Sut ydw i’n trimio ffeil cyfryngau yn Canvas Studio?

Gallwch chi drimio ffeil cyfryngau Studio drwy ddewis a thynnu deunydd o’r ffeil ar y dechrau, y diwedd, neu’r ddau.

Ar ôl trimio eich cyfryngau, gallwch chi ddisodli eich ffeil wreiddiol gyda’r fersiwn sydd wedi’i thrimio neu gallwch chi gadw’r cyfryngau wedi’u trimio fel ffeil newydd.

Sylwch:

  • Dim ond cyfryngau rydych chi’n cael gafael arnynt trwy’r dudalen Fy Llyfrgell allwch chi eu golygu.
  • Does dim modd i chi olygu cyfryngau cwrs wedi’u plannu o’u lleoliad yn y cwrs.
  • Os byddwch chi’n golygu ffeil cyfryngau sydd eisoes wedi’i phlannu mewn cwrs, galwch chi ei diweddaru i’r fersiwn wedi’i golygu drwy dynnu ac ail-blannu’r ffeil yn lleoliad y cwrs.
  • Dim ond cyfryngau rydych chi wedi’u llwytho i fyny i Studio allwch chi eu golygu.
  • Does dim modd i chi olygu fideos sydd wedi’i mewngludo o Youtube a Vimeo.
  • Os byddwch chi’n trimio ffeil cyfryngau sydd â chapsiynau, bydd y capsiynau’n cael eu trimio ochr yn ochr â’r fideo cyn agosed â phosib. Ar ôl trimio, gwnewch yn siŵr bod y ffeil a’r capsiynau’n cyfateb.

Agor y Golygydd Cyfryngau

Yn y dudalen Fy Llyfrgell, canfyddwch y cyfryngau a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [1]. Yna cliciwch y ddolen Golygu Cyfryngau (Edit Media) [2].

Sylwch: I olygu cyfryngau sydd wedi cael eu rhannu gyda chi, rhaid i chi gopïo’r cyfryngau i’ch llyfrgell.

Agor Modd Trimio

I drimio dechrau neu ddiwedd y cyfryngau, cliciwch y botwm Trimio.

Sylwch: Ni fydd amserlen y cyfryngau’n dangos rhagolygon ffrâm yn y golygydd fideo ar ddyfeisiau symudol.

Gweld Llithryddion Dewis

Mae llithryddion dewis i’w gweld ar ddechrau ac ar ddiwedd amserlen y cyfryngau.

Llusgo Llithryddion Dewis

I ddewis rhan o’r cyfryngau i’w dynnu ar y dechrau, cliciwch y llithrydd dewis chwith a’i lusgo i leoliad ar yr amserlen [1]. Bydd y rhan o’r amserlen sydd wedi’i dewis ar gyfer ei thrimio yn troi’n goch.

Wrth i chi lusgo’r llithrydd dewis, mae Studio yn dangos stampiau amser dechrau a diwedd ar gyfer y dewis gyfryngau rydych chi’n ei gadw [2].

Ewch ati i ailadrodd y broses ar ddiwedd yr amserlen gan ddefnyddio’r llithrydd dewis de [3].

Sylwch: I nesáu neu bellhau yn yr amserlen, defnyddiwch y botymau Nesáu/Pellhau (Zoom) [4].

Cadarnhau neu Waredu Trimio

Gweld y dewisiadau fydd yn cael eu tynnu o’r amserlen [1].

I drimio’r cyfryngau a dod â’r modd trimio i ben, cliciwch y botwm Cadarnhau Trimio (Confirm Trim) button [2].

I waredu y dewisiadau trimio a dod â’r modd trimio i ben, cliciwch y botwm Hepgor (Discard) [3].

Cadw neu Waredu Cyfryngau wedi’u Trimio

Gallwch chi barhau i olygu’r cyfryngau, cadw, neu waredu.

I gadw’r cyfryngau fel copi neu i ddisodli’r gwreiddiol, cliciwch y botwm Cadw (Save) [1].

I ddisodli’r holl olygiadau a dychwelyd i’r llyfrgell gyfryngau, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [2].

Cadarnhau Hepgor

Gwaredu Cyfryngau wedi’u Trimio

I ddisodli’r holl olygiadau a dychwelyd i’r llyfrgell gyfryngau, cliciwch y botwm Gadael a Gwaredu (Quit and Discard).

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Yn y ffenestr Cadw Newidiadau, gallwch chi ddisodli’r ffeil cyfryngau wreiddiol neu greu copi.

I ddisodli’r ffeil cyfryngau wreiddiol gyda’r cyfryngau wedi’i golygu, cliciwch y botwm radio Disodli’r cyfryngau gwreiddiol (Replace original media) [1].

I greu copi wedi’i olygu o’r cyfryngau gwreiddiol, cliciwch y botwm radio Creu copi (Create a copy) [2]. Yn ddiofyn, teitl y copi wedi’i drimio yw Copi: [teitl gwreiddiol]. I olygu’r teitl ar gyfer y copi, rhowch deitl newydd yn y maes Teitl (Title) [3].

I gadw’r newidiadau a dychwelyd i'r dudalen Fy Llyfrgell, cliciwch y botwm Cadw (Save) [4].

Sylwch: Os byddwch chi’n creu copi o ffeil cyfryngau rydych chi wedi’i rhannu a defnyddwyr neu grwpiau eraill, ni fydd y copi’n cael ei rannu’n awtomatig.