Sut mae dyddiadau tymhorau, dyddiadau cyrsiau a dyddiadau adrannau yn gweithio yn Canvas?

Mae dyddiadau tymhorau, dyddiadau cyrsiau a dyddiadau adrannau yn symbiotig iawn. Maen nhw i gyd yn cydblethu ym mhob rhan o Canvas. Mae dyddiadau gwahanol yn gadael i ddefnyddwyr gwahanol gymryd rhan yn y cwrs.

Mae’r hierarchaeth dyddiadau yn cynnwys y canlynol:

  • Mae dyddiadau adrannau yn gallu disodli dyddiadau cyrsiau
  • Mae dyddiadau cyrsiau yn gallu disodli dyddiadau tymhorau

Hefyd, wrth ddisodli rhai o fanylion y cwrs, bydd y cwrs yn cael ei wneud yn agored.

Mae dyddiadau tymhorau, dyddiadau cyrsiau a dyddiadau adrannau yn gallu cael eu hychwanegu drwy brosesau mewngludo SIS hefyd. Mae ffeiliau CSV ymrestru SIS sy’n cynnwys gwerthoedd start_date ac end_date yn disodli dyddiadau tymor, dyddiadau cwrs, a dyddiadau adran.

Ar y cyd â'r wers hon, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Ymrestru ar gyfer Adran, Cyrsiau a Thymhorau i weld enghraifft o sut mae dyddiadau tymhorau, dyddiadau cyrsiau a dyddiadau adrannau yn cydblethu.

Nodiadau: Mae dyddiadau gorffen yn digwydd ar yr union funud y cawson nhw eu gosod. Er enghraifft, bydd cwrs sydd ag amser gorffen o 11:59pm yn gorffen am 11:59:00.

Gweld Manylion Tymor

Mae dyddiadau tymhorau yn diffinio cyfnod penodol ar gyfer sefydliad, lle gall defnyddwyr gymryd rhan mewn cwrs. Mae modd defnyddio dyddiadau tymhorau ar gyfer blwyddyn dau dymor, tri thymor neu bedwar tymor hefyd. Yn yr enghraifft hon, mae’r tymor yn cychwyn ar 2 Gorffennaf, 2018 ac yn dod i ben ar 23 Rhagfyr, 2018.

Mae gweinyddwyr yn rheoli pryd y bydd defnyddwyr penodol yn gallu cymryd rhan yn y cyrsiau. Oni nodir yn wahanol, bydd myfyrwyr yn etifeddu dyddiad dechrau'r tymor a dyddiad gorffen y tymor, a bydd Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu a Dylunwyr yn etifeddu dyddiad dechrau amhenodol at ddyddiad gorffen y tymor. Mae amhenodol yn golygu y gall y rolau defnyddiwr hyn gael mynediad at gwrs unrhyw bryd cyn i’r tymor ddechrau.

Nodyn: Dim ond gweinyddwyr all weld y dudalen Tymhorau (Terms) yn Canvas. Fydd addysgwyr a myfyrwyr ddim yn gallu gweld y dudalen Tymhorau, felly dylai gweinyddwyr wneud yn siŵr bod dyddiadau tymhorau eu sefydliad ar gael yn gyhoeddus er mwyn i addysgwyr a myfyrwyr fod yn ymwybodol ohonyn nhw – er enghraifft, drwy gatalog cyrsiau, eu nodi ar y wefan neu drwy ddull arall.

Rhybudd am Ddyddiadau Gorffen Tymhorau

Unwaith eto, yn yr enghraifft am ddyddiadau mynediad, dyma fyddai’r dyddiadau gorffen:

  • Gall addysgwyr (athrawon) [1] gael mynediad at gyrsiau tan 12:00am ar 31 Rhagfyr, 2018 (30 Rhagfyr yw’r dyddiad llawn olaf).
  • Bydd pawb arall sydd â dyddiad gorffen tymor (term end) [2] yn gallu cael mynediad at gyrsiau tan 12:00am ar 23 Rhagfyr, 2018 (22 Rhagfyr yw’r dyddiad llawn olaf).

Pan fydd tymor wedi dod i ben, bydd cyrsiau cysylltiedig yn cael eu gwneud yn rhai darllen-yn-unig (wedi’u harchifo). Mae darllen-yn-unig yn golygu nad yw cwrs ar gael ar gyfer cyflwyno asesiadau, postio trafodaethau, llwytho ffeiliau i fyny, graddio neu unrhyw dasgau gweithredu eraill mewn cwrs.

Nodyn: Dydy Canvas ddim yn rhoi rhybudd am ddyddiadau tymhorau ar hyn o bryd, fel y mae’n gwneud gyda dyddiadau cyrsiau.

Gweld Ymrestriadau yn y Dyfodol

Pan fydd defnyddiwr wedi’i ychwanegu at gwrs, bydd tymhorau’n gosod dyddiadau diofyn i bennu pryd bydd defnyddwyr yn gallu cael mynediad at gyrsiau sydd wedi’u neilltuo i’r tymor hwnnw. Mae mynediad yn ymwneud â chyrsiau sydd wedi’u cyhoeddi.

Os nad yw cwrs wedi’i gyhoeddi neu os nad yw’n cynnwys dolen [1], fydd myfyrwyr ddim yn gallu cael mynediad at gynnwys y cwrs nes dyddiad dechrau’r tymor.

