Beth yw Modiwlau?

Mae modiwlau'n caniatáu i addysgwyr drefnu cynnwys er mwyn helpu i reoli llif y cwrs.

Caiff modiwlau eu defnyddio i drefnu cynnwys cwrs yn ôl wythnosau, unedau neu strwythur sefydliadol gwahanol. I bob pwrpas, mae modiwlau'n creu llif llinol a phenodol o’r hyn mae myfyrwyr yn ei wneud mewn cwrs.

Gall pob modiwl gynnwys ffeiliau, trafodaethau, aseiniadau, cwisiau a deunyddiau dysgu eraill. Mae modd ychwanegu eitemau modiwlau at y cwrs o gynnwys sy'n bodoli eisoes neu o gregyn cynnwys newydd yn y modiwlau. Mae modd ychwanegu cynnwys cwrs at fwy nag un modiwl neu ei ailadrodd fwy nag unwaith mewn modiwl unigol. Gellir trefnu modiwlau yn hawdd drwy ddefnyddio’r nodwedd llusgo a gollwng. Mae modd aildrefnu elfennau yn y modiwlau drwy lusgo a gollwng hefyd.

Nodyn: Mae modd defnyddio bysellau hwylus i ddefnyddio’r dudalen Modiwlau. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.

Gwedd Addysgwr

Gwedd Addysgwr

Gall addysgwyr ychwanegu holl ddeunydd cwrs at fodiwlau, hyd yn oed os yw wedi cael ei neilltuo ar gyfer myfyrwyr, adrannau neu grwpiau penodol.

Defnyddio Modiwlau i Wneud y Canlynol:

  • Creu gweithgareddau rhagofynnol y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu cwblhau cyn symud ymlaen yn y cwrs.
  • Tracio cynnydd myfyrwyr drwy ddilyniant o weithgareddau dysgu
  • Trefnu cynnwys cwrs yn ôl unedau, diwrnodau, wythnosau, pynciau neu ddeilliant

Gwedd Myfyriwr

Gwedd Myfyriwr

Dim ond cynnwys modiwlau sydd wedi cael ei gyhoeddi a’i neilltuo iddyn nhw all myfyrwyr ei weld. Gall pob modiwl gynnwys ffeiliau, trafodaethau, aseiniadau, cwisiau a deunyddiau dysgu eraill. Gellir ehangu a chrebachu modiwlau.