Sut ydw i'n defnyddio Canvas Studio?

Mae cyfrif Canvas Studio yn gadael i chi reoli eich holl gyfryngau Studio ar unrhyw adeg. Gallwch chi weld, rhannu neu wneud sylw ar unrhyw ffeil cyfryngau sain neu fideo sydd wedi’u llwytho i fyny.

Pan mae Studio wedi’i integreiddio â Canvas, gall defnyddwyr â rolau addysgwyr blannu cyfryngau o fewn eu cyrsiau hefyd.

Mae nodweddion rheoli a golygu cyfryngau hefyd ar gael. Er enghraifft, gallwch chi olygu cyfryngau, gweld gwybodaeth dadansoddi, ac ychwanegu capsiynau.

Gan amlaf, mae cyfrifon Studio wedi’u hintegreiddio â Canvas a gellir cael mynediad ato drwy Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan eich sefydliad. Ond, gallwch chi hefyd gael mynediad at Studio trwy wefan Studio arall (fel arfer ar gyfer gweinyddwyr). Gallwch ddysgu mwy am gael mynediad at Canvas Studio.

Sylwch: 

  • Os nad yw eich Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan Canvas yn cynnwys dolen i Studio, ac os nad yw eich sefydliad wedi darparu e-bost i chi fewngofnodi i wefan Studio, galllwch chi’n wastad gael mynediad at Studio trwy eicon Golygydd Cynnwys Cyfoethog Studio, er bod y swyddogaethau llawn wedi’u cyfyngu. Os ydych chi’n addysgwr, gallwch chi hefyd gael mynediad at Studio drwy’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs.
  • Mae Chwaraewr Cyfryngau Canvas Studio’n gallu delio â bysellau hwylus. Gweler y ddogfen Bysellau Hwylus Chwaraewr Cyfryngau Studio.

Gweld Canvas Studio

Yn Canvas Studio, mae’r dudalen Fy Llyfrgell yn dangos Bar Offer Llywio [1], botymau Chwilio a Chreu [2], ac opsiynau hidlo [3].  

Mae’r holl gyfryngau a chasgliadau o gyfryngau yn eich llyfrgell yn ymddangos mewn teiliau rhagolwg [4]. Yn ddiofyn, y cyfryngau a gafodd eu llwytho i fyny fwyaf diweddar fydd yn ymddangos yn gyntaf.

Mae cyfryngau sy’n cynnwys capsiynau yn dangos eicon Capsiwn [5], ac mae cyfryngau sy’n cynnwys cwis fideo yn dangos eicon Cwis [6].

Gweld y Bar Offer Crwydro Studio

I fynd yn ôl i’r dudalen Fy Llyfrgell o unrhyw dudalen arall, cliciwch yr eicon Hafan (Home) [1].

I weld yr holl gyfyngau sydd wedi cael eu rhannu gyda chi, cliciwch y tab Wedi Rhannu gyda Mi (Shared with Me) [2].  

I weld eich holl gasgliadau cwrs, cliciwch y gwymplen Casgliadau Cwrs (Course) [3].

I weld eich Grwpiau, Cynadleddau, ac Integreiddiadau, a rheoli eich gosodiadau capsiynau personol, cliciwch y tab Gosodiadau (Settings) [4].

Nodyn: Mae’r Bar Offer Crwydro Studio yn ymddangos ar frig pob tudalen.

Chwilio a Trefnu Cyfryngau

Mae eich llyfrgell cyfryngau yn dangos eich cyfryngau a’ch casgliadau cyfryngau gyda’r rhai diweddaraf yn cael eu dangos yn gyntaf.

I roi trefn ar y ffeiliau yn ôl enw, cliciwch y gwymplen Trefnu yn ôl (Sort by) [1].

I hidlo yn ôl casgliad, ffeil unigol neu statws capsiynau, cliciwch y gwymplen Hidlo yn ôl (Filter by) [2].

I chwilio am eitem cyfryngau, cliciwch yr eicon Chwilio (Search) [3].

I greu casgliad newydd yn y llyfrgell gyfryngau, cliciwch y botwm Ychwanegu Casgliad (Add Collection) [4]. Gallwch ddysgu mwy am gasgliadau.

Ychwanegu Cyfryngau

Ychwanegu Cyfryngau

I ychwanegu cyfryngau gan ddefnyddio cipio sgrin, gwe-gamera, neu lwytho ffeil i fyny, cliciwch y botwm Creu (Create).

Golygu Cyfryngau

Golygu Cyfryngau

I weld opsiynau golygu cyfryngau, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options).

Dysgwch ragor am greu cwisiau fideo, anodi fideo, golygu cyfryngau, rhannu cyfryngau gyda defnyddwyr neu drwy ddolen gyhoeddus, symud cyfryngau, newid mân-luniau, a dileu cyfryngau Studio.

Gweld Cyfryngau

Gweld Cyfryngau

I weld y cyfryngau, cliciwch y mân-lun cyfryngau.

Rheoli Cyfryngau

Mae tabiau cyfryngau’n gadael i chi gael gafael ar fanylion cyfryngau [1], sylwadau [2], manylion ymweliadau [3], a’r gallu i greu, llwytho i fyny, neu wneud cais am gapsiynau awtomatig [4].