Sut ydw i’n llwytho ffeiliau cyfryngau i fyny yn fy nghyfrif Canvas Studio?

Yn Canvas Studio, gallwch chi lwytho ffeiliau cyfryngau i fyny o’ch dyfais drwy lusgo a gollwng ffeil i dudalen Fy Llyfrgell neu drwy ddefnyddio’r eicon Ychwanegu Cyfryngau. Mae Studio yn gallu delio a llwytho ffeiliau cyfryngau unigol i fyny, a gallwch chi lwytho ffeil cyfryngau unigol neu fwy nag un ffeil unigol ar y tro.  Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB Dysgwch fwy am fformatiau ffeiliau cydnaws.

Unwaith bod y ffeil cyfryngau wedi’i llwytho i fyny i Studio, gallwch chi ychwanegu anodiadau, rhannu mynediad, a rheoli’r cyfryngau gan ddefnyddio’r tab cyfryngau.

Mae Studio hefyd yn gallu delio ag ychwanegu fideos o YouTube a Vimeo drwy URL.

Nodyn: Mae gweinyddwyr yn gallu rhwystro defnyddwyr rhag llwytho cyfryngau i fyny o ddyfais. Gallwch ddysgu mwy am reoli hawliau yn Canvas Studio.

Lwytho Ffeiliau Cyfryngau i Fyny

Gallwch chi ychwanegu ffeiliau cyfryngau o unrhyw dudalen yn Studio. I lwytho ffeil cyfryngau i fyny, cliciwch yr eicon Ychwanegu Cyfryngau (Add Media) [1].

Neu gallwch chi lusgo a gollwng ffeiliau i mewn i Studio [2].

Nodiadau:

  • Gallwch chi lwytho nifer o ffeiliau cyfryngau i fyny ar yr un pryd. Ond, dydy Studio ddim yn gallu llwytho ffeiliau wedi’u cywasgu (ZIP) i fyny. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB Dysgwch fwy am fformatiau ffeiliau cydnaws.
  • Mae gweinyddwyr yn gallu rhwystro defnyddwyr rhag llwytho cyfryngau i fyny o ddyfais. Gallwch ddysgu mwy am reoli hawliau yn Canvas Studio.

Pori Ffeiliau

Pori Ffeiliau

Cliciwch y botwm Pori Ffeiliau (Browse Files) [1]. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu ychwanegu cyfryngau drwy URL YouTube neu Vimeo [2].

Llwytho Ffeil i Fyny

Llwytho Ffeil i Fyny

Dewiswch y ffeil cyfryngau rydych chi am ei lwytho i fyny [1]. Cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload) [2].

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Gweld cynnydd y broses llwytho cyfryngau i fyny.

Gweld Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny

Gweld y cyfryngau yn eich tudalen Fy Llyfrgell Cliciwch i weld y cyfryngau

Rheoli Cyfryngau

rannu’r cyfryngau, llwytho’r cyfryngau i lawr, llwytho trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr, neu ddileu’r cyfryngau cliciwch y ddewislen Rhagor o Opsiynau (More Options) [1].

Gallwch chi reoli’r cyflymder chwarae cyfryngau a galluogi ac analluogi sylwadau o’r ddewislen Gosodiadau Cyfryngau (Media Settings) [2].

I weld y cyfryngau mewn llyfrgell neu gwrs, cliciwch y gwymplen Lleoliad Cyfryngau (Media Location) [3]. Os bydd y cyfryngau’n cael eu hychwanegu at gwrs, gallwch chi weld manylion cyfryngau sy’n benodol i gwrs.

Gallwch chi hefyd olygu manylion cyfryngau [4], gweld sylwadau [5], adolygu gwybodaeth a dadansoddi defnyddwyr [6], ac ychwanegu capsiynau [7].

Nodyn: I lwytho trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr, rhaid i’r opsiwn capsiynu fod wedi cael ei alluogi gan berchennog y cyfryngau.