Sut ydw i’n creu cwis fideo Canvas Studio?
Mae addysgwyr, cynorthwywyr dysgu, dylunwyr, a gweinyddwyr cyfrif Canvas Studio yn gallu creu cwisiau o’u tudalen Fy Llyfrgell yn Studio.
Nodiadau:
- Dim ond yn eich tudalen Fy Eitemau y gallwch chi greu cwisiau Studio o fideos.
- Mae cwisiau Studio yn gallu delio â mathau o gwestiynau Mwy nag un dewis, Gwir neu Ffug, a Mwy nag un ateb.
- Nid yw cwisiau Studio yn gallu delio â mwy na 50 o gwestiynau mewn cwis. Does dim modd golygu cwisiau gyda mwy na 50 o gwestiynau ac efallai na fyddan nhw’n ymddangos yn iawn i fyfyrwyr.
- Mae modd ychwanegu mwy nag un cwis at ffeil cyfryngau.
- Os nad yw’r opsiwn creu cwis yn ymddangos yn Studio, nid yw’r nodwedd hon wedi’i galluogi yn eich cyfrif. Cysylltwch â’ch gweinyddwyr i gael rhagor o wybodaeth.
- Pan fyddwch chi’n rhannu fideo Studio, ni fydd unrhyw gwis sydd wedi’i greu yn y fideo hwnnw yn cael ei gynnwys.
Creu Cwis
Yn y dudalen Fy Llyfrgell, dewch o hyd i’r cyfryngau i seilio eich cwis arnynt, cliciwch yr eicon Opsiynau [1] ac yna clicio’r ddolen Creu Cwis (Create Quiz) [2].
Ychwanegu Manylion Cwis

Yn y maes Teitl Cwis Fideo (Video Quiz Title) [1], rhowch enw’r cwis.
Yn y maes Disgrifiad (Description) [2], rhowch ddisgrifiad opsiynol.
I guddio marciau cwestiwn yn y cwis wedi’i blannu, cliciwch y botwm toglo Cuddio marciau cwestiwn ar yr amserlen i fyfyrwyr (Hide question markers on timeline for students) [3].
I ganiatáu i anodiadau fideo ymddangos ar amserlen cwis, cliciwch y botwm toglo Caniatáu dangos anodiadau ar yr amserlen i fyfyrwyr (Allow displaying annotations on timeline for students) [4].
Cliciwch y botwm Dechrau Arni (Get Started) [5].
Ychwanegu Cwestiynau
I greu cwestiwn cwis, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add). Mae’r botwm Ychwanegu’n ymddangos pan fo’r cyfryngau wedi’u rhewi.
Nodyn: Nid yw cwisiau Studio yn gallu delio â mwy na 50 o gwestiynau mewn cwis. Does dim modd golygu cwisiau gyda mwy na 50 o gwestiynau ac efallai na fyddan nhw’n ymddangos yn iawn i fyfyrwyr.
Dewis Math o Gwestiwn

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yr opsiwn math o gwestiwn Mwy nag un dewis (Multiple Choice) [1], Gwir neu Ffug (True or False) [2], neu Fwy nag un ateb (Multiple Answer) [3].
Golygu Manylion Cwestiwn sydd â dewis o atebion
Yn y maes Sail y Cwestiwn (Question Stem) [1], ychwanegwch sail y cwestiwn. Mae sail y cwestiwn yn cynnwys y cwestiwn a gwybodaeth ychwanegol os oes angen.
I ychwanegu atebion at y cwestiwn, teipiwch y cwestiynau yn y meysydd Ateb (Answer) [2]. I ddewis yr atebion cywir, cliciwch y botwm wrth yr ateb hwnnw [3].
I ychwanegu dewis ateb ychwanegol, cliciwch y ddolen Ychwanegu Ateb (Add Answer) [4]. I ddileu ateb, cliciwch yr eicon Dileu [5].
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [6].
Amrywio Pwyntiau yn ôl Ateb
I amrywio pwyntiau’n seiliedig ar ymatebion myfyriwr, cliciwch y blwch ticio Amrywio Pwyntiau yn ôl Ateb (Vary points by answer) [1].
Gyda’r opsiwn hwn wedi’i ddewis, gallwch chi osod cyfansymiau pwyntiau penodol ar gyfer pob opsiwn drwy deipio gwerth pwynt yn y maes Pwyntiau (Points) [2] neu ddefnyddio’r saethau i gynyddu neu leihau gwerth y pwynt [3].
Golygu Manylion Cwestiwn Gwir neu Ffug
Yn y maes Sail y Cwestiwn (Question Stem) [1], ychwanegwch sail y cwestiwn. Mae sail y cwestiwn yn cynnwys y cwestiwn a gwybodaeth ychwanegol os oes angen.
I ddewis yr ateb cywir i gwestiwn, cliciwch y botwm wrth yr opsiwn Gwir (True) [2] neu Ffug (False) [3].
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [4].
Golygu Manylion Cwestiwn sydd â dewis o atebion
Yn y maes Sail y Cwestiwn (Question Stem) [1], ychwanegwch sail y cwestiwn. Mae sail y cwestiwn yn cynnwys y cwestiwn a gwybodaeth ychwanegol os oes angen.
I ychwanegu atebion at y cwestiwn, teipiwch y cwestiynau yn y meysydd Ateb (Answer) [2]. I ddewis yr atebion cywir, cliciwch y blwch ticio wrth yr ateb hwnnw [3].
I ychwanegu dewis ateb ychwanegol, cliciwch y ddolen Ychwanegu Ateb (Add Answer) [4]. I ddileu ateb, cliciwch yr eicon Dileu [5].
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [6].
Ychwanegu Adborth Cwestiwn Cwis
I ychwanegu adborth cwestiwn, cliciwch y ddolen Adborth Cwe (Question Feedback) [1].
Gallwch chi roi sylwadau i fyfyrwyr weld ateb cywir [2], ateb anghywir [3], ac i ddarparu adborth cyffredinol [4]. Mae myfyrwyr yn gallu gweld adborth cwestiwn ar ôl cyflwyno’r cwis.
Gweld Cwestiynau

Mae’r eiconau marc cwestiwn yn yr amserlen yn dangos y cwestiynau yn y cyfryngau [1]. I olygu cwestiwn sydd eisoes yn bodoli, hofrwch eich cyrchwr dros yr eicon marc cwestiwn, a chlicio’r eicon Golygu [2].
I adolygu’r cwestiynau'r CwisTo review the video quiz questions while the video plays, click the Play button [3].
Dychwelyd i’r Cyfryngau

Ar ôl i chi orffen golygu eich cwis fideo, cliciwch y botwm Gorffen (Done).
Gweld Cyfryngau gyda Chwis
Ar y dudalen Fy Llyfrgell, canfyddwch y cyfryngau gyda’r cwis. Cliciwch yr eicon Opsiynau [1], hofrwch dros y ddolen Cwisiau (Quizzes) [2], ac yna edrych ar enw’r cwis sydd wedi’i greu [3].
I ddefnyddwyr wneud y cwis, rhaid i’r cyfryngau fod wedi’u plannu yn Canvas.
Nodyn: Ar ôl i fersiwn o gwis gael ei blannu neu ei wneud, nid oes modd ei olygu.