Sut ydw i’n rhannu cyfryngau â defnyddiwr yn Canvas Studio?

Gallwch chi rannu eich ffeiliau cyfryngau Studio gyda defnyddwyr unigol a gyda’ch grwpiau Studio. Pan fyddwch chi’n rhannu eich cyfryngau, gallwch chi ddewis gadael i bobl eraill weld neu olygu’r cyfryngau. Mae cyfryngau wedi’u rhannu i’w gweld yn y dudalen Wedi Rhannu â Mi (Shared with Me). Gallwch chi newid neu dynnu’r hawliau rhannu cyfryngau ar unrhyw adeg

Os ydych chi’n gadael i ddefnyddiwr weld ffeil cyfryngau, maen nhw’n gallu gweld y cyfryngau, cael gafael ar y cod sydd wedi’i blannu a’r ddolen rannu gyhoeddus, a rhannu’r cyfryngau â phobl eraill.

Os ydych chi’n gadael i ddefnyddiwr olygu ffeil cyfryngau, mae ganddyn nhw’r un hawliau â phe bae nhw wedi llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny’n wreiddiol, gan gynnwys dileu’r cyfryngau , golygu manylion y cyfryngau (teitl, disgrifiad, tagiau), ychwanegu sylwadau, llwytho i lawr, copïo, rhannu’r cyfryngau, a gweld mewnwelediadau dadansoddol. Ond, dim ond os byddan nhw’n copïo’r cyfryngau i’w llyfrgell y bydd defnyddwyr rydych chi’n rhannu’r cyfryngau â nhw yn gallu torri neu docio y cyfryngau.

Mae’r wers hon yn dangos i chi sut i rannu cyfryngau’n uniongyrchol o’r dudalen Fy Llyfrgell. Ond, gallwch chi hefyd rannu cyfryngau wrth wylio fideo. 

Rheolau Rhannu Cyfryngau Canvas Studio: 

  • Mae myfyrwyr yn gallu rhannu cyfryngau â grwpiau Canvas Studio maen nhw’n aelodau ohonynt, pob addysgwr, cynorthwywyr dysgu, dylunwyr addysgol, a gweinyddwyr yn eu sefydliad. Maen nhw hefyd yn gallu rhannu cyfryngau ag unrhyw ddefnyddiwr Canvas Studio wedi’i wirio sydd wedi ymrestru ar yr un cyrsiau.
  • Mae addysgwyr, cynorthwywyr dysgu, a dylunwyr addysgol yn gallu rhannu cyfryngau â grwpiau Canvas Studio maen nhw’n aelodau ohonynt, pob addysgwr arall, cynorthwywyr dysgu, dylunwyr addysgiadol, a gweinyddwyr yn eu sefydliad. Maen nhw hefyd yn gallu rhannu cyfryngau â defnyddwyr Canvas Studio wedi’u gwirio sydd wedi ymrestru ar eu cyrsiau.
  • Mae gweinyddwyr yn gallu rhannu cyfryngau Canvas Studio â grwpiau Canvas Studio maen nhw’n aelodau ohonynt a phob defnyddiwr yn y sefydliad.

Sylwch: 

  • Dim ond gyda defnyddwyr Canvas Studio wedi’u gwirio y gallwch chi rannu cyfryngau Mae defnyddiwr yn cael ei wirio pan mae’n gwylio cyfryngau Studio wedi’u plannu mewn cwrs Canvas y maen nhw wedi ymrestru arno. 
  • I rannu ffeil cyfryngau â phob aelod cwrs, adran, neu grŵp ar yr un pryd, gallwch chi greu neu ofyn i weinyddwr greu grŵp Canvas Studio. Gallwch chi hefyd rannu ffeil fideo neu sain â mwy nag un unigolyn ar yr un pryd.
  • Nid yw unrhyw gwisiau sydd wedi’u hychwanegu at fideo yn cael eu cynnwys pan mae fideo’n cael ei rhannu.
  • Does dim modd rhannu cynnwys Studio i Commons na’i fewngludo o Commons.

Canfod Rhannu Cyfryngau

Ar y dudalen Fy Llyfrgell, canfyddwch y cyfryngau a chlicio’r eicon Opsiynau [1]. Yna cliciwch y ddolen Rhannu Cyfryngau (Share Media) [2].

Sylwch: Gallwch chi hefyd rannu cyfryngau o ddewislen Opsiynau Chwaraewr Cyfryngau Studio.

Rhannu Cyfryngau

Rhannu Cyfryngau

Mae’r dudalen Rhannu Cyfryngau’n dangos y tab Pobl (People).

Ychwanegu Pobl

Ychwanegu Pobl

I rannu’r cyfryngau, rhowch enw neu e-bost y defnyddiwr yn y maes Teipiwch i ychwanegu pobl neu grwpiau (Type to add people or groups) [1], a chlicio enw'r defnyddiwr [2]. Gallwch chi ailadrodd y broses hon ac ychwanegu cymaint o ddefnyddwyr ag sydd eu hangen. Gallwch chi hefyd rannu cyfryngau â’r grwpiau Studio.

Mae defnyddwyr wedi’u hychwanegu i’w gweld yn yr adran Wedi’i rannu â (Shared with) [3].

Rheoli Mynediad at Gyfryngau

Rheoli Mynediad at Gyfryngau

Yn ddiofyn, mae Studio yn gadael i bob eraill weld y cyfryngau rydych chi wedi’u rhannu. Ond, gallwch chi adael i bobl eraill olygu’r cyfryngau rydych chi wedi’u rhannu.

I reoli mynediad wedi’i rannu wrth rannu eich cyfryngau, cliciwch y gwymplen Rhannu Mynediad (Sharing Access) [1].  Neu, gallwch chi reoli mynediad wedi’i rannu ar gyfer defnyddwyr unigol. Yn yr adran Wedi’i rannu â, cliciwch gwymplen Rhannu Mynediad (Sharing Access) y defnyddiwr [2].  

I adael i ddefnyddiwr arall weld, copïo, a rhannu’n cyfryngau, dewiswch yr opsiwn Gallu Gweld (Can View) [3].

I adael i ddefnyddiwr arall weld, golygu manylion cyfryngau (teitl, disgrifiad, tagiau), ychwanegu sylwadau, dileu, llwytho i lawr, copïo, a rhannu’r cyfryngau, dewiswch yr opsiwn Gallu Golygu (Can Edit) [4].

I dynnu mynediad wedi’i rhannu oddi ar ddefnyddiwr, cliciwch yr opsiwn Tynnu Mynediad (Revoke Access) [5].

Diweddaru Cyfryngau wedi’u Rhannu

Diweddaru Cyfryngau wedi’u Rhannu

I rannu’r cyfryngau â’r defnyddwyr sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Diweddaru (Update).