Beth yw safonau hygyrchedd Canvas?

Mae sicrhau profiad hygyrch a dymunol i bob defnyddiwr, beth bynnag fo’u hanabledd, yn elfen allweddol o feddalwedd Canvas. Adeiladwyd llwyfan Canvas gan ddefnyddio’r technolegau HTML a CSS mwyaf modern, ac mae wedi ymrwymo i Fenter Hygyrchedd Gwe W3C a chanllawiau Adran 508.

Mae’r Templed Hygyrchedd Cynnyrch Gwirfoddol neu VPAT, yn adnodd y gall gweinyddwyr a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio i werthuso cydymffurfiad Canvas a’r safonau hygyrchedd o dan Adran 508 y Ddeddf Adfer. Rhagor o wybodaeth am Dempled Hygyrchedd Cynyrch Gwirfoddol Canvas.

Gellir dod o hyd i ganllawiau dylunio hygyrchedd cyffredinol yn y ddogfen Canllawiau Dylunio Hygyrchedd Cyffredinol

Gallwch chi ddarllen mwy am y gwelliannau hygyrchedd a nodwedd diweddaraf yn Nodiadau Rhyddhau Cynnyrch Canvas. Os oes gennych chi ragor o awgrymiadau, cysylltwch â accessibility@instructure.com.

Darllenwyr Sgrin a Phorwyr

Mae pob nodwedd a fersiwn Canvas yn cael eu profi â llaw gyda'r cyfuniadau canlynol o ddarllenwyr sgrin a phorwyr: 

  • JAWS (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Chrome/Firefox ar Windows)
  • NVDA (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Chrome/Firefox ar Windows)
  • VoiceOver (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Safari/Chrome ar Macintoch ac iOS mobile)
  • Talkback (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Android mobile)

Mae’r cyfuniad o borwyr a darllenwyr sgrin yn cael eu dewis yn seiliedig ar yr ystadegau defnyddio darllenwyr sgrin a phorwyr diweddaraf, gan sicrhau bod y cyfuniadau gorau’n cael eu cynnal ar gyfer yr ystod ehangaf o ddefnyddwyr Canvas. Wrth i ddewisiadau newid a sefydlogi dros amser, mae profi a chymorth Canvas yn newid i gyd-fynd â nhw.

Mae Canvas wedi’i ddylunio fel bod defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gallu defnyddio eu hoff ddarllenwyr sgrin a phorwyr yn hyderus. Ond, mae’r amrywiaeth o gyfuniadau o borwyr a darllenwyr sgrin yn golygu mai dim ond y cyfuniadau sydd wedi’u rhestru uchod sydd wedi’u profi i gadarnhau eu bod yn gweithio’n dda yn Canvas. Os byddwch chi’n wynebu problemau wrth ddefnyddio eich cyfuniad o borwr a darllenydd sgrin, ailystyriwch a defnyddio’r cyfuniadau swyddogol sydd wedi’u rhestru uchod. Os byddwch chi’n wynebu problemau gyda chyfuniad swyddogol o ddarllenydd sgrin a phorwr, gadewch i Dîm Cymorth Canvas wybod am eich profiad.

Gallwch ddysgu mwy am borwyr mae Canvas yn gallu deli â nhw.

Crwydro Canvas a Darllenwyr Sgrin

Mae Canvas yn gwneud defnydd sylweddol o ranbarthau tirnod ARIA. Mae Rhaglenni Rhyngrwyd Cyfoethog Hygyrch (ARIA) yn diffinio ffyrdd o wneud cynnwys gwe a rhaglenn gwe yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Felly’r ffordd orau o fynd i grwydro yn Canvas yw crwydro drwy ranbarthau. Mewn rhanbarthau, mae Canvas yn defnyddio penawdau HTML, felly mae crwydro rhwng penawdau’n gallu bod yn ddefnyddiol.

Wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin, mae dewislen crwydro tudalennau Canvas fel a ganlyn:

1. Prif grwydro

2. Crwydro cyd-destun

3. Crwydro briwsion

4. Prif ranbarth

5. Gwybodaeth gyflenwol

6. Gwybodaeth cynnwys

Cydrannau Hygyrchedd Canvas

Mae Canvas yn cynnwys sawl nodwedd hygyrchedd unedig y gellir dod o hyd iddynt ar sawl tudalen yn Canvas.

Symud Cynnwys yn Canvas

Pryd bynnag y bydd llusgo a gollwch yn cael ei ddefnyddio i aildrefnu cydrannau, bydd yr opsiwn Symud i hefyd ar gael a bydd yn gadael i ddefnyddwyr bysellfyrddau a darllenwyr sgrin symud cynnwys Canvas. Mae’r opsiwn Symud i ar gael yn y nodweddion canlynol:

  • Dewislen Crwydro’r Cwrs
  • Modiwlau
  • Trafodaethau
  • Aseiniadau
  • Deilliannau
  • Cwisiau
  • Cwisiau Newydd

Bysellau Hwylus

I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus mewn trafodaeth unigol, cyhoeddiad neu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell. I weld ffenestr gyda rhestr fysellau crwydro hwylus yn y dudalen Mynegai Aseiniadau, y dudalen Mynegai Modiwlau, y Llyfr Graddau, a SpeedGrader, pwyswch Shift+? Ar eich bysellfwrdd. Mae bysellau hwylus ar gael ar y tudalennau Canvas canlynol:

Nodiadau:

Hygyrchedd Nodweddion Canvas

Mae sawl un o nodweddion Canvas wedi cael eu gwella’n benodol ar gyfer hygyrchedd. Efallai y bydd nodweddion eraill yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Mae’r adran hon yn tynnu sylw ar sawl ardal nodwedd ac ymddygiadau hygyrchedd.

Calendr: Mae’r Calendr yn gallu delio â Gwedd Agenda, sy’n rhestru’r holl aseiniadau a digwyddiadau mewn fformat agenda neu restr. Dysgu sut i gael mynediad at y Wedd Agenda Calendr.

Sgwrs: Mae gan yr Adnodd Sgwrs opsiwn i alluogi hysbysiadau sain pan fo negeseuon newydd yn cael eu postio.

Maint font: Mae rhyngwyneb Canvas yn defnyddio maint rem ar gyfer ffontiau fel bod unrhyw deipograffeg yn nesáu pan fydd y porwr yn cael ei nesáu ac yn newid maint os bydd ffont maint porwr personol yn cael ei dewis neu ei gosod o osodiadaau porwr.

Llyfr Graddau: Mae’r Llyfr Graddau a’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu yn gallu delio â gwell unigol, lle mae addysgwyr yn gallu gweld aseiniadau a graddau un myfyriwr ar y tro. Dysgwch ragor am y wedd unigol yn y Llyfr Graddau a’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu.

Cwisiau: Mae Cwisiau’n gadael i addysgwyr safoni cwis ar gyfer unigolion sydd angen rhagor o amser neu sydd angen mwy nag un cynnig. Dysgwch sut i roi rhagor o amser neu geisiadau mewn cwis.

Cwisiau Newydd: Mae Cwisiau Newydd yn gadael i addysgwyr safoni cwis ar gyfer unigolion sydd angen rhagor o amser neu sydd angen mwy nag un cynnig. Dysgwch sut i roi rhagor o amser neu geisiadau mewn Cwis Newydd.

Golygydd Cynnwys Cyfoethog: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn gallu delio a mwy nag un nodwedd hygyrchedd ar gyfer creu cynnwys hygyrch yn hawdd:

  • Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys adnodd hygyrchedd sy'n gwirio gwallau hygyrchedd cyffredin yn y golygydd. Gall yr adnodd hwn eich helpu chi i lunio cynnwys ar gyfer cwrs gan ystyried priodoleddau hygyrchedd, ac mae ym mar dewislenni’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Dysgwch sut i ddefnyddio’r Gwirydd Hygyrchedd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Dylai testun amgen gael ei ychwanegu wrth blannu delweddau allanol. Dysgwch sut i blannu delweddau o’r we yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Dylai capsiynau caeedig gael eu plannu ar gyfer fideos sy’n cael eu llwytho i fyny i Canvas. Dysgwch sut i weld a rheoli capsiynau gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Mae modd newid penawdau ar gyfer colofnau a rhesi tabl yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog neu yn y wedd Golygydd HTML.

