Sut ydw i'n cael gafael ar Canvas Studio?

Efallai y byddwch chi’n gallu cael gafael ar Canvas gan ddefnyddio gwefan Canvas Studio, unigol neu efallai y bydd eich sefydliad wedi ffurfweddu integreiddiad Canvas Studio ar gyfer Canvas LMS.

Gallwch chi ddefnyddio cyfrif Studio i weld, rhanu neu wneud sylw ar unrhyw ffeil cyfryngau sain neu fideo sydd wedi’u llwytho i fyny.

Trosolwg Mynediad

  • Mae defnyddwyr yn gallu llwytho i fyny a rheoli ffeiliau cyfryngau ar unrhyw adeg
  • Mae’r defnyddwyr sydd llwytho cyfryngau i fyny yn cael eu hystyried fel perchnogion y cyfryngau
  • Mae perchnogion cyfryngau’n gallu rheoli holl swyddogaethau a gosodiadau cyfryngau gan gynnwys gosod manylion defnyddwyr a gweld dadansoddiadau
  • Mae perchnogion cyfryngau’n gallu rheoli sylwadau yn eu cyfryngau
  • Mae perchnogion cyfryngau’n gallu rhan cyfryngau gyda defnyddwyr eraill a rhoi’r hawl i weld neu olygu.
  • Mae cyfryngau’n wastad yn caniatáu a dangos sylwadau.
  • Mae cyfryngau’n cynnwys dolen a chod plannu i’w ddefnyddio mewn gwefannau cyhoeddus (nid yw sylwadau byth yn cael eu dangos)

Gwefan Studio

Gwefan Studio

Os yw eich sefydliad yn defnyddio gwefan Canvas Studio, gallwch chi gael gafael ar Canvas Studio o URL gwefan Studio eich sefydliad.

Yn ogystal, mae gwefan fewngofnodi arall yn cael ei darparu ar gyfer gweinyddwyr mewn sefydliadau sy’n defnyddio Studio gyda Canvas LMS. Mae’r wefan hon ar wahân i Canvas ac mae’n cael ei chynnal ar URL gwahanol. Ond, mae’r holl gynnwys arall ar wefan Studio yr un fath ac mewn cyfrif Studio.

Mae cael gafael ar y wefan hon yn gofyn cael gwahoddiad e-bost i greu cyfrinair defnyddiwr. Mae unrhyw ddefnyddiwr sy’n cael gwahoddiad e-bost yn gallu cael gafael ar wefan Studio.

Trosolwg Mynediad

  • Rhaid i ddefnyddwyr fewngofnodi i URL gwahanol
  • Mae gan ddefnyddwyr yr un mynediad â chyfrifon Studio Safonol
  • Mae defnyddwyr sydd â rôl gweinyddwr Studio yn gallu rheoli defnyddwyr

Nodyn: Os yw eich sefydliad yn galluogi dull dilysu Canvas, gallwch chi fewngofnodi i’ch gwefan Studio gyda’r manylion adnabod Canvas.

Canvas

Pan fo wedi’i integreiddio â Canvas LMS, gellir cael gafael ar Studio ‘o’r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, o’r dewislen Crwydro'r Cwrs (i addysgwyr), ac fel adnodd allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae integreiddiad Canvas Studio yn caniatáu integreiddio rhyngweithio cyfryngau di-dôr yn addysg a dysgu.

Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan Canvas

Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan Canvas

Pan fo Studio wedi’i alluogi ar gyfer pob defnyddiwr mewn sefydliad, mae’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn dangos dolen Studio. Gallwch chi gael gafael ar eich cyfrif Studio o unrhyw le yn Canvas.

Nodyn: Os nad yw’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn dangos dolen Studio, efallai y bydd gennych chi fynediad at Studio trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Mae nifer o nodweddion Canvas yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Aseiniadau, Trafodaethau, a Thudalennau.

Hyd yn oed os nad oes gennych hi fynediad uniongyrchol at Studio trey’r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, efallai y byddwch chi’n gallu cael gafael ar Studio twy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Ond, mae mynediad trwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn golygu swyddogaethau gwahanol ac mae’n rhoi rhagor o reolaeth i addysgwr y cwrs.

I agor Studio, cliciwch yr eicon Studio [1]. Os nad yw’r eicon yn ymddangos yn syth yn y bar offer, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [2].

Trosolwg Mynediad

  • Dim ond wrth ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog y mae defnyddwyr yn gallu cael gafael ar eu cyfrif Studio, gan gynnwys ffeiliau cyfryngau wedi’u llwytho i fyny.
  • Nid yw myfyrwyr sy’n llwytho ffeil cyfryngau i fyny mewn cwrs neu grŵp yn cael eu hystyried yn berchnogion y fideo, mae’r copi o’r cyfryngau’n cael ei wneud i addysgwr y cwrs ei reoli.
  • Mae cyfryngau’n gallu cael eu plannu gyda neu heb sylwadau.
  • Ar ôl i gyfryngau gael eu plannu, mae addysgwyr yn gallu rheoli holl swyddogaethau a gosodiadau cyfryngau ar gyfer cyfryngau cwrs gan gynnwys gosod manylion defnyddwyr a gweld dadansoddiadau
  • Mae addysgwyr yn gallu rheoli sylwadau yn holl gyfryngau cwrs.
  • Nid yw sylwadau sydd eisoes yn bodoli mewn cyfryngau wedi’u plannu yn cael eu cynnwys mewn copïau o gwrs.