Sut ydw i’n ychwanegu capsiynau wedi’u creu’n awtomatig at fy ffeil cyfryngau yn Canvas Studio?

Yn Canvas Studio mae sawl ffordd o ychwanegu ffeil trawsgrifiad at eich cyfryngau.

Mae’r adnodd Cais Capsiynau Awtomatig wedi’i gynnwys gyda Canvas Studio. Mae’r adnodd awtomatig yn defnyddio technoleg i drawsgrifio iaith y ffeil cyfryngau gyda chywirdeb o 85%.

Os yw capsiynu proffesiynol ar gael yn eich rhanbarth, bydd yr opsiwn Proffesiynol ar gael yn y ffenestr cais Capsiynu.  Mae capsiynu proffesiynol yn defnyddio capsiynwr dynol sy’n trawsgrifio ffeiliau cyfryngau gyda chywirdeb o hyd at 99%.

Gallwch chi hefyd lwytho ffeiliau capsiynu i fyny ar gyfer eich cyfryngau Canvas Studio.

Nodiadau:

  • Unwaith bod Cyfryngau Canvas Studio yn cynnwys capsiynau, gall defnyddwyr eraill lwytho’r trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr.
  • Dim ond os yw eich rhanbarth yn contractio gyda’r gwasanaethau capsiynu proffesiynol Verbit neu Cielo24 y mae capsiynu proffesiynol ar gael.
  • Os nad yw’r opsiwn capsiynu proffesiynol yn ymddangos yn y ffenestr cais Capsiynu, nid yw capsiynu proffesiynol ar gael ar hyn o bryd yn eich rhanbarth. Cysylltwch â’ch gweinyddwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Agor Cyfryngau

Yn eich cyfrif Studio, dewch o hyd i’r cyfryngau rydych chi eisiau eu gweld yn y dudalen Fy Llyfrgell [1], neu gan ddefnyddio’r maes chwilio [2].

Mae cyfryngau sy’n cynnwys ffeil capsiynu yn dangos y bathodyn capsiynu [3].

I agor y ffeil cyfryngau, cliciwch y ddolen Gwedd (View) [4].

Agor Capsiynau

Agor Capsiynau

Cliciwch y tab Capsiynau (Captions) [1]. I wneud cais am drawsgrifiad capsiynau, cliciwch y botwm Cais (Request) [2].

Gwneud Cais am Gapsiynau Awtomatig

Gwneud Cais am Gapsiynau

Os nad oes gan y ffeil cyfryngau ffeil capsiynau cysylltiedig yn barod, gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Gwneud Cais am Gapsiynau i wneud cais am gapsiynau awtomatig.

I ddewis yr iaith sy’n cael ei siarad yn y ffeil, cliciwch y gwymplen Iaith (Language) [1].

I gadarnhau eich cais, cliciwch y botwm Cais (Request) [2].

Nodyn: Os nad yw’r opsiwn capsiynu proffesiynol yn ymddangos yn y ffenestr cais Capsiynu, nid yw capsiynu proffesiynol ar gael ar hyn o bryd yn eich rhanbarth.

Gwneud Cais am Gapsiynau Proffesiynol

Gwneud Cais am Gapsiynau Proffesiynol

Os yw capsiynu dynol proffesiynol ar gael yn eich rhanbarth, mae’r opsiwn Proffesiynol i'w weld. I ddewis capsiynu proffesiynol, cliciwch y botwm radio Proffesiynol (Professional) [1].

I ddewis yr iaith sy’n cael ei siarad yn y ffeil cyfryngau, cliciwch y gwymplen Iaith (Language) [2].

Mae’r mathau o wasanaethau capsiynu’n amrywio’n seiliedig ar y darparwr capsiynu. I ddewis math o wasanaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael gan ddarparwr eich rhanbarth, cliciwch y gwymplen Math o wasanaeth (Service type) [3].

I gadarnhau eich cais, cliciwch y botwm Cais (Request) [4].

Gweld Cais Capsiynu Mewn Ciw

Gweld y ceisiadau capsiynu mewn ciw

Mae ceisiadau capsiynu sy’n mynd rhagddynt yn dangos y dangosydd statws prosesu [1].

Mae ceisiadau capsiynu sydd wedi cael eu gwrthod neu sydd wedi methu yn dangos y dangosydd statws wedi methu [2].

Byddwch chi’n derbyn hysbysiad e-bost pan fydd y broses drawsgrifio capsiynau wedi gorffen.

Nodyn: Mae Canvas Studio’n cantiatáu un ffeil gapsiynu awtomatig ac un broffesiynol i bob iaith, i bob ffeil gyfryngau.

Adolygu a Chyhoeddi Ffeil Gapsiynu Awtomatig

Yn y tab Capsiynau, mae’r statws cyhoeddi i’w weld [1]. Er mwyn i gapsiynau awtomatig ymddangos yn eich cyfryngau, rhaid i chi adolygu a chyhoeddi’r ffeil.  

I adolygu a chyhoeddi’r ffeil, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [2]. Yna cliciwch y ddolen Adolygu a Chyhoeddi (Review and Publish) [3].

Adolygu Ffeil Capsiynau

Os ydych chi’n defnyddio capsiynau awtomatig, gallwch chi wneud unrhyw olygiadau i’r ffeil gapsiynau yn y golygydd capsiynau.

I gyhoeddi’r capsiynau, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].

I gau’r golygydd capsiynau heb gyhoeddi, cliciwch y botwm Cau (Close) [2].  

Rheoli Capsiynau wedi’u Cyhoeddi

I reoli capsiynau wedi’u cyhoeddi, cliciwch yr eicon Opsiynau [1]. I adolygu neu olygu capsiynau, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I lwytho’r ffeil gapsiynau i lawr, cliciwch y ddolen Llwytho i lawr (Download) [3]. I ddisodli’r ffeil gapsiynau gyda ffeil o’ch cyfrifiadur, cliciwch y ddolen Disodli (Replace) [4]. I ddileu’r ffeil gapsiynau, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [5].

Nodyn: Llwytho ffeilliau capsiynau Canvas Studio i lawr fel ffeiliau SRT. Ar ôl eu llwytho i lawr, gallwch chi newid ffeiliau capsiynau i ffeiliau presesu geiriau ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron.

Galluogi Capsiynau

Galluogi Capsiynau

Yn ddiofyn, mae capsiynau wedi’u diffodd. I roi’r capsiynau ymlaen yn y cyfryngau, cliciwch yn eicon Toglo Capsiynau Ymlaen.

Nodiadau:

  • Dim ond os oes gan y cyfryngau gapsiynau y mae’r eicon Toglo Capsiynau Ymlaen yn ymddangos.
  • Mae’r eicon capsiynau ar gael o’r ddewislen Gosodiadau ar sgriniau sydd yn 480px o led neu lai.