Sut ydw i’n cael dolen gyhoeddus neu god plannu ar gyfer cyfryngau yn Canvas Studio?
Gallwch chi greu dolen gyhoeddus a chod plannu ar gyfer eich cyfryngau, gan eich galluogi i ddangos eich cyfryngau Studio ar wefannau cyhoeddus. Gallwch chi hefyd analluogi’r ddolen gyhoeddus a’r cod plannu er mwyn tynnu mynediad at y ffeil cyfryngau.
Mae’r wers hon yn dangos i chi sut i gael cod plannu neu ddolen yn uniongyrchol o’r dudalen Fy Eitemau. Ond, gallwch chi weld y ddolen a’r cod wrth weld cyfryngau.
Sylwch:
- Nid yw dadansoddiadau a sylwadau ar gael ar gyfer cyfryngau sy'n cael eu gweld drwy ddolen wedi'i rhannu.
- Mae gweld dolenni cyhoeddus a chodau wedi’u plannu yn hawl cyfrif. Os nad ydych chi’n gallu gweld y tab Dolenni, mae eich sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon i bob defnyddiwr heblaw am weinyddwyr Canvas Studio.
- Os ydych chi eisiau cynnwys sylwadau wrth blannu cyfryngau, mae angen i chi blannu drwy adnodd LTI Studio. Gallwch ddysgu sut mae plannu cyfryngau yn Canvas.
Rhannu Cyfryngau
Yn y dudalen Fy Llyfrgell, dewch o hyd i’r cyfryngau, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1] ac yna clicio’r ddolen Rhannu Cyfryngau (Share Media) [2].
Sylwch: Gallwch chi hefyd rannu cyfryngau o ddewislen Opsiynau Chwaraewr Cyfryngau Studio.
Agor Dolenni

Yn yr is-ffenestr Rhannu Cyfryngau, cliciwch y tab Dolenni (Links).
Sylwch: Os nad ydych chi’n gallu gweld y tab Dolenni, mae eich sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon i bob defnyddiwr heblaw am weinyddwyr Canvas Studio.
Creu Dolen Gyhoeddus

Cliciwch y botwm Creu Dolen Gyhoeddus (Create Public Link).
Sylwch: Os ydych chi eisoes wedi creu dolen gyhoeddus ar gyfer y cyfryngau, ni fydd y botwm Creu Dolen Gyhoeddus yn ymddangos.
Gweld Dolenni

Gweld y cod plannu a’r ddolen gyhoeddus sydd wedi cael ei chreu.
I rannu dolen gyhoeddus ,cliciwch y ddolen gyhoeddus yn y maes Dolen Gyhoeddus (Public Link) [1].
I ddefnyddio cod plannu, copïwch y cod plannu yn y maes Cod Plannu (Embed Code) [2].
Tynnu Dolen Gyhoeddus

I dynnu ac analluogi dolen gyhoeddus, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [1], yna cliciwch y botwm Wedi Gorffen (Done) [2].