Sut ydw i’n llwytho ffeil capsiynau i fyny i Canvas Studio?
Yn Canvas Studio, gallwch chi lwytho ffeiliau cyfryngau i fyny ar gyfer eich cyfryngau.
Gallwch chi lwytho’r math canlynol o ffeiliau i fyny:
- Ffeiliau SRT, y math mwyaf cyffredin o ffeil trawsgrifiad
- Ffeiliau VVT, math o ffeil trawsgrifiad sy’n gweithio’n well ar ddyfeisiau symudol
Sylwch:
- Mae’n rhaid llwytho ffeil capsiynau i fyny ar gyfer cyfryngau YouTube a Vimeo, neu gallwch chi eu capsiynu eich hun. Ar gyfer mathau eraill o ffeiliau cyfryngau, gallwch chi hefyd wneud cais am gapsiynu awtomatig.
- O 25 Mawrth, 20204, bydd cyfryngau wedi’u llwytho i fyny i Canvas Studio yn cynnwys capsiynau wedi’u creu’n awtomatig yn ddiofyn. Ond, does dim modd i gyfryngau YouTube a Vimeo gael eu capsiynu’n awtomatig gan Studio, a rhaid llwytho ffeil cyfryngau i fyny neu greu capsiynau eich hun.
- I gael cymorth i greu ffeil capsiynau y tu allan i Studio, gallwch chi ddefnyddio gwefan gapsiynu fel Amara.
Canfod Cyfryngau
Yn Studio, mae’r dudalen Fy Llyfrgell (My Library) yn agor yn ddiofyn. Mae'r llyfrgell yn dangos teils rhagolwg cyfryngau, gyda'r cyfryngau a ychwanegwyd fwyaf diweddar yn cael eu dangos yn gyntaf.
I chwilio am ffeil cyfryngau, cliciwch yr eicon Chwilio (Search) [1]. I roi’r cyfryngau mewn trefn yn ôl teitl, cliciwch y gwymplen Trefnu yn ôl (Sort By) [2]. I hidlo’r cyfryngau yn ôl casgliad, neu statws capsiynau, cliciwch y gwymplen Hidlo yn ôl (Filter by) [3].
Sylwch: Mae’r cyfryngau sy’n cynnwys capsiynau yn dangos yr eicon Capsiwn (Caption) [4].
Agor Cyfryngau

Hofrwch eich cyrchwr dros fân-lun y cyfryngau, a chlicio’r botwm Gweld (View) [2].
Agor Capsiynau

Cliciwch y tab Capsiynau (Captions) [1]. Yna, i lwytho ffeil capsiynau i fyny, cliciwch y botwm Llwytho i Fyny (Upload) [2].
Dewis Iaith Ffeil Capsiynau

Yn yr adran Llwytho Capsiynau i Fyny, cliciwch y gwymplen Iaith (Language) [1], a dewis yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn eich ffeil capsiynau. Cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload) [2].
Rhowch Iaith Capsiynau Bersonol

Os nad yw Studio’n dangos iaith y capsiynau yn y rhestr, cliciwch y ddolen Personol (Custom) [1].
Rhowch enw’r iaith bersonol yn y maes Iaith (Language) [2], ac yna clicio’r botwm Llwytho i fyny (Upload) [3].
Agor Ffeil

Dewch o hyd i’r ffeil ar eich cyfrifiadur a’i dewis [1]. Cliciwch y botwm Dewis (Choose) neu Agor (Open) [2].
Golygu Capsiynau
Mae’r golygydd capsiynau’n ymddangos. I wneud unrhyw newidiadau i’r ffeil capsiynau sydd wedi’i llwytho i fyny, defnyddiwch y golygydd capsiynau.
I olygu llinell capsiwn, cliciwch y capsiwn [1].
I ychwanegu llinell capsiwn, cliciwch y botwm Mewnosod llinell (Insert line) [2].
Ar ôl i chi orffen defnyddio’r golygydd capsiynau, cliciwch y botwm Cau (Close) [3].
Gweld Capsiynau

Ar ôl ei llwytho i fyny, mae’r ffeil capsiynau yn ymddangos yn yr adran Rheoli capsiynau (Manage captions).
Sylwch: Gall ffeil cyfryngau fod a nifer o ffeiliau capsiynau mewn gwahanol ieithoedd. Ond, dim ond un ffeil capsiynau ym mhob iaith y gall ffeil cyfryngau ei chael.
Gweld Opsiynau Capsiynau
I weld opsiynau ar gyfer ffeil capsiynau, cliciwch yr eicon Opsiynau [1]. Gallwch chi olygu [2], llwytho i lawr [3], disodli [4], neu ddileu [5] unrhyw ffeil gapsiynau.
Sylwch: Mae ffeiliau capsiynau yn llwytho i lawr yn yr un fformat ffeil ag y cawson nhw eu llwytho i fyny (SRT neu VTT) Ar ôl eu llwytho i lawr, gallwch chi newid ffeiliau capsiynau i ffeiliau presesu geiriau ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron.
Galluogi Capsiynau

I weld capsiynau ar y cyfryngau, rhaid i gapsiynau fod ymlaen. I roi’r capsiynau ymlaen, cliciwch yn eicon Toglo Capsiynau Ymlaen.
Sylwch: Dim ond os oes gan y cyfryngau gapsiynau y mae’r eicon Toglo Capsiynau Ymlaen yn ymddangos.