Sut ydw i’n plannu cyfryngau Canvas Studio mewn ymateb i drafodaeth yn Canvas fel myfyriwr?
Gallwch chi blannu ffeil sain neu fideo Canvas Studio fel ymateb i drafodaeth yn Canvas. Pan fydd tabiau cyfryngau wedi’u hanalluogi, mae modd newid maint cyfryngau Canvas Studio sydd wedi’u plannu yn y rhyngwyneb defnyddiwr.
Ar ôl i chi gyflwyno ffeil sain neu fideo Studio fel aseiniad, mae’r ffeil sain neu fideo yn cael ei chreu fel copi newydd sy’n eiddo i’ch addysgwr. Ni fyddwch chi’n gallu golygu unrhyw fanylion, felly cadarnhewch enw eich ffeil sain neu fideo cyn iddi gael ei llwytho i fyny fel cyfryngau Studio.
Agor Trafodaethau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Cliciwch Ymateb
Cliciwch y maes Ymateb (Reply).
Agor Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch yr eicon Studio [1].
Os nad yw’r eicon Studio yn ymddangos yn y bar offer, cliciwch yr eicon Opsiynau [2].
Sylwch: Gallwch chi gael mynediad at yr adnodd Stiwdio o’r eicon Ap [3].
Canfod Cyfryngau
Mae’r ffenestr Fy Llyfrgell yn dangos cyfryngau yn y drefn y cafodd ei hychwanegu at y llyfrgell. I sgrolio drwy’r rhestr, cliciwch eich cyrchwr ar y bar sgrolio a llusgo i weld y llyfrgell [1].
I chwilio am gyfryngau, cliciwch yr eicon Chwilio (Search) [2].
I recordio neu lwytho cyfryngau i fyny, cliciwch y gwymplen Creu (Create) [3].
I hidlo a rhoi cyfryngau mewn trefn, defnyddiwch y cwymplenni Trefnu yn ôl (Sort by) a Hidlo yn ôl (Filter by) [4].
Dewis Cyfryngau
Hofrwch eich cyrchwr dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu dewis, a chlicio’r botwm Gweld (View) [2].
Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau
Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlannu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I ddangos neu guddio’r Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display media tabs).
Sylwch: Yn ddiofyn, bydd yr opsiwn hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae gweinyddwyr yn rheoli p’un ai yw ymlaen neu wedi’i ddiffodd drwy Osodiadau Studio.
Plannu ar Stamp Amser
Os ydych chi’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol fel YouTube neu Vimeo, gallwch chi osod y cyfryngau i ddechrau chwarae ar stamp amser penodol.
I blannu cyfryngau ar stamp amser, cliciwch neu chwarae’r fideo i’r amser rych chi ei eisiau [1]. Yna cliciwch y botwm Gosod presennol (Set current) [2]. Mae’r amser sydd i’w weld ar y botwm Gosod presennol i’w weld yn y maes Stamp Amser (Timestamp) [3]. Neu, rhowch amser yn uniongyrchol yn y maes Stamp Amser.
Sylwch: Dim ond os yw’r cyfryngau o YouTube neu Vimeo y mae'r opsiwn i ddechrau plannu cyfryngau ar stamp amser yn ymddangos.
Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu
I newid maint cyfryngau wedi’u plannu, cliciwch i analluogi’r togl Analluogi tabiau cyfryngau (Display media tabs) [1]. Yna cliciwch y botwm Plannu (Embed) [2].
Agor Opsiynau Cyfryngau Studio
Cliciwch yn ffenestr y fideo i ddangos neidlen Opsiynau Cyfryngau Studio Yna cliciwch y ddolen Opsiynau Cyfryngau Studio (Studio Media Options).
Mae’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio yn dangos gwybodaeth am y cyfryngau, gan gynnwys teitl y cyfryngau, ac opsiynau maint a dangosydd.
Gallwch chi bersonoli sut mae’r cyfyngau sydd wedi’u plannu yn ymddangos. Gallwch chi blannu’r fideo yn syth yn y golygydd cynnwys cyfoethog, cliciwch y botwm Plannu Fideo (Embed Video) [1]. I ddangos dolen testun i agor y cyfryngau mewn tab newydd, cliciwch y botwm radio Dangos Dolen Testun (Yn agor mewn tab newydd) [Display Text Link (Opens in a new tab)] [2].
I ddewis maint wedi’i osod yn barod o restr, cliciwch y gwymplen Maint (Size) [3]. Rhagosod opsiynau maint gan gynnwys canolig, mawr, a mawr iawn.
I roi maint personol, dewiswch yr opsiwn Personol (Custom) [4]. Rhowch led neu uchder personol mewn picseli yn y meysydd maint [5]. Wrth i chi roi maint, bydd y maes arall yn diweddaru’n awtomatig i gadw’r gymhareb agwedd.
I gadw opsiynau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [6].
Sylwch: Does dim modd golygu teitl y cyfryngau o’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio I olygu teitl y cyfryngau, ewch i fanylion y cyfryngau.
Galluogi neu Analluogi ‘r Opsiwn Llwytho i Lawr
Os ydych chi’n plannu eich cyfryngau eich hun, gallwch chi adael i’r cyfryngau gael eu llwytho i lawr. I ddangos yr opsiwn llwytho i lawr yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr (Display Download Option). Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.
Sylwch: Dydy’r botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr ddim ond yn ymddangos os mai chi yw’r perchennog a wnaeth greu a llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny yn Studio.
Plannu Cyfryngau
Cliciwch y botwm Plannu (Embed).
Gweld Cyfryngau Studio mewn Ymateb
Mae eich cyfryngau studio yn ymddangos yn y maes ymateb i drafodaeth [1].
Pan fyddwch chi’n barod i bostio eich ymateb, cliciwch y botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld eich Ymateb
Bydd eich ymateb yn ymddangos ar waelod edefyn ymateb y drafodaeth.