Os yw cwrs wedi’i gyhoeddi [2], bydd myfyrwyr yn gallu gweld cynnwys cyn dechrau’r tymor. Ond, fyddan nhw ddim yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y cwrs, fel cyflwyno aseiniad neu gyfrannu at bwnc trafod. Ar ddyddiad dechrau’r tymor, bydd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y cwrs.

Mae’n bosib y bydd rhai sefydliadau’n dewis cyhoeddi eu cyrsiau ar yr un diwrnod â dyddiad dechrau’r tymor, felly dydy mynediad blaenorol at gynnwys y cwrs ddim yn berthnasol. Fodd bynnag, mae’n well gan rai adael i addysgwyr gyhoeddi eu cyrsiau eu hunain cyn dyddiad dechrau’r tymor, a chyfyngu mynediad myfyrwyr at y cwrs yn llwyr cyn i’r cwrs ddechrau. Mae hefyd yn bosib rhwystro myfyrwyr rhag gallu gweld cwrs ar ôl iddo ddod i ben.

Gweld Dyddiadau Cwrs

Efallai y bydd cyrsiau’n cael eu neilltuo i’r Tymor Diofyn (Default Term) neu i dymor penodol [1]. Yn ddiofyn, bydd dyddiadau cwrs yn dilyn dyddiadau tymor yn ddiofyn. Ond, mae modd gosod dyddiadau cwrs i ddisodli dyddiadau tymor neu i gyd-fynd â dyddiad tymor. Gall gweinyddwyr ac addysgwyr reoli’r dyddiadau hyn.

I ddisodli dyddiadau tymor, dewiswch yr opsiwn Cwrs (Course) o’r gwymplen cymryd rhan [3]. Gellir gosod dyddiadau cymryd rhan mewn cwrs yn y tymor neu eu hymestyn ar ôl y tymor [4]. Wrth ychwanegu dyddiad dechrau neu orffen cymryd rhan mewn cwrs, bydd y cwrs yn cael ei ychwanegu at y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau (os yw’r cwrs wedi’i farcio fel ffefryn) neu dynnu’r cwrs o’r Dangosfwrdd, a bydd myfyrwyr yn dal yn gallu cymryd rhan yn y cwrs drwy fynd i’w rhestr Cyrsiau hyd at ddiwedd y tymor. Mae’r cwrs ar ffurf darllen yn unig i fyfyrwyr ac arsyllwyr y tu all i ddyddiadau cymryd rhan yn y cwrs.

Er enghraifft, os mai 31 Awst–20 Rhagfyr yw dyddiadau’r tymor, byddai’r addysgwr yn gallu trefnu bod modd cael mynediad at y cwrs wythnos yn ddiweddarach, a dod â'r cwrs i ben wythnos yn gynharach. Drwy newid dyddiadau dechrau a gorffen y cwrs i fod yn gynharach, dim ond ar ffurf darllen-yn-unig y bydd y cwrs ar gael i’r myfyrwyr cyn ac ar ôl y dyddiadau hynny. Mae’r addysgwr yn dal yn gallu rheoli cynnwys a graddau’r cwrs cyn dyddiad gorffen y tymor sydd wedi’i osod ar gyfer addysgwyr.

Mae gweinyddwyr ac arsyllwyr hefyd yn gallu newid gosodiadau mynediad myfyrwyr i ganiatáu neu i atal myfyrwyr rhag gweld y cwrs cyn y dyddiad dechrau neu’r dyddiad gorffen [5].

Nodiadau:

  • Os ydy dyddiad diwedd cyfranogiad cwrs wedi’i osod i hanner nos, bydd rhybudd yn ymddangos [6].
  • Mae dyddiadau’r cwrs yn pennu ei leoliad ar restr Cyrsiau myfyriwr (ymrestriadau yn y gorffennol, ar hyn o bryd neu yn y dyfodol).

Gweld Dyddiadau Adran

Gweld Adrannau

Dyddiadau Adrannau yw’r rhai mwyaf hyblyg. Mae modd symud adrannau o’r naill dymor i’r llall, neu o’r naill gwrs i’r llall. Os bydd angen symud ymrestriadau ar gyfer adran, e.e. er mwyn traws-restru adran i gwrs arall, dylid symud ymrestriadau adran cyn i fyfyrwyr gyflwyno unrhyw waith cwrs, gan nad oes modd trosglwyddo manylion cymryd rhan mewn cwrs i adrannau eraill.

Bydd dyddiadau adran yn dilyn dyddiadau cwrs yn ddiofyn, oni bai eich bod hefyd wedi nodi dyddiadau diystyru manylion adran.

Mae dyddiadau disodli yn cael eu creu os yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi ei ddewis fel rhan o broses creu dyddiadau dechrau a gorffen adran (mae angen y ddau ddyddiad).

Gall adrannau gael dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol. Er enghraifft, byddai Adran 2 yn gallu dechrau ar 26 Medi, 2018 a dod i ben ar 14 Rhagfyr, 2018. Mae adrannau ar yr un cwrs yn gallu rhannu deunyddiau cwrs, ac mae’n bosib y bydd ganddyn nhw wahanol ddyddiadau erbyn.