Sut ydw i’n ychwanegu eitem modiwl cyfryngau Casnvas Studio mewn cwrs Canvas fel addysgwr?

Fel addysgwr, gallwch chi ychwanegu ffeil sain neu fideo Canvas Studio fel eitem modiwl fel adnodd allanol. 

Agor Modiwlau

Agor Modiwlau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Ychwanegu Eitem Modiwl

Ychwanegu Eitem Modiwl

Cliciwch y botwm Ychwanegu Eitem (Add Item).

Ychwanegu Adnodd Allanol

Ychwanegu Adnodd Allanol

Yn y gwymplen Ychwanegu [Math o Eitem] I: (Add [Item Type] To:), dewiswch yr opsiwn Adnodd Allanol (External Tool).

Canfod Adnodd Allanol

Canfod Adnodd Allanol

Cliciwch yr adnodd Studio.

Gweld Cyfryngau yn y Llyfrgell

Canfod Cyfryngau

Yn ddiofyn, mae’r dudalen yn dangos cyfryngau o’ch casgliad. I weld casgliadau eraill, cliciwch y ddewislen Fy Llyfrgell (My Library) [1].

I chwilio am ffeil sain neu fideo, cliciwch yr eicon Chwilio [2].

Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr, gallwch chi hefyd weld casgliadau cyfryngau ar gyfer eich cyrsiau.

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

I lwytho cyfryngau newydd i fyny, cliciwch yr eicon Rhagor o Opsiynau (More Options) [1].

Gallwch chi ychwanegu cyfryngau o gipio sgrin, cipio gwe-gamera, ffeil wedi’i llwytho i fyny o gyfrifiadur neu ddolen allanol. I ddewis y math o gyfryngau rydych chi eisiau eu hychwanegu, cliciwch y ddolen briodol [2].

Gallwch chi hefyd lusgo a gollwng cyfryngau i’r ffenestr. Gallwch chi lwytho swp o ffeiliau cyfryngau i fyny ar yr un pryd. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB

Dewis Cyfryngau

Dewis Cyfryngau

Hofrwch dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu plannu, yna chlicio’r botwm Dewis (Select).

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Analluogi Tabiau Cyfryngau

Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlanu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I ddangos neu guddio’r Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y botwm togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display Media Tabs).

Nodyn: Yn ddiofyn, bydd yr opsiwn hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae gweinyddwyr yn rheoli p’un ai yw ymlaen neu wedi’i ddiffodd drwy Osodiadau Studio.

Plannu ar Stamp Amser

Plannu ar Stamp Amser

Os ydych chi’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol fel YouTube neu Vimeo, gallwch chi osod y cyfryngau i ddechrau chwarae ar stamp amser penodol.

I blannu cyfryngau ar stamp amser, cliciwch neu chwarae’r fideo i’r amser rych chi ei eisiau [1]. Yna cliciwch y botwm Gosod presennol (Set current) [2]. Mae’r amser sydd i’w weld ar y botwm Gosod presennol i’w weld yn y maes Stamp Amser (Timestamp) [3]. Neu, rhowch amser yn uniongyrchol yn y maes Stamp Amser.

Nodiadau:

  • Dim ond os yw’r cyfryngau o YouTube neu Vimeo y mae'r opsiwn i ddechrau plannu cyfryngau ar stamp amser yn ymddangos.
  • Nid yw trafodaethau wedi’u creu’n uniongyrchol mewn grŵp yn cynnwys yr opsiynau plannu ar gyfer cyfryngau Studio ac nid yw’n cadw cofnod o ddata gwylwyr. I weld yr opsiynau plannu a’r data gwylwyr wrth greu trafodaeth ar gyfer grŵp cwrs, rhaid i’r drafodaeth gael ei chreu ar lefel y cwrs ac yna’i gosod fel trafodaeth grŵp.

Galluogi neu Analluogi ‘r Opsiwn Llwytho i Lawr

Plannu Cyfryngau Mewnol

Wrth blannu cyfryngau mewnol y gwnaethoch chi eu creu a’u llwytho i fyny yn Studio, gallwch chi ddewis gadael i fyfyrwyr lwytho’r cyfryngau i lawr. I alluogi llwytho ffeiliau i lawr gan fyfyrwyr, rhowch y togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr (Display Download Option) ymlaen.  Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.

Nodyn: Dydy’r togl Dangos Opsiwn Llwytho i Lawr ddim ond yn ymddangos os mai chi yw’r perchenog a wnaeth greu a llwytho’r ffeil cyfryngau i fyny yn Studio.

Plannu Cyfryngau

Plannu Cyfryngau

I blannu fideo yn y drafodaeth, cliciwch y botwm Plannu (Embed) [1].

I ddewis fideo wahanol, cliciwch y botwm Dewis Fideo Arall (Select Another Video) [2].

Ychwanegu Eitem

Ychwanegu Eitem

Er mwyn i’r cyfryngau agor mewn tab porwr newydd, cliciwch y blwch ticio Llwytho mewn tab newydd (Load in a new tab) [1]. Dewis p’un ai i fewnosod yr eitem yng nghwymplen y modiwl [2].

Cliciwch y botwm Ychwanegu Eitem (Add Item) [3].

Gweld Modiwl

Gweld y cyfryngau Studio yn eich modiwl.