Beth yw Apiau Allanol (Adnoddau LTI)?

Mae LTI yn darparu fframwaith y gall LMS (Canvas) ei ddefnyddio i anfon gwybodaeth y mae modd ei dilysu am ddefnyddiwr at drydydd parti. Er mwyn i LTI weithio, mae’n rhaid i’r trydydd parti ddarparu allwedd defnyddiwr a chyfrinach a rennir y gall Canvas eu defnyddio i greu llofnod i ddilysu dilysrwydd y data sydd wedi’i anfon. Mae’r rhan fwyaf o wybodaeth am ddefnyddwyr yn ddienw yn ddiofyn ond mae modd newid hyn wrth osod y ffurfweddiad y tro cyntaf.

Mae modd ffurfweddu Apiau Allanol ar lefel y cyfrif neu lefel y cwrs.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Ap Allanol?

Pryd fyddwn i’n defnyddio Ap Allanol?

Mae Apiau Allanol yn ychwanegu swyddogaethau at gwrs Canvas. Er enghraifft, efallai y bydd addysgwr am gynnwys cymorth astudio (cardiau fflach, cwisiau byr ac ati) er mwyn helpu myfyrwyr i ddeall y cysyniadau sy'n cael eu haddysgu yn well.

Gall gweinyddwyr ychwanegu apiau allanol at gyfrifon ac isgyfrifon drwy XML, URL neu drwy eu ffurfweddu eu hunain.

Os nad yw'r apiau'n bodoli ar gyfer cwrs eisoes, gall addysgwyr ychwanegu apiau allanol yn eu cyrsiau i greu llwybrau dysgu ychwanegol ar gyfer myfyrwyr. Mae modd ychwanegu apiau allanol at Fodiwlau, at y ddewislen Crwydro'r Cwrs, at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac at Aseiniadau.

Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae modd cael mynediad at apiau allanol dryw’r eicon Apiau neu eu hychwanegu at y bar offer ar gyfer cyfrif.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Canolfan Apiau Canvas?

Pryd fyddwn i’n defnyddio Canolfan Apiau Canvas?

Gall gweinyddwyr ac addysgwyr hefyd alluogi apiau drwy’r Ganolfan Apiau, sydd wedi ei hintegreiddio yn uniongyrchol yn Canvas.

Mae Canolfan Apiau Canvas yn rhan o’r tab Apiau (Apps) yn Ngosodiadau’r Cyfrif ac yng Ngosodiadau'r Cwrs. Mae’n eich galluogi chi i wneud y canlynol:

  • Ychwanegu nodweddion newydd at Canvas ar lefel y cyfrif neu ar lefel y cwrs
  • Ffurfweddu apiau er mwyn cysylltu â modiwlau neu asesiadau
  • Gosod apiau heb gymorth TG
  • Creu profiad dysgu personol
  • Agor y drws i ragor o bosibiliadau
  • Hidlo apiau yn ôl enw
  • Gweld apiau sydd wedi’u gosod

Mae’r Ganolfan Apiau yn rhan o’r tab Apiau (Apps) yng Ngosodiadau'r Cyfrif ac yng Ngosodiadau’r Cwrs.

Gall gweinyddwyr reoli’r apiau y mae modd eu defnyddio mewn cyrsiau ar gyfer cyfrifon ac isgyfrifon drwy greu rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu yn yr Edu App Center a drwy reoli’r rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu yn Canvas.