SpeedGrader/DocViewer/Anodiadau: Mae myfyrwyr bellach yn gallu cael mynediad at anodiadau a sylwadau gyda darllenydd sgrin, gan gynnwys gwybodaeth am y math o anodiad, enw’r awdur, sylw, ac unrhyw sylwadau ateb ar ddiwedd y ddogfen. Edrychwch ar y post blog i gael rhagor o wybodaeth.

Gosodiadau Defnyddiwr: Mae’r dudalen Gosodiadau Defnyddiwr yn cynnwys dau opsiwn nodwedd i wella hygyrchedd. Dysgwch sut i newid gosodiadau defnyddiwr.

  • Rhyngwyneb y defnyddiwr â chyferbyniad uchel: Pan fo wedi’i galluogi, mae’r nodwedd hon yn cynnig cyferbyniad uwch mewn botymau, tabiau, ac ardaloedd eraill drwy Canvas.
  • Tanlinellu Dolenni: Pan fydd wedi’i galluogi, bydd y nodwedd hon yn tanlinellu hyperddolenni mewn dewislenni crwydro, ar y Dangosfwrdd ac mewn barrau ochr ar dudalennau.

Hygyrchedd Integreiddio Trydydd Parti (LTI)

Mae Canvas yn cynnig nifer o integreiddiadau rhaglen LTI dewisol fel rhan o’n hymrwymiad i addysg agored. Pan fyddwn ni’n adolygu adnoddau integreiddio newydd, mae nodweddion hygyrchedd wastad yn ystyriaeth bwysig. Yn anffodus, gan fod integreiddiadau’n cael eu creu gan ddatblygwyr trydydd parti ac yn cael eu cynnig i gleientiaid Canvas fel gwasanaeth dewisol, allwn ni ddim sicrhau bod yr integreiddiadau hyn yn cyrraedd yr un safonau â rhai Canvas craidd. Felly, os yw sefydliad eisiau ymgorffori integreiddiiad lle mae’n bosib y bydd angen nodweddion ychwanegol, rydym ni’n argymell bod y sefydliad yn cysylltu â’r datblygwr yn uniongyrchol gydag unrhyw bryderon penodol.

Mae rhai integreiddiadau’n wasanaethau di-ddewis sy’n cael eu cynnal yn Canvas. Dylai unrhyw broblemau hygyrchedd gyda gwasanaethau sy’n cael eu cynnal gan Canvas gael eu cyflwyno fel tocyn cymorth drwy broses gymorth y sefydliad. Rydym ni’n agored i awgrymiadau ar gyfer integreiddiadau newydd ac mae gennym ardal yn fforwm Instructure Community ar gyfer ceisiadau nodweddion.

Adnoddau Hygyrchedd Ychwanegol

Adnodd Archwilio Cynnwys Dyluniad Cyffredinol Ar-lein (UDOIT): (ynganir, You Do It) yn galluogi staff i nodi problemau hygyrchedd yn eu cynnwys cwrs Canvas. Bydd yn sganio cwrs, yn paratoi adroddiad, ac yn darparu adnoddau ar sut i fynd i’r afael â phroblemau hygyrchedd cyffredin. Cafodd ei greu gan y Ganolfan ar gyfer Dysgu Gwasgaredig (CDL) ym Mhrifysgol Canolbarth Florida (UCF).

Cafodd cyfraniadau sylweddol at y canllaw hwn eu gwneud gan:

  • John Raible: Dylunydd Addysgol yn y Ganolfan ar gyfer Dysgu Gwasgaredig ym Mhrifysgol Canolbarth Florida
  • Nancy Swenson: Dylunydd Addysgol yn y Ganolfan ar gyfer Dysgu Gwasgaredig ym Mhrifysgol Canolbarth Florida