr y fideo i ddangos neidlen Opsiynau Cyfryngau Studio Yna cliciwch y ddolen Opsiynau Cyfryngau Studio (Studio Media Options).

Ardal Opsiynau Cyfryngau Studio

Mae’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio yn dangos gwybodaeth am y cyfryngau, gan gynnwys teitl y cyfryngau, ac opsiynau maint a dangosydd.

Gallwch chi bersonoli sut mae’r cyfyngau sydd wedi’u plannu yn ymddangos. Gallwch chi blannu’r fideo yn syth yn y golygydd cynnwys cyfoethog, cliciwch y botwm Plannu Fideo (Embed Video) [1]. I ddangos dolen testun i agor y cyfryngau mewn tab newydd, cliciwch y botwm radio Dangos Dolen Testun (Yn agor mewn tab newydd) [Display Text Link (Opens in a new tab)] [2].

I ddewis maint wedi’i osod yn barod o restr, cliciwch y gwymplen Maint (Size) [3]. Rhagosod opsiynau maint gan gynnwys canolig, mawr, a mawr iawn.

I roi maint personol, dewiswch yr opsiwn Personol (Custom) [4]. Rhowch led neu uchder personol mewn picseli yn y meysydd maint [5]. Wrth i chi roi maint, bydd y maes arall yn diweddaru’n awtomatig i gadw’r gymhareb agwedd.

I gadw opsiynau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [6].

Nodyn: Does dim modd golygu teitl y cyfryngau o’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio I olygu teitl y cyfryngau, ewch i fanylion y cyfryngau.

Galluogi neu Analluogi ‘r Opsiwn Llwytho i Lawr

Dewis Opsiynau Plannu

Os ydych chi’n plannu eich cyfryngau eich hun, gallwch chi adael i’r cyfryngau gael eu llwytho i lawr. I ddangos yr opsiwn llwytho i lawr yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr (Display Download Option). Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.

Nodyn: Dydy’r botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr ddim ond yn ymddangos os mai chi yw’r perchenog a wnaeth greu a llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny yn Studio.

Plannu Cyfryngau

Dewiswch Gyfryngau

Cliciwch y botwm Plannu (Embed).

Gweld Cyfryngau

Gweld Cyfryngau

Wrth weld cyfryngau wedi’u plannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae defnyddwyr yn gallu personoli eu profiad drwy ddefnyddio rheoliadau chwarae dewislen y Gosodiadau (Settings).

Gweld Opsiynau Cyfryngau gyda Sylwadau wedi’u Galluogi

Gweld Cyfryngau gyda Sylwadau wedi’u Galluogi

Mae’n bosib y bydd ffeiliau sain a fideo yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys sylwadau. Pan fo sylwadau wedi’u galluogi, bydd y ffeil sain neu fideo hefyd yn cynnwys manylion ychwanegol yn dibynu ar rôl y defnyddiwr.

Gweld Manylion Cyfryngau

Gweld Manylion Cyfryngau

Mae ffeiliau sain a fideo sydd â sylwadau yn dangos manylion y ffeil, sy’n cynnwys y teitl, disgrifiad, a thagiau, os oes rhai. Mae’r dangosyddion hyn yn helpu defnyddwyr i chwilio am ffeiliau sain neu fideo wrth blannu yn Canvas.

Pan fo cyfryngau’n cael eu hychwanegu trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd teitl y cyfryngau’n cael ei greu gan ddefnyddio enw’r ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny.  

Gall defnyddwyr â rolau addysgwyr olygu manylion i ychwanegu disgrifiad a thagiau i gyfryngau. Maen nhw hefyd y gallu golygu’r teitl, os oes angen.

Gweld Sylwadau

Gweld Sylwadau

Pan fo sylwadau wedi’u galluogi, mae’r dotiau yn yr amserlen yn nodi sylwadau [1], y gellir eu gweld yn uniongyrchol yn y tab Sylwadau (Comments) [2]. Mae sylwadau’n cael eu trefnu’n gronolegol ac maen nhw’n cael eu hamlygu wrth iddyn nhw ymddangos yn yr amserlen. Gall sylwadau hefyd gynnwys atebion gan ddefnyddwyr eraill.

Gall unrhyw ddefnyddiwr ychwanegu sylwadau. Gall defnyddwyr â rolau addysgwyr reoli pob sylw ar gyfer cyfryngau yn y cwrs a thynnu sylwadau os oes angen.

Gweld Dadansoddiadau

Gweld Dadansoddiadau

Gall defnyddwyr â rolau addysgwyr weld dadansoddiadau pob ffeil sain neu fideo ar sail pob defnyddiwr unigol. Mae dadansoddiadau ar y tab Mewnwelediadadu (Insights) yn gallu helpu addysgwyr i weld a wnaeth defnyddiwr wylio’r ffeil gyfryngau i gyd neu anwybyddu rhannau. Yn benodol, mae’r nodwedd hon yn helpu addysgwyr i weld os ydy myfyrwyr yn gwylio’r cynnwys yn ddigonol wrth baratoi ar gyfer aseiniad neu drafodaeth.