Sut ydw i’n cyflwyno cyfryngau Canvas Studio fel aseiniad Llwytho Ffeil i Fyny yn Canvas fel myfyriwr?
Gallwch chi gyflwyno ffeil sain neu fideo Canvas Studio fel aseiniad Llwytho Ffeil i Fyny yn Canvas.
Cyn i chi lwytho ffeil sain neu fideo i fyny fel cyfryngau Studio, cadarnheewch deitl a disgrifiad o’ch ffeil sain neu fideo. Ni fyddwch chi’n gallu golygu’r teitl na’r disgrifiad ar ôl i’r cyfryngau gael eu llwytho i fyny.
Sylwch: Gallwch chi gyflwyno aseiniadau cyfryngau Studio dros y we neu drwy ap Android neu iOS Canvas by Instructure.
Agor Aseiniadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Sylwch: Os nad yw’r ddolen Aseiniadau ar gael yn eich cwrs, efallai y byddwch chi’n gallu cael gafael ar yr aseiniad trwy ardaloedd eraill Canvas fel modiwlau, maes llafur, neu yn eich dangosfwrdd defnyddiwr.
Agor Aseiniad
Cliciwch enw’r aseiniad.
Dechrau Aseiniad
Cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).
Agor Studio
Cliciwch y tab Studio.
Canfod Cyfryngau
Yn eich cyfrif Studio, canfyddwch y ffeil sain neu fideo rydych chi eisiau ei chyflwyno.
Yn ddiofyn, mae cyfryngau yn ymddangos yn y drefn y cafodd eu hychwanegu at eich llyfrgell.
I chwilio am ffeil sain neu fideo, cliciwch yr eicon Chwilio [1].
I hidlo a rhoi cyfryngau mewn trefn, defnyddiwch y cwymplenni Trefnu (Sort) a Hidlo (Filter) [2].
Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny
Gallwch chi hefyd llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny o gipio sgrin, eich gwe-gamera, ffeil ar eich cyfrifiadur, neu ddolen allanol i ffeil ar Vimeo neu Youtube. I lwytho cyfryngau newydd i fyny, cliciwch y gwymplen Creu (Create) [1]. Yna, dewiswch un o’r opsiynau llwytho i fyny [2].
Gallwch chi hefyd lusgo a gollwng cyfryngau i’r ffenestr. Gallwch chi lwytho swp o ffeiliau cyfryngau i fyny ar yr un pryd. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB
Sylwch: Gall opsiynau llwytho cyfryngau i fyny edrych yn wahanol, yn dibynnu ar y porwr rydych chi’n ei ddefnyddio.
Dewis Cyfryngau
Hofrwch dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu dewis a chlicio’r botwm Gweld (View).
Dewis Opsiynau Plannu
Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlannu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I guddio’r Tabiau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display Media Tabs). Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn ymlaen.
I ddangos yr opsiwn llwytho i lawr yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr (Display Download Option) [2]. Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.
Sylwch: Dydy’r botwm togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr ddim ond yn ymddangos os mai chi yw’r perchennog a wnaeth greu a llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny yn Studio.
Plannu Cyfryngau
Cliciwch y botwm Plannu (Embed).
Cyflwyno Aseiniad
Mae’r URL gwefan yn ymddangos ar gyfer y cyfryngau rydych chi wedi’u dewis. Os hoffech chi ddewis ffeil sain neu fideo arall, cliciwch y botwm Newid (Change) [1].
I ychwanegu unrhyw sylwadau fel rhan o’ch cyflwyniad, rhowch nhw yn y maes Sylwadau Ychwanegol (Additional Comments) [2].
I gyflwyno’r aseiniad cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment) [3].
Gweld Cyflwyniad
Gweld eich dilysiad cyflwyno.
I weld eich cyflwyniad cyfryngau, cliciwch y ddolen Manylion Cyflwyniad (Submission Details) [1].
I ail-gyflwyno eich cyfryngau, cliciwch y botwm Cais Newydd (New Attempt) [